Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Doethuriaethau Proffesiynol - Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc a Chymuned (Prof Doc)
Mae’r rhaglen hon wedi’i hanelu at weithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â’r gweithlu plant a phobl ifanc mewn ystod eang o rolau. Mae pob cam o’r Ddoethuriaeth Broffesiynol (Prof Doc) wedi’i gynllunio i ddatblygu sgiliau lefel uchel o berthnasedd uniongyrchol i’r byd gwaith; bydd myfyrwyr yn cwestiynu ymchwil, yn beirniadu damcaniaethau ac yn cynnal ymchwil cadarn yn gysylltiedig â’u galwedigaeth.
Oherwydd ei bod wedi’i llunio gan ystyried anghenion pobl sy’n gweithio, cyflwynir y rhaglen yn hyblyg trwy gymysgedd o ddysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein. Gellir ei hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.
Mae’r Prof Doc yn rhannu sawl modwl â’i chwaer gymhwyster, y Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc a Chymuned (MA).
Mae’r rhaglen hon wedi’i hanelu’n benodol at y rhai sy’n ymwneud â’r gweithlu plant a phobl ifanc mewn ystod eang o alwedigaethau ac arbenigeddau. Er enghraifft:
- Gwasanaethau Ieuenctid
- Gwasanaethau Teuluoedd
- Gofal Plant
- Addysg Blynyddoedd Cynnar
- Gofal Cymdeithasol
- Datblygiad Cymunedol
- Gwaith Chwarae
- Gweision Sifil
- Sefydliadau’r Trydydd Sector
- Gwasanaethau Golau Glas (yr heddlu’n arbennig)
- Cyfiawnder Ieuenctid
- Gwasanaethau Iechyd.
Gallwch ymgeisio’n uniongyrchol i’r Brifysgol trwy ddefnyddio’r botwm Ymgeisio Nawr ar frig y dudalen.
Mae’n bosibl gadael y rhaglen yn gynnar gyda chymhwyster sy’n briodol i faint o waith a gyflawnwyd. Y cymwysterau gadael yn gynnar yw:
- Tystysgrif Ôl-raddedig
- Diploma Ôl-raddedig
- Gradd Meistr yn y Celfyddydau
Cais am Wybodaeth
Pam dewis y cwrs hwn?
- Hyblygrwydd: gall y cwrs hwn addasu i gyd-fynd â’ch amserlen.
- Cydweithio: mae’n creu cyfleoedd i chi ymgysylltu â’ch cyfoedion ym mhob modwl.
- Ffocws: os ydych chi’n weithiwr proffesiynol sy’n ymwneud â’r gweithlu plant a phobl ifanc, mae’r rhaglen hon wedi’i chynllunio i’ch cefnogi a’ch herio.
- Personoli: siapiwch eich prosiect ymchwil yn unol â’ch cyfrifoldebau, diddordebau ac amgylchedd gwaith.
- Cefnogaeth: byddwch yn cael mynediad at staff trwy ddiwrnodau astudio wyneb yn wyneb a gweminarau ar-lein, yn ogystal â thiwtorialau un i un i’ch cefnogi â’ch cynllun ymchwil.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Er mwyn sicrhau, fel gweithiwr proffesiynol prysur, y cewch eich cefnogi i lwyddo, mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i’w chyflwyno y tu allan i oriau gwaith arferol. Bydd y rhaglen yn cynnwys darlithoedd ar ddydd Sadwrn wedi’u cefnogi gan weminarau ar-lein mynych gyda’r nos. Mae staff ar gael ar gyfer tiwtorialau gyda’r nos os oes angen, a byddant yn eich cefnogi trwy gynnig tiwtorialau dal i fyny os byddwch yn cael eich gorfodi i golli sesiynau dysgu oherwydd eich cyfrifoldebau proffesiynol.
Os ydych yn ansicr o’ch sgiliau ysgrifennu academaidd ar ôl cyfnod hir i ffwrdd o addysg ffurfiol, bydd staff yn rhoi cymorth ar ffurf tiwtorialau. Datblygir eich sgiliau ysgrifennu academaidd hefyd trwy’r adborth wedi’i dargedu a roddir gan staff cyn i chi gyflwyno eich aseiniadau.
Mae gan y rhaglen elfen gydweithredol gryf. Gallwch ddisgwyl ymgysylltu â myfyrwyr eraill ar eich cwrs i drafod a beirniadu’ch cynlluniau ymchwil eich gilydd mewn modd adeiladol.
Os byddwch yn ymuno â’r rhaglen ond wedyn yn penderfynu nad ydych am symud ymlaen i Lefel 8 (y traethawd hir), gallwch drosglwyddo i’r llwybr Gradd Meistr, ac ennill MA sy’n benodol i ddisgyblaeth.
PROF DOC
Modylau Lefel 7
- Adfyfyrio’n Feirniadol ar Ymarfer Academaidd a Phroffesiynol (30 credyd; Gorfodol)
- Safbwyntiau Beirniadol mewn Polisi, Cynllunio a Chyflawni (30 credyd; Gorfodol)
- Datblygu Chwilfrydedd Proffesiynol: Adolygiad Beirniadol o Lenyddiaeth (30 credyd; Gorfodol)
- Dylunio a Rheoli Ymchwil ar gyfer Ymarfer Proffesiynol (30 credyd; Gorfodol)
- Canolbwyntio ar y Dyfodol: Effeithio ar newid ac arwain gwelliant trwy ymchwil (30 credyd; Gorfodol)
- Athroniaeth ac Ymarfer Ymchwil Cymdeithasol (30 credyd; Gorfodol)
- Goruchwylio, Arwain a Rheoli ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol (30 credyd; Dewisol)
- Cymunedau Cynaliadwy (30 credyd; Dewisol)
- Llesiant a Pherthyn yn y Blynyddoedd Cynnar (30 credyd; Dewisol)
- Dysgu gan Blant Bach (30 credyd; Dewisol)
- Traethawd Hir: Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg (60 credyd; Gorfodol)
Modylau Lefel 8
- Traethawd Hir Ymchwil yn Seiliedig ar Ymarfer (360 credyd; Gorfodol)
Recognition of Prior Learning (RPL)
-
Gellir cyfrif am hyd at 180 o gredydau ar Lefel 7 trwy gyflwyno tystiolaeth o waith lefel prifysgol neu gyfwerth a gwblhawyd yn y gorffennol. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar y Polisi Achredu Dysgu Blaenorol (ADB/RPL) neu anfonwch e-bost at natalie.macdonald@uwtsd.ac.uk.
Mae’r rhaglen yn defnyddio amrywiaeth o fathau o asesiadau. Mewn rhai modylau, cewch eich asesu trwy bortffolios, cyflwyniadau blog, a chyflwyniad tebyg i gynhadledd. Mewn eraill, mae’r asesu’n cynnwys cynnig ymchwil, ffurflen foeseg wedi’i chwblhau ac adroddiad ymchwil.
Ar gyfer pob math o asesiad, bydd staff yn rhoi adborth i’ch caniatáu i ddatblygu eich syniadau ac ymateb i gyngor adeiladol cyn y cyflwyniad terfynol.
Bydd y casgliad o fathau o asesiadau’n datblygu eich sgiliau mewn ysgrifennu academaidd, cyflwyno o flaen cynulleidfa, arfer adfyfyriol, meddwl yn feirniadol a dylunio ymchwil.
Dolenni Cysylltiedig
Gwybodaeth allweddol
Dylech fod ag o leiaf dwy flynedd o brofiad proffesiynol mewn maes sy’n gysylltiedig â’r Ddoethuriaeth Broffesiynol cyn ymgeisio. Gweler hefyd chwaer gymhwyster y cwrs hwn, y Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc a Chymuned (MA), sy’n derbyn myfyrwyr sydd wedi cwblhau eu gradd israddedig yn ddiweddar.
Dylech fod â chefndir yn un neu fwy o’r meysydd canlynol:
- Gwasanaethau Ieuenctid
- Gwasanaethau Teuluoedd
- Gofal Plant
- Addysg Blynyddoedd Cynnar
- Gofal Cymdeithasol
- Datblygiad Cymunedol
- Gwaith Chwarae
- Gweision Sifil
- Sefydliadau’r Trydydd Sector
- Gwasanaethau Golau Glas (yr heddlu’n arbennig)
- Cyfiawnder Ieuenctid
- Gwasanaethau Iechyd.
Defnyddiwyd trafodaethau ac adborth gan sefydliadau sy’n weithgar ym maes gwasanaethau plant a phobl ifanc i gynllunio’r cwrs, a byddant yn parhau i lywio datblygiadau i’r dyfodol yn amcanion a chynnwys y rhaglen.
Mae’r Ddoethuriaeth Broffesiynol yn llenwi bwlch yn narpariaeth cymwysterau ymchwil ôl-raddedig sy’n canolbwyntio ar wasanaethau plentyndod, ieuenctid a chymunedol. Fel person graddedig o’r rhaglen, byddai gennych set arbennig a soffistigedig o sgiliau a fyddai’n eich gwahaniaethu wrth eich cyfoedion. Byddai’r galluoedd ac arbenigedd beirniadol datblygedig a enillwyd o’ch astudiaethau’n gwella eich cyfleoedd dilyniant gyrfa a chyflogadwyedd ar draws meini prawf amrywiol.
O dan y Fframwaith Cymhwysedd Entrepreneuraidd, byddech yn cyflawni’r amcanion dysgu canlynol:
- Nodi cyfleoedd
- Creadigrwydd
- Meddwl yn foesegol a chynaliadwy
- Cymhelliant a dycnwch
- Mentro
- Cynllunio a rheoli
- Ymdopi ag ansicrwydd, amwysedd a risg
- Dysgu trwy brofiad.
Gall myfyrwyr ddewis prynu gwerslyfrau i gefnogi eu hastudiaethau. Nid yw hyn yn ofynnol oherwydd mae’r testunau ar gael yn gyffredinol yn y llyfrgell neu ar-lein. Mae costau’r gwerslyfrau’n amrywio o £20 i £100.
Gall fod cyfleoedd i fynychu cynhadledd(au) ymchwil, lle gallai hyn fod yn briodol i’r myfyriwr ac yn gysylltiedig â’i ddiddordeb ymchwil. Mae’r costau’n amrywio o £50–£500 yn dibynnu ar y lleoliad a’r hyd mynychu.
Bydd dewis o gwrs preswyl ar gyfer y ddoethuriaeth broffesiynol sy’n costio rhwng £250 a £500.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.