Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i ehangu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth mewn disgyblaethau craidd sy'n gysylltiedig â pheirianneg. Bydd myfyrwyr yn caffael sgiliau ymchwil a busnes a fynnir gan ddiwydiant a chyrff proffesiynol.
Mae gennym gysylltiadau cryf â diwydiant a sefydliadau blaenllaw o'r radd flaenaf megis Tata Steel, Dow Chemicals, Aston Martin, Ford, Biozimmer Met, Rolls Royce a Valero.
Gan astudio ar y rhaglen BSc Rheoli Peirianneg byddwch yn ennill profiad a gwybodaeth yn y byd go iawn gyda chefnogaeth tîm o ddarlithoedd gyda nifer helaeth o flynyddoedd o brofiad mewn diwydiant.
Mae graddedigion Rheoli Peirianneg yn chwarae rhan bwysig mewn dylunio a gweithgynhyrchu lle mae'r heriau'n cynnwys datblygu systemau a phrosesau gweithgynhyrchu mwy effeithlon ac effeithiol, creu cynhyrchion arloesol, cynaliadwyedd ac adeiladu modelau busnes newydd i gefnogi gweithgynhyrchu gwerth uchel.
Bydd yn rhoi addysg eang i chi gan gynnwys astudiaethau mewn technoleg a deunyddiau peirianneg, systemau a phrosesau gweithgynhyrchu, dylunio cynnyrch a systemau, wedi'u hategu gan astudiaethau mewn busnes a rheolaeth.
Bydd y cwrs hwn yn datblygu'r sgiliau amlddisgyblaethol a meddal y mae gofyn cynyddol amdanynt yn yr amgylchedd deinamig ac ymwybodol o adnoddau sydd ohoni.
Datblygwyd y cwrs hwn i fodloni galw'r diwydiant am beirianwyr proffesiynol sy'n meddu ar sgiliau busnes a rheoli cadarn ynghyd â phrofiad peirianyddol.
Pynciau Modwl
LEFEL 4
- Mathemateg Peirianneg | 20 credyd
- Cymwysiadau Peirianneg a Sgiliau Astudio | 20 credyd
- Ansawdd a Gwelliannau Busnes | 20 credyd
- Gweithrediadau a Pherfformiad Peiriannau | 20 credyd
- Deunyddiau a Chyflwyniad i Brosesu - 20 Credyd
- Dylunio Prosiect | 20 credyd
LEFEL 5
- Rheoli Arloesedd a Chynaliadwyedd | 20 credyd
- Prosiect Grŵp | 20 credyd
- Dylunio Gweithgynhyrchu a Thechnoleg | 20 credyd
- Gwregys Gwyrdd Six Sigma | 20 credyd
- Peirianneg Amgylcheddol ac Ynni| 20 credyd
LEFEL 6
- Systemau Gweithgynhyrchu ac Efelychu| 20 credyd
- Prosesau a Deunyddiau Uwch| 20 credyd
- Prosiect Annibynnol | 40 credyd
- Peirianneg Peiriannau ac Asedau | 20 credyd
- Caffael a Negodi| 20 credyd
Asesiad
Addysgir myfyrwyr drwy gyfres o ddarlithoedd, tiwtorialau, labordai a sesiynau ymarferol. Caiff cynnydd ei asesu drwy amrywiaeth o aseiniadau, arholiadau a phrosiectau unigol.
Bydd modylau megis prosiect grŵp a Phrosiect Mawr hefyd yn cael cyflwyniadau lle byddech yn cael y cyfle i arddangos eich gwaith.