
Hafan YDDS - Sefydliadau ac Academïau - Cyfadran Busnes a Rheolaeth - Staff Busnes a Rheolaeth - Dr Adila Khan
Dr Adila Khan BA, MA, MBA, PGCE, PhD, FHEA
Darlithydd mewn Rheolaeth Busnes
E-bost: a.khan@uwtsd.ac.uk
- Addysgu cyrsiau Busnes a Rheolaeth ar lefelau Israddedig ac Ôl-raddedig.
- Y Rheolwr Rhaglen ar gyfer y cwrs MBA Entrepreneuriaeth Gymdeithasol.
- Goruchwylio – Traethodau Hir Israddedig ac Ôl-raddedig
- Goruchwylio Ymchwil (DProf, PhD)
- Arweinydd derbyn ar gyfer cyrsiau Ôl-raddedig (Ysgol Fusnes Caerfyrddin)
Mae Dr Adila Khan yn ddarlithydd profiadol gyda phrofiadau entrepreneuraidd, rheoli a marchnata academaidd ac ymarferol.
Cychwynnodd ei gyrfa academaidd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (2012-2014), yna ym Mhrifysgol Spa Caerfaddon – BSU (2014-2018) gyda Phrifysgol Dinas Birmingham – BCU i ddilyn (2018-2022) yn addysgu Entrepreneuriaeth, Marchnata, a Rheolaeth ar lefelau Israddedig ac Ôl-raddedig. Yn ogystal, hi oedd Cyfarwyddwr y Cwrs ar gyfer y rhaglen MSc Rheolaeth, un o’r cyrsiau Ôl-raddedig mwyaf yn Ysgol Fusnes Dinas Birmingham (BCBS) gyda nifer o lwybrau a darpariaethau ar y campws ac ar-lein.
Mae hi hefyd yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch (FHEA), a ddyfernir mewn cydnabyddiaeth o’r arferion addysgu gorau. Mae ei strategaethau addysgu’n canolbwyntio ar fyfyrwyr ac yn adfyfyriol er mwyn rhoi profiad dysgu gwell i fyfyrwyr.
Mae ganddi PhD (Entrepreneuriaeth, 2020), TAR, MBA, MA mewn Llenyddiaeth Saesneg, BA mewn Seicoleg a Llenyddiaeth Saesneg. Ei meysydd diddordeb yw Entrepreneuriaeth a Marchnata (yn enwedig marchnata rhyngwladol yn y sector addysg).
Bu’n ymwneud â marchnata rhyngwladol a rhyngwladoli yn y sector addysg trwy gydol ei gyrfa. Yn y gorffennol, bu’n gweithio fel Rheolwr Marchnata Rhyngwladol Coleg Sir Benfro, Cymru (1999-2005). Yn ei rôl fwyaf diweddar fel Athro Cynorthwyol, Cyfarwyddwr Recriwtio a Datblygu Rhyngwladol (2019-2021), darparodd arweinyddiaeth ar gyfer rhyngwladoli, recriwtio a datblygu partneriaethau i BCBS.
Mae angerdd Adila at entrepreneuriaeth yn amlwg o’r ffaith iddi sefydlu ei busnes cyntaf yn 19 oed, gyda chyfres o fentrau entrepreneuraidd i ddilyn. Yn 2005, bu’n sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol cwmni ymgynghori a hyfforddi addysg rhyngwladol ers mwy na 12 mlynedd, ar draws 7 gwlad (gyda swyddfeydd yn y DU, Tsieina, Malaysia, India, Pacistan, Sri Lanka, a Nepal).
- Entrepreneuriaeth
- Rheolaeth Marchnata
- Arweinyddiaeth
- Entrepreneuriaeth ymhlith grwpiau lleiafrifol (rhyw ac ethnigrwydd)
- Rhyngwladoli yn y sector AU
- Entrepreneuriaeth
- Marchnata Rhyngwladol
Khan, Adila (2020)Entrepreneurship among Pakistani Women in the United Kingdom: Exploring Opportunities and Constraints. Traethawd hir PhD, Prifysgol Swydd Gaerloyw. doi:10.46289/BUSE7469
Papurau cynhadledd
Khan, A., Bown, R., Ward, P. (2021) Negotiating Norms: The Mediated Activities of Pakistani Female Entrepreneurs https://virtual.oxfordabstracts.com/#/event/2296/submission/34; Sefydliad Busnesau Bach ac Entrepreneuriaeth (ISBE) – Cynhadledd 2021; Caerdydd, Cymru; 28-29ain Hydref 2021.
Salman, S., Khan, A. (2014) Career Management and Employee Motivation in Low Skilled, Low Margin Environment DOI:10.1088/1757-899X/65/1/012032; 27ain Cynhadledd Ryngwladol ar CADCAM, Roboteg a Ffatrïoedd y Dyfodol; Llundain, y DU; 22-24 Gorffennaf 2014.