Skip page header and navigation

Cychwynnwch ar daith gyffrous i fyd cyfrifiadura, lle mae gwybodaeth ddamcaniaethol ac arbenigedd ymarferol yn dod at ei gilydd. Ymunwch â ni a pharatowch eich hun ar gyfer dyfodol o arloesi a phosibiliadau diddiwedd.

Rydyn ni’n credu mewn dysgu ymarferol, lle gallwch chi roi’r egwyddorion a’r damcaniaethau rydych chi’n dysgu amdanynt trwy brosiectau trochi ar waith yn y byd go iawn. Mae ein cwricwlwm yn cael ei arwain gan y diwydiant, gyda chyrsiau’n cael eu datblygu ar y cyd â sefydliadau blaenllaw ac ardystiadau wedi’u hymgorffori gan gewri’r diwydiant fel Cisco a Microsoft. Bydd ennill yr ardystiadau hyn yn rhoi mantais gystadleuol i chi ac yn gwella eich cyflogadwyedd.

Gyda dosbarthiadau bach o ran maint a chefnogaeth unigol gan ddarlithwyr profiadol, rydym yn sicrhau amgylchedd dysgu cefnogol. Mae ein labordai cyfrifiadura pwrpasol a chaledwedd a meddalwedd blaengar yn darparu’r offer a’r adnoddau sydd eu hangen arnoch i ragori yn eich astudiaethau.

Trwy ein cysylltiadau cryf â’r diwydiant, gan gynnwys darlithwyr gwadd rheolaidd a grŵp cyswllt diwydiant, byddwch yn cael y cyfle i siarad â gweithwyr proffesiynol a chael y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau diweddaraf yn y maes wrth ehangu eich gwybodaeth a’ch cyfleoedd i rwydweithio.
 
Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio i sefydliadau blaenllaw fel y DVLA, BT, Rocket IT, Airbus a mwy. Yn aml, mae myfyrwyr wedi cael cynnig swyddi cyn mynychu eu seremonïau graddio.

Pam astudio Cyfrifiadura yn PCYDDS?

01
Addysg sy'n Berthnasol i'r Diwydiant: Dysgwch am y cysyniadau, yr egwyddorion a'r technegau sydd eu hangen yn eich maes chi o gyfrifiadura.
02
Profiad Dysgu Ymarferol: Ewch ati i gymryd rhan mewn prosiectau ymarferol er mwyn rhoi'r egwyddorion a'r damcaniaethau rydych chi wedi dysgu amdanynt ar waith. Cwricwlwm sy’n cael ei arwain gan y diwydiant gyda chyrsiau sydd wedi'u datblygu ar y cyd.
03
Amgylchedd Cefnogol: Manteisiwch ar ddosbarthiadau bach o ran maint a chefnogaeth unigol gan ddarlithwyr profiadol. Cewch feithrin perthnasoedd parhaol gydag aelodau'r gyfadran, gan feithrin dysgu ac arweiniad parhaus.

Spotlights

Myfyrwyr ysgol uwchradd yn defnyddio cyfrifiaduron gemau fideo

Cyfleusterau

Cewch fynediad i labordai cyfrifiadura pwrpasol a chaledwedd a meddalwedd o’r radd flaenaf. Profwch ddysgu trochi trwy ystafelloedd arbenigol a mynediad o bell i adnoddau. 

Dau fyfyriwr yn eistedd o flaen y ffynnon ar gampws Llambed

Beth sy’n gwneud PCYDDS yn unigryw?

Dechreuwch eich antur gyda gradd israddedig yn PCYDDS. Cewch eich trochi mewn pwnc sy’n eich ysbrydoli – gan archwilio gwahanol lwybrau gyrfaol ac opsiynau ar gyfer eich dyfodol ar hyd y daith. Beth bynnag fo’ch uchelgeisiau, gwnawn ni eich helpu i fwrw ati’n syth, gyda’ch goliau mewn golwg yn gadarn.