Mae'n fwy ac yn fwy anodd gwahanu'r dechnoleg oddi wrth reoli gweithgynhyrchu.
Mae'r cymhlethdod hwn wedi ei ddwysáu gan yr angen i reoli cadwyni a rhwydweithiau cyflenwi estynedig, integredig ar lefel fyd-eang.
Mae'r naill a’r llall wedi cynyddu'n sylweddol o ran cymhlethdod gyda phwysigrwydd cynyddol deunyddiau a phrosesau newydd. Mae'r cymhlethdod hwn wedi ei ddwysáu gan yr angen i reoli cadwyni a rhwydweithiau cyflenwi estynedig, integredig ar lefel fyd-eang.
Mae'r rhaglen Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu yn darparu sylfaen drylwyr mewn technoleg a deunyddiau gweithgynhyrchu, dylunio a gweithgynhyrchu drwy gymorth cyfrifiadur, ynghyd ag ystyriaeth gyfoes o reoli systemau ansawdd a gweithgynhyrchu.
Mae'r Rhaglen Gradd Baglor Prentisiaethau wedi'i hachredu yn un sy'n bodloni'r gofyniad academaidd, yn rhannol, ar gyfer cofrestru Peiriannydd Siartredig (CEng yn Rhannol) ar gyfer y carfannau sy’n dechrau o 2015 tan, a chan gynnwys, 2023.
Mae ein cwricwlwm sy'n canolbwyntio ar y diwydiant yn anelu at gynhyrchu arweinwyr diwydiant peirianneg yfory.
Pynciau Modwl
LEFEL 4
- Gwyddor Peirianneg 1 | 20 credyd
- Gwyddor Peirianneg 2 | 20 credyd
- Mathemateg | 20 credyd
- Dylunio Peirianneg | 20 credyd
- Deunyddiau a Chyflwyniad i Dechnoleg Gweithgynhyrchu | 20 credyd
- Cymwysiadau Peirianneg a Sgiliau Astudio I | 20 credyd
LEFEL 5
- Prosiect Grŵp | 20 credyd
- Rheoli Arloesedd a Chynaliadwyedd | 20 credyd
- Peirianneg â chymorth cyfrifiadurol a Dadansoddi Straen | 20 credyd
- Rheoli ac Awtomeiddio | 10 credyd
- Deinameg | 10 credyd
- Dylunio Gweithgynhyrchu a Thechnoleg | 20 credyd
- Systemau Gweithgynhyrchu | 10 credyd
- Mecaneg Thermohylif 1 | 10 credyd
LEFEL 6
- Prosiect Mawr | 40 credyd
- Dulliau Cyfrifiadurol Uwch | 20 credyd
- Dadansoddiad Straen Uwch a FEA | 20 credyd
- Peirianneg Peiriannau ac Asedau | 20 credyd
- Prosesau a Deunyddiau Uwch | 20 credyd
Asesu
Addysgir myfyrwyr drwy gyfres o ddarlithoedd, tiwtorialau, labordai a sesiynau ymarferol. Caiff cynnydd ei asesu drwy aseiniadau, arholiadau a phrosiectau unigol.
Un o brif rannau'r flwyddyn olaf fydd prosiect y flwyddyn olaf. Prosiect seiliedig ar waith yw hwn a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio'r wybodaeth a ddatblygwyd gydol y cwrs i ddatrys problem go iawn ym maes peirianneg yn y gweithle.