Bu galw ers tro yn y diwydiant am arbenigwyr cyfrifiadurol sy’n deall caledwedd, meddalwedd ac agwedd gyfathrebu systemau cyfrifiadurol ac electronig. Wrth i dechnoleg symud yn ei blaen, mae systemau electronig mewnblanedig yn ymddangos yn helaeth mewn meysydd sy’n cynnwys y canlynol — ond heb fod yn gyfyngedig iddynt: cerbydau trydan, gweithgynhyrchu, cynhyrchu pŵer, rhwydweithiau trosglwyddo a dosbarthu, dyfeisiau clyfar, systemau cyfathrebu a gwybodaeth.

Bydd graddedigion o'r rhaglen hon yn meddu ar y sgiliau a'r wybodaeth sydd ar flaen y gad yn eu disgyblaeth i fodloni gofynion arbenigol diwydiant, gan wella cyflogadwyedd graddedigion. Mae cynaliadwyedd bywyd modern yn dibynnu ar leihau allyriadau carbon drwy gynyddu effeithiolrwydd ynni dyfeisiau trydanol a defnyddio cerbydau trydan. 

Er mwyn cefnogi'r anghenion cymdeithasol hyn, rhaid i'r genhedlaeth newydd o beirianwyr allu deall technolegau newydd a thechnolegau sy'n datblygu. Lluniwyd y rhaglen hon i gyfoethogi perthnasedd diwydiannol drwy ganolbwyntio ar gymhwyso theori’n ymarferol gan gynnal trylwyredd academaidd. 

Bydd y cwrs Systemau Electronig Mewnblanedig hwn yn datblygu gwybodaeth am y systemau caledwedd a meddalwedd sydd eu hangen ar gyfer cyfrifiaduron modern. Hefyd, mae’n canolbwyntio ar electroneg analog, electroneg ddigidol, microbroseswyr a phrosesu signalau digidol a chyfathrebu. 

Rhoddir pwyslais ar ymarferion ymarferol i atgyfnerthu’r cysyniadau damcaniaethol a drafodir mewn darlithoedd. Gwneir defnydd helaeth o becynnau meddalwedd o safon ddiwydiannol, fel Matlab , Xilinx, Mentor Graphics a Visual Development Studio Microsoft. 

Mae gan yr Ysgol systemau prosesu signalau digidol a systemau datblygu synthesis digidol o’r radd flaenaf, a wnaed yn bosibl drwy roddion o offer gan Xilinx a Texas Instruments. Mae’r rhain yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad ymarferol o’r dechnoleg orau a ddefnyddir ar hyn o bryd mewn diwydiant. 

Nod gyffredinol y rhaglen hon yw datblygu myfyrwyr sydd â’r sgiliau i weithio yn y diwydiannau systemau cyfrifiadurol ac electroneg. Trwy nifer o gysylltiadau diwydiannol, mae’r ysgol wedi sefydlu galw diwydiannol cryf am y rhaglen hon. 

Mae gan gyflogwyr feddwl mawr o’r arbenigedd a’r sgiliau y byddwch yn eu datblygu drwy greu a rheoli datrysiadau meddalwedd a chaledwedd yn rhan o dîm.

Pynciau Modylau 

LEFEL 4  

  • Mathemateg | 20 credyd
  • Hanfodion Systemau Cyfrifiadurol | 10 credyd
  • Egwyddorion Trydanol ac Electronig | 20 credyd
  • Microgyfrifiaduron, Perifferolion a Rhyngwynebu | 20 credyd
  • C Mewnblanedig | 20 credyd
  • Signalau a systemau | 10 credyd
  • Sgiliau Astudio ar gyfer Electroneg | 10 credyd
  • Sgiliau Gweithdy ar gyfer Electroneg | 10 credyd

LEFEL 5 

  • Electroneg 1| 20 credyd
  • Systemau Amledd Radio | 10 credyd
  • Ymbelydredd Electromagnetig| 20 credyd
  • Systemau Deallusrwydd Gwasgaredig | 20 credyd
  • Prosesu Signalau Digidol a Chyfathrebu | 10 credyd
  • Prosiect Grŵp | 20 credyd
  • Peirianneg a Rheoli Prosiectau | 20 credyd

LEFEL 6 

  • Systemau Amledd Radio Uwch | 20 credyd
  • Prosesu Signalau Digidol a Chyfathrebu Uwch | 20 credyd
  • Dylunio Systemau Electronig | 20 credyd
  • Electroneg 2 | 20 credyd
  • Prosiect Annibynnol | 40 credyd

Asesu 

Addysgir myfyrwyr drwy gyfres o ddarlithoedd, tiwtorialau, sesiynau labordy a sesiynau ymarferol. Asesir cynnydd drwy gyfuniad o waith ymarferol yn y labordy, aseiniadau, cyflwyniadau, arholiadau a phrosiectau unigol. 

Yn aml asesir modylau drwy aseiniad, neu aseiniad ac arholiad. Gallai marc terfynol rhai modylau gynnwys un neu fwy o ddarnau o waith cwrs a gaiff eu gosod a’u cwblhau yn ystod y modwl. Asesir gwaith prosiect drwy adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad. 

Un o brif rannau’r flwyddyn olaf fydd y prosiect blwyddyn olaf. Mae hwn yn brosiect seiliedig ar waith a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio’r wybodaeth a feithrinwyd drwy’r cwrs i ddatrys problem beirianneg go iawn yn y gweithle. 

Os dyma’r cwrs i chi neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y cwrs, ewch i gofrestru eich diddordeb a bydd aelod o’r uned brentisiaethau yn cysylltu â chi.