Cydnabyddiaeth i’r Drindod Dewi Sant am gynhyrchu ymchwil sy’n arwain yn fyd-eang ac sy’n rhagorol yn rhyngwladol
Mae canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021 yn dangos bod Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynhyrchu ymchwil sy'n arwain yn fyd-eang ac sy'n rhagorol yn rhyngwladol.
Dywedodd yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: “Rwy’n croesawu cyhoeddi canlyniadau REF 2021 sy’n dangos effaith ryngwladol a blaengar ymchwil y Brifysgol. Mae’r canlyniadau’n adlewyrchu ymrwymiad y Brifysgol i adeiladu partneriaethau ymchwil cryf i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant ledled Cymru ac yn rhyngwladol. Mae ymchwil a wneir yn y Brifysgol yn llywio newid polisi gan arwain at greu cyfleoedd newydd i genedlaethau'r dyfodol ffynnu.
Yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor y Drindod Dewi Sant:
Mae prif ganlyniadau’r Drindod Dewi Sant yn REF2021 yn cynnwys y canlynol:
- Mae'r Drindod Dewi Sant yn 4ydd yng Nghymru am effaith, gyda 74% o ymchwil y Brifysgol yn cael ei barnu fel un sy'n darparu effeithiau eithriadol a sylweddol iawn i gymdeithas, diwylliant a diwydiant.
- Mae 49% o'r ymchwil wedi'i raddio 4* (sy'n arwain yn fyd-eang) neu 3* (sy’n rhagorol yn rhyngwladol), o feysydd Celf a Dylunio, Addysg, Ieithoedd Celtaidd a Llenyddiaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol, a Seicoleg.
- Cafodd 100% o'r ymchwil a gyflwynwyd ar gyfer Ieithoedd a Llenyddiaeth Geltaidd radd 4* (rhagorol) neu 3* (sylweddol iawn) am ei effaith.
- Cafodd 75% o'r ymchwil a gyflwynwyd ar gyfer Addysg ei raddio 3* (sylweddol iawn) am ei effaith ar bolisi ac ymarfer addysgol yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
- Cafodd 75% o'r ymchwil a gyflwynwyd ar gyfer Diwinyddiaeth a Chrefydd ei raddio 4* (rhagorol) neu 3* (sylweddol iawn) am ei effaith.
Datblygiadau Allweddol
Hwn oedd y cyflwyniad mwyaf hyd yma i’r REF gan y Drindod Dewi Sant, ac un o'r prif ddatblygiadau i’r Brifysgol yn REF2021 oedd bod y maes Addysg wedi gwneud cyflwyniadau i'w hasesu am y tro cyntaf. Amlyga hyn y modd y mae ymchwil a wneir gan y Brifysgol yn cyfrannu at ddatblygu a thrafod polisi addysg yng Nghymru ac yn arbennig Cwricwlwm newydd Cymru.
Un enghraifft wych o effaith ymchwil y Brifysgol yw cyfraniad y Drindod Dewi Sant at brosiect CAMAU, sydd wedi bod yn rhan annatod o ddatblygu dealltwriaeth system addysg Cymru o gynnydd dysgwyr. Roedd y gwaith pwysig hwn mor ddylanwadol fel iddo gael ei ymestyn i ail gam yn ddiweddar.
At ei gilydd
- At ei gilydd, derbyniodd 49% o'r ymchwil radd 4* (sy'n arwain yn fyd-eang) neu 3* (sy’n rhagorol yn rhyngwladol), ym meysydd Celf a Dylunio, Addysg, Ieithoedd a Llenyddiaeth Geltaidd, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol, a Seicoleg.
Allbynnau
- Mae 84% o’r allbwn ymchwil o ansawdd rhyngwladol, gydag ymchwil sy'n arwain yn fyd-eang ac yn rhagorol yn rhyngwladol yn y Dyniaethau a Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol (20% yn arwain yn fyd-eang, 20% yn rhagorol yn rhyngwladol) ac Astudiaethau Celtaidd (20% yn arwain yn fyd-eang, 50% yn rhagorol yn rhyngwladol).
- Roedd 27% o'r allbwn ymchwil mewn addysg hefyd yn rhagorol yn rhyngwladol neu'n well, canlyniad ardderchog ar gyfer cyflwyniad cyntaf y maes. Gwelir potensial twf sylweddol ym maes Seicoleg gyda mwy na thraean o’r ymchwil o ansawdd rhyngwladol.
- Mae ymchwil a gyflwynwyd ym maes Celf a Dylunio (37% yn rhagorol yn rhyngwladol) yn dangos ein hymrwymiad i ymchwil arloesol sy'n seiliedig ar arfer i gefnogi ein hamgylchedd cyfnewid gwybodaeth ac arloesi rhagorol.
Effaith
- Daeth y Drindod Dewi Sant yn 4ydd yng Nghymru am effaith, a barnwyd bod 74% o ymchwil y Brifysgol yn darparu effeithiau rhagorol a sylweddol iawn i gymdeithas, diwylliant a diwydiant.
- Derbyniodd 100% o’r ymchwil a gyflwynwyd ar gyfer Ieithoedd Llenyddiaeth Geltaidd radd 4* (50% yn rhagorol) neu 3* (50% yn sylweddol iawn) o ran ei effaith.
- Derbyniodd 75% o'r ymchwil a gyflwynwyd ar gyfer Addysg radd 3* (sylweddol iawn) am ei effaith ar bolisi ac arfer addysgol yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
- Derbyniodd 75% o’r ymchwil a gyflwynwyd ar gyfer Celf a Dylunio radd 4* (25% yn rhagorol) neu 3* (50% yn sylweddol iawn) o ran ei effaith.
- Derbyniodd 75% o’r ymchwil a gyflwynwyd ar gyfer Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol radd 4* (50% yn rhagorol) neu 3* (25% yn sylweddol iawn) o ran ei effaith.
Amgylchedd
- Derbyniodd 85% o'r amgylchedd ymchwil mewn Celf a Dylunio radd 3* o ran ei addasrwydd i gynhyrchu ymchwil sy'n rhagorol yn rhyngwladol a’i effaith sylweddol iawn.
- Barnwyd bod 87% o amgylchedd ymchwil y brifysgol yn cefnogi ymchwil o ansawdd rhyngwladol ac o effaith sylweddol, gyda chryfderau pellach mewn Astudiaethau Celtaidd, ac mae Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol / y Dyniaethau yn cefnogi allbwn ac effaith ymchwil rhagorol yn rhyngwladol (DAC, 40% yn 3*) ac sy’n arwain yn fyd-eang (Ast. Celtaidd 25% yn 4*, 20% yn 3*).