Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Ôl-raddedig - Ymwybyddiaeth Ofalgar a Llesiant ar gyfer Ymarferwyr Proffesiynol (Tystysgrif Ôl-raddedig)
Ymwybyddiaeth Ofalgar a Llesiant ar gyfer Ymarferwyr Proffesiynol (Tystysgrif Ôl-raddedig)
Mae’r rhaglen hon yn cynnig y cam nesaf ar ôl cwblhau cwrs 8 wythnos, a chyfle i ddatblygu eich dysgu ym maes eich gweithgarwch proffesiynol, beth bynnag yw hynny. Byddwch yn ystyried sut y gall ymagweddau seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar at lesiant gyfoethogi ffyrdd personol, cyfundrefnol a chymunedol ehangach o fod yn yr 21ain Ganrif. Er mai dysgu ar-lein ydyw, mae sesiynau galw heibio arfer wythnosol wedi’u llunio i greu ymdeimlad o gymuned ymhlith myfyrwyr, lle bynnag rydych chi.
Sut i wneud cais
Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cadw Lle ar Ddiwrnod Blasu Cais am Wybodaeth Gwnewch Gais Nawr
£2,500
- Cyflwynir y Dystysgrif drwy ddulliau dysgu cyfunol ac o bell, fel y gallwch fod yn rhan ohono ble bynnag yr ydych yn byw neu beth bynnag yw eich ymrwymiadau gwaith.
- Nod sesiynau arfer galw heibio ar-lein wythnosol i feithrin ymdeimlad o gymuned a phrofiad a rennir.
- Yn eich galluogi i gymryd eich diddordeb mewn ymwybyddiaeth ofalgar i’r lefel nesaf, gan ei gymhwyso i’ch maes gwaith neu ddiddordeb mewn ffordd sy’n gallu ychwanegu gwerth at eich gweithgareddau.
- Mae’n darparu platfform i allu adfyfyrio’n ffurfiol ar eich profiad, gan ennill hunan-ymwybyddiaeth a mewnwelediad, a’r potensial i dyfu.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r rhaglen yn ffocysu ar feysydd allweddol o arfer personol, arfer seiliedig ar drugaredd a diwylliant a chymunedau.
Mae’n dechrau gyda’r unigolyn, yng nghyd-destun eu gweithle, yn ymestyn i ystyried ymagwedd seiliedig ar drugaredd ac yna’n ehangu i gynnwys diwylliant a chymunedau, gyda chynaliadwyedd yn ffocws drwyddi draw.
Mae’n ymgysylltu â’r arfer da ac unplygrwydd sy’n sail i ymagweddau at ymwybyddiaeth ofalgar, yn ogystal â’r agenda gwleidyddol ehangach lle bo ymwybyddiaeth ofalgar yn ceisio dylanwadu ar bolisi.
Mae’r rhaglen yn cysylltu theori, arfer ac ystyriaeth o effaith proffesiynol i gyfoethogi llesiant personol ac yn y gweithle.
Byddwch yn astudio modiwlau fel:
HPMW7001 – Yr Ymarferydd Ystyriol (Ysgolion)
Mae’r modwl hwn yn rhoi i fyfyrwyr y sgiliau i fyfyrio’n feirniadol ar eu harfer eu hunain yng nghyd-destun y gweithle, gyda ffocws ar ysgolion a phobl ifanc, er mwyn hyrwyddo llesiant.
Bydd hyn yng nghyd-destun ehangach ymchwil a damcaniaethau creiddiol, ac yn adeiladu tuag at astudiaeth achos yn y maes gweithredu dan sylw.
Bydd damcaniaethau ar arfer adfyfyriol a methodoleg astudiaethau achos yn cael eu haddysgu, a’u cymhwyso i leoliad gweithle.
HPM7002 – Yr Ymarferydd Ystyriol
Mae’r modwl hwn yn rhoi i fyfyrwyr y sgiliau i fyfyrio’n feirniadol ar eu harfer eu hunain yng nghyd-destun y gweithle, er mwyn hyrwyddo llesiant.
Bydd hyn yng nghyd-destun ehangach ymchwil a damcaniaethau creiddiol, gyda ffocws ar arfer da mewn lleoliad gweithle.
Bydd damcaniaethau o arfer adfyfyriol a gwerthuso beirniadol yn cael eu harchwilio o fewn
Dim ond un o’r modylau, HPMW7001 a HPMW7002, y gellir ei wneud. Gall y naill neu’r llall fod yn fodwl cyntaf y rhaglen.
HPMW7003 Arferion Trugarog a Gwaith
Bydd y modwl hwn yn galluogi myfyrwyr i archwilio i theori ac arfer tosturi a hunan-dosturi ystyrlon, a’r effaith ar fywyd proffesiynol.
Caiff heriau i arfer tosturiol yn y gweithle eu dadansoddi a’u hasesu’n feirniadol, gan ddefnyddio ystod o fodelau ac ymagweddau.
Ymgymerir ag arferion sy’n ffocysu ar y galon a myfyrdodau tosturi ystyrlon ac yna gwerthusir yr effaith. Faint o le sydd i dosturi yn ein gweithleoedd?
HPMW7004 Ymwybyddiaeth ofalgar, Diwylliant a Chymunedau
Mae’r modwl hwn yn ystyried rôl ymwybyddiaeth ofalgar yng nghyd-destun newid cymdeithasol, gwleidyddol a chyfundrefnol ehangach.
Byddwn yn dadansoddi’n feirniadol yr ymchwil perthnasol, gan adnabod meysydd lle gallai bod angen rhagor o ymchwil seiliedig ar dystiolaeth yn y maes newydd hwn.
Caiff arfer ymwybyddiaeth ofalgar seiliedig ar natur ei archwilio
Plîs sylwch, mae modiwlau'n newid ychydig o flwyddyn i flwyddyn, oherwydd newidiadau staff, datblygu'r cwricwlwm ac argymhellion yn dilyn dilysu.
Nid oes dim arholiadau ar y rhaglen hon. Llunnir asesiadau i alluogi myfyrwyr i arddangos eu dealltwriaeth academaidd yng nghyd-destun datblygiad personol a gweithgarwch proffesiynol. Byddant yn cynnwys rhai o’r canlynol:
- Astudiaeth Achos
- Traethodau adfyfyriol
- Aseiniad ysgrifenedig
- Cyflwyniad
Dolenni Perthnasol
Gwybodaeth allweddol
- Heather Fish
Fel arfer, rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd.
Bydd cymwysterau galwedigaethau a phrofiad hefyd yn cael eu hystyried.
Yn ogystal, rhaid bod ymgeiswyr wedi cwblhau cwrs 8 wythnos o’r rhestr a ganlyn, (a all gael ei ddiweddaru):
- Lleihau Straen yn seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar (MBSR)
- Mindfulness-based Cognitive Therapy (MBCT)
- Sylfaeni Dotb
- Ymwybyddiaeth Ofalgar Tawelwch Meddwl mewn Byd Gorwyllt
- Ymwybyddiaeth Ofalgar ar gyfer Arweinwyr Addysg (MEL)
- Y Presennol ar gyfer Oedolion
Bydd rhaid bod ymgeiswyr sy’n ymgymryd â Modwl HBMW7001, Yr Ymarferydd Ystyriol (Ysgolion) hefyd wedi cael hyfforddiant mewn un o’r canlynol, (a allai gael ei ddiweddaru):
- Addysgu dotb (Prosiect Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn Ysgolion)
- Addysgu pawsb (Prosiect Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn Ysgolion)
- Y Presennol
- Ymwybyddiaeth Ofalgar i Bobl Ifanc
Bydd y rhaglen hon yn galluogi i ymarferwyr proffesiynol ddyfnhau eu gwybodaeth a’u sgiliau yn y maes hwn a’u cymhwyso i’r maes gwaith hwn. Fel y cyfryw, gall gyfoethogi dilyniant gyrfaol ar adeg pan fo cynnydd yn y galw am arbenigedd mewn ymwybyddiaeth ofalgar a llesiant mewn llawer o feysydd.
Gall hyn gynnwys:
- Addysg
- Gwaith Ieuenctid
- Y Sector Iechyd
- Adnoddau Dynol
- Cwnsela
- Diwydiannau creadigol
Bydd costau ychwanegol yn cynnwys prynu gwerslyfrau hanfodol a mynychu cynhadledd flynyddol.
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.
Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.