Skip page header and navigation

Edd Latham BA (Anrh), Diploma Cenedlaethol (Clod)

Image and intro

Silwét pen ac ysgwyddau dyn

Awdur Cynnwys a Darlithydd

Cyfadran Busnes a Rheolaeth


E-bost: e.latham@uwtsd.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Awdur Cynnwys a Darlithydd ar gyfer Tystysgrif Addysg Uwch Parodrwydd ar gyfer Argyfwng a Diogelwch Sifil

Cefndir

Ar hyn o bryd, mae Swyddog Ymateb i Ddigwyddiadau Llywodraeth Cymru yn gweithio yn y Tîm Argyfyngau Sifil Posibl a’r Tîm Diogelwch Cenedlaethol.  Yn rhan o Gynllunio at Argyfwng gan ymdrin â digwyddiadau a senarios sydd wedi effeithio ar Fyrddau Iechyd, yr Heddlu a Gwasanaethau Brys eraill, gwasanaethau milwrol, awdurdodau lleol a sefydliadau’r trydydd sector. Darparu sesiynau briffio ar gyfer Gweinidogion Llywodraeth Cymru, Uwch Weision Sifil a Swyddogion Cyswllt Llywodraeth Cymru ar gyfer Grwpiau Cydlynu Strategol/Adfer.  Yn darparu hyfforddiant ar Wirfoddoli ar gyfer Canolfan Cydlynu Argyfyngau Cymru (ECCW) ac ar Ddeddf Argyfyngau Sifi Posibl 2004, Canllawiau Statudol ac Anstatudol cysylltiedig.

Mae rolau gyrfa blaenorol yn cynnwys Swyddog Cynllunio a Briffio  Llywodraeth Cymru ar gyfer pandemig COVID-19 a digwyddiadau cydamserol eraill. Yn ogystal, gweithio gydag elusennau’r Trydydd Sector i hwyluso a hyfforddi gwirfoddolwyr i gynorthwyo mewn  digwyddiadau ‘Tywydd Garw’ ac i feithrin perthynas â Fforymau a Phartneriaid Lleol Cymru Gydnerth drwy lunio Memoranda Cyd-ddealltwriaeth.  Roedd hyn yn cynnwys chwarae rhan annatod yn y broses o wneud ‘penderfyniadau yn y fan a’r lle’ drwy ddefnyddio barn dda a dealltwriaeth o sefyllfaoedd mewn amgylcheddau amlasiantaethol a chymhleth.

Diddordebau Academaidd

Mae cymwysterau academaidd yn cynnwys Gradd Baglor mewn Astudiaethau Trychineb gydag Anrhydedd a Diploma Cenedlaethol mewn Gwasanaethau Cyhoeddus.  Cydegwyddorion Rhyngweithredu Gwasanaethau Brys (JESIP).  Mae wedi’i hyfforddi mewn rheoli prosiectau a rhaglenni.

Meysydd Ymchwil

  • Parodrwydd ac Ymateb mewn Argyfwng
  • Cynllunio a Briffio mewn Argyfwng
  • Hyfforddi ac Ymarfer Digwyddiadau Mawr

Arbenigedd

N/A