Holl ddiben y cwrs hwn yw datblygu gweithwyr mewn maes prinder gweithrediadau gweithgynhyrchu.
Mae'r rhaglen ran-amser hon wedi'i chynllunio ochr yn ochr â chyflogwyr ar gyfer gofynion gweithgynhyrchu allweddol, o safbwynt cynnwys a chyflenwi. Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus, bydd pawb sy’n graddio yn arddangos gwybodaeth a sgiliau a fydd yn eu galluogi i wella a hyrwyddo eu harfer er mwyn llunio diwydiant y dyfodol.
Pynciau Modwl
LEFEL 4
- Mathemateg Peirianneg | 20 credyd
- Cymwysiadau Peirianneg a Sgiliau Astudio | 20 credyd
- Gwelliannau Ansawdd a Busnes | 20 credyd
- Gweithrediadau Peiriannau a Pherfformiad | 20 credyd
LEFEL 4/5
- Deunyddiau a Chyflwyniad i Brosesu | 20 credyd
- Dylunio Prosiectau | 20 credyd
- Rheoli Arloesi a Chynaliadwyedd | 20 credyd
- Prosiect Diwydiannol Grŵp | 40 credyd
LEFEL 5/6
- Rheoli ac Awtomeiddio | 20 credyd
- Dylunio a Thechnoleg Gweithgynhyrchu | 20 credyd
- Gwregys Gwyrdd Six Sigma| 20 credyd
- Systemau Gweithgynhyrchu ac Efelychu | 20 credyd
- Dulliau Cyfrifiadurol | 20 credyd
LEFEL 6
- Prosiect Annibynnol | 40 credyd
- Peirianneg Peiriannau ac Asedau | 20 credyd
- Rheoli Technoleg | 20 credyd
Asesiad
Addysgir myfyrwyr drwy gyfres o ddarlithoedd, tiwtorialau, labordai a sesiynau ymarferol. Caiff cynnydd ei asesu drwy aseiniadau, arholiadau a phrosiectau unigol.
Un o brif rannau'r flwyddyn olaf fydd prosiect y flwyddyn olaf. Mae hwn yn brosiect seiliedig ar waith a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio'r wybodaeth a ddatblygwyd drwy'r cwrs i ddatrys problem go iawn ym maes peirianneg yn y gweithle.