Prentisiaeth yr Heddlu

Rhaglen mynediad deiliaid Gradd

Yn ôl y Coleg Plismona (2018) mae plismona modern yn mynd trwy gyfnod o drawsnewidiad sylweddol ac mae Cwnstabliaid yr Heddlu (PC) cymwys yn hanfodol wrth ddarparu gwasanaeth gwell i’r cyhoedd.

Mae bod yn Gwnstabl yn yrfa sy’n gofyn llawer yn gorfforol ac yn ddeallusol, ac yn gofyn am lefelau uchel o ddeallusrwydd emosiynol, sgiliau dehongli ymddygiad cryf a gallu i ddadansoddi a datrys digwyddiadau sy’n datblygu’n gyflym. Mae gan Gwnstabliaid statws cyflogaeth unigryw, gan fod pob Cwnstabl yn swyddogion â gwarant sy’n gwneud penderfyniadau cyfreithiol ymreolaethol gan gynnwys cymryd ymaith rhyddid unigolyn, os bydd rhaid.

Mae cwnstabliaid yn arfer grymoedd eang i gadw’r heddwch a chynnal y gyfraith ar draws cymunedau cymhleth ac amrywiol. Rhaid iddynt gyfiawnhau a chymryd cyfrifoldeb personol am eu gweithredoedd trwy wahanol fframweithiau cyfreithiol gan gynnwys llysoedd, a hynny wrth gael eu craffu hefyd gan y cyhoedd.

Mae cwnstabliaid cymwys yn gweithio’n ddiogel ac yn gyfreithlon, gan gymhwyso’n ddeallus ystod eang o sgiliau, gwybodaeth ac ymddygiad i lawer o gyd-destunau plismona anodd a chynyddol gymhleth, er enghraifft rheoli ymchwiliad sensitif i achos o rannu delweddau rhywiol sy’n cynnwys dioddefwyr a thystion agored i niwed, neu amddiffyn pobl agored i niwed, gan gynnwys y rheiny sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Mae angen lefel uchel o wybodaeth i ymateb yn hyderus i’r sefyllfaoedd cymhleth hyn. Yn amlach ac amlach, mae cwnstabliaid yn gyfrifol yn unigol am bennu, cymhwyso a gwerthuso arfer yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael, a elwir yn blismona seiliedig ar dystiolaeth.

Mae’r Coleg Plismona (CoP), yn Gorff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol (PSRB) gwasanaeth yr heddlu, wedi gweithio gyda’r holl grwpiau rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys cymdeithasau staff, cynrychiolwyr yr heddlu, yn ogystal â phartneriaid addysg uwch, i ddatblygu’r Fframwaith Cymwysterau Addysg Plismona (PEQF).


Y llwybrau mynediad i mewn i’r alwedigaeth blismona

Y llwybrau mynediad i mewn i’r alwedigaeth blismona ar lefel cwnstabl yr heddlu, a’r dyfarniadau cysylltiedig ar gyfer dilysu, yw:

Gradd-brentisiaeth Cwnstabliaid yr Heddlu (PCDA)

Mae’r llwybr Gradd-brentisiaeth Cwnstabliaid yr Heddlu (PCDA) i mewn i blismona yn galluogi ymgeiswyr i gael hyfforddiant ymarferol yn y gwaith ochr yn ochr â damcaniaeth a gwybodaeth academaidd wrth ennill cyflog. Y dyfarniad sy’n gysylltiedig â’r PCDA yw’r BSc (Anrh) Arfer Plismona Proffesiynol (PPP).  Bydd ymgeiswyr rhwng 18 a 55 oed. Bydd ymgeiswyr sy’n cael eu recriwtio ar y rhaglen yn heddweision o’r diwrnod cyntaf yn y swydd. Fel arfer bydd y PCDA yn cymryd tair blynedd i’w gwblhau.

Mynediad Deiliaid Gradd

Gall y sawl sy’n cael eu recriwtio i’r Heddlu, sydd eisoes yn meddu ar radd, gwblhau’r Diploma i Raddedigion mewn Arfer Plismona Proffesiynol.

Mae’r diploma i raddedigion yn cwmpasu’r arfer plismona sylfaenol y bydd ar swyddogion angen ei gyflawni er mwyn cael statws patrolio annibynnol yn eu blwyddyn gyntaf o waith ac mae’n cynnwys modylau dysgu seiliedig ar waith a gefnogir gan ddysgu tu allan i’r gwaith.

Mynediad Gradd cyn Ymuno

Mae yna drydydd llwybr posibl i mewn i’r Heddlu, sef gradd seiliedig ar wybodaeth mewn plismona proffesiynol, y mae’n rhaid ei chyflawni cyn cael eich recriwtio’n ffurfiol i’r heddlu, h.y. ddim yn gysylltiedig â’r Brentisiaeth. Roedd y Brifysgol yn dechrau BSc Plismona Proffesiynol ym 2019.

College of Policing Logo

Ynglŷn â’r rhaglenni

Mae’r rhaglenni’n cwmpasu ystod eang a dwfn o addysg broffesiynol ar gyfer cwnstabliaid yr heddlu na fu’n bresennol mewn unrhyw raglen hyfforddi cwnstabliaid flaenorol. Diploma gradd/graddedigion arfer proffesiynol yw hwn sydd wedi’i seilio ar berfformiad proffesiynol effeithiol gyda chyrhaeddiad academaidd. Mae safon prentisiaeth cwnstabl yr heddlu wedi’i datblygu ynghyd â chynllun asesu cwnstabliaid yr heddlu, sy’n amlinellu’r proffil galwedigaethol ar gyfer rôl cwnstabl yr heddlu ac yn darparu manylion pellach fel gwybodaeth, sgiliau ac ymddygiad. 

Bydd y BSc a’r Diploma Graddedigion yn cwmpasu meysydd sy’n hanfodol wrth blismona’n effeithiol yn yr 21ain ganrif, fel plismona seiliedig ar dystiolaeth, cefnogi pobl agored i niwed, ac ymdrin â seibr-drosedd ac atal trosedd.

Mae’r rhaglenni’n cynnwys gwybodaeth ac ymchwil arfer plismona a addysgir ac arfer proffesiynol a asesir drwy bortffolios dysgu seiliedig ar waith ac astudiaethau annibynnol.

Sut i Wneud Cais

Caiff myfyrwyr eu recriwtio i Brentisiaeth yr Heddlu a’r Llwybr Mynediad i Ddeiliaid Gradd gan yr heddluoedd unigol.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gymhwysedd a recriwtio ar wefannau’r heddluoedd, er enghraifft:

Dysgwch ragor

Cysylltwch â Sarah Jones i ddysgu rhagor:
E-bost: Sarah.jones@uwtsd.ac.uk