
Hafan YDDS - Sefydliadau ac Academïau - Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau - Staff - Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau - Alison Rees Edwards
Mrs Alison Rees Edwards BA, MA, Tystysgrif Ôl-radd Addysg Uwch
Uwch Ddarlithydd
Ffôn: +44 (0) 1267 676615
E-bost: a.rees-edwards@uwtsd.ac.uk
- Cydlynydd Rhaglen FdA Plentyndod Cynnar
- Cydlynydd Ymarfer Blynyddoedd Cynnar
- Arweinydd Tîm Partneriaeth i Golegau Partner
- Cydlynydd modwl
- Cynorthwyo gyda derbyniadau
- Wythnos gyflogadwyedd
- Arholwr Allanol
- Pwyllgor Materion Rhyngwladol a Phartneriaethau Cydweithredol
Wedi i mi adael ysgol, penderfynais fagu teulu cyn ystyried gyrfa. Wrth i’r plant ddechrau ysgol a Chylch Meithrin, astudiais gwrs BTEC mewn Astudiaethau Datblygiad Plentyn yng Ngholeg Ceredigion. Gweithiais fel NNEB mewn ysgol gynradd am sawl blwyddyn ac ennill profiadau amhrisiadwy o weithio gyda phlant gydag ystod o anawsterau dysgu megis Dyslecsia, Dyspracsia a Syndrom Asperger.
Yn 2005, penderfynais astudio gradd BA Addysg Blynyddoedd Cynnar trwy ddilyn y Dull Dysgu Hyblyg yma yn y Drindod. Roedd hyn yn golygu gweithio yn ystod y dydd ac astudio min nos. Enillais radd dosbarth cyntaf gydag anrhydedd yn 2008 ac ymunais a’r Brifysgol fel tiwtor ar brosiect Geiriau Bach. Yn ogystal, enillais Gymrodoriaeth cyfrwng Cymraeg Prifysgol Cymru a chael swydd fel darlithydd i Ysgol Blynyddoedd Cynnar. Yn 2013, cyflawnais Tystysgrif Ôl-radd Dysgu mewn Addysg Uwch ynghyd ag MA Addysg Blynyddoedd Cynnar. Yn 2015, cyflawnais Tystysgrif Ôl-radd o’r Brifysgol Agored.
- BA, MA, Tystysgrif Ôl-radd Addysg Uwch
- Tystysgrif Ôl-radd o’r Brifysgol Agored
- Cymrawd yr Academi Addysg Uwch
- Yr Academi Addysg Uwch
- Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- Plant yng Nghymru (Children in Wales)
Mae gennyf ddiddordeb ym mob agwedd o fywyd plant ifainc, gyda diddordeb penodol mewn anghenion dysgu ychwanegol, pwysigrwydd chwarae, caffael iaith a defnydd o dechnoleg gan blant ifainc.
Rwy’n darlithio ar nifer o gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig sydd yn cynnwys themâu a phynciau megis:
- Sgiliau astudio academaidd i fyfyrwyr;
- Datblygiad iaith a llythrennedd;
- Rhifedd cynnar;
- Cynhwysiant;
- Iechyd a lles plant ifainc.
Rwyf hefyd yn goruchwylio traethodau hir israddedig ac ôl-raddedig.
Mae fy meysydd ymchwil a ddiddordebau academaidd yn cynnwys: datblygiad iaith plant ifanc, gan gynnwys dwyieithrwydd, plant ag anghenion dysgu ychwanegol a thechnoleg. Rwyf wedi gwneud gwaith ymchwil ar fanteision therapi cerddoriaeth i blant ifanc o dan y sbectrwm Awtistig. Mae gennyf ddiddordeb hefyd mewn agweddau myfyrwyr tuag at addysg uwch cyfrwng Cymraeg.
- Sgiliau astudio i fyfyrwyr
- Datblygiad iaith plant ifanc
- Arfer gynhwysol
- Llythrennedd gynnar
- Plant ag anghenion dysgu ychwanegol
Rwyf wedi cyfrannu at weithgareddau Datblygiad Proffesiynol Parhaus gan gynnwys themau fel
- Dwyieithrwydd yn y Blynyddoedd Cynnar
- Creadigrwydd plant ifanc
- Pwysigrwydd darllen i/gyda phlant ifainc
- Ymlyniad
Rees Edwards, A. a Gealy, A. (2017) Early Years Education and Care: Embedding Employability. Cyflwyniad poster heb ei gyhoeddi yn: HEA Annual Conference 2017: Generation TEF - Teaching in the spotlight, Gorffennaf 4-6 2017, Manceinion, Y Deyrnas Unedig.
Tinney, G., Davies, G., Rees Edwards, A. a Gealy, A. (2016) A qualitative evaluation of Superbox 2015 in terms of delivering key Superbox outcomes. Comisiynwyd yr adroddiad hwn gan BookTrust Cymru fel rhan o’r rhaglen Bookstart Dechrau Da.
Thomas, S. A. a Rees Edwards, A. (2010) ‘Chwarae Plant,’ yn Siencyn, S. W. (gol) Y Cyfnod Sylfaen 3-7 oed: Athroniaeth, Ymchwil ac Ymarfer. Caerfyrddin: Cyhoeddiadau Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, tt. 25-42.
Aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr Mudiad Meithrin CYF