Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Prentisiaethau  -  Prentisiaethau Adeiladu ac Arolygu Meintiau

Prentisiaethau Adeiladu ac Arolygu Meintiau

SA1 Campus construction

Rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni gradd-brentisiaeth â’r nod o ddarparu profiad galwedigaethol llawn a digonol ym meysydd adeiladu, gan gynnwys Arolygu Adeiladau, Rheolaeth Adeiladu, Peirianneg Sifil a Mesur Meintiau. 

Datblygwyd y rhaglenni prentisiaeth hyn mewn cydweithrediad â chyflogwyr i sicrhau eu bod yn bodloni anghenion cyfredol o ran dilyniant gyrfa yn y diwydiant.  

Mae’r rhaglen arloesol hon yn helpu prentisiaid i ddatblygu eu sgiliau proffesiynol a thechnegol trwy gyfuniad o astudiaeth brifysgol a dysgu seiliedig ar waith. 

Gall y Prentisiaethau hyn redeg dros gyfnod o 4 blynedd, yn dibynnu ar y lefel mynediad a phrofiad addysgol blaenorol, gyda diwrnodau hyfforddi i ffwrdd o’r gwaith yn cael eu cynnal yn Adeilad IQ y Brifysgol ar y campws newydd yn SA1, Abertawe. 

  • HND Mesur Meintiau
  • HND Rheolaeth Adeiladu