Skip page header and navigation

Yr Athro Gary Bunt BA (Hons) Kent, MA (Durham), PhD (Wales), SFHEA

Image and intro

Silwét pen ac ysgwyddau dyn

Athro mewn Astudiaethau Islamaidd

Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau

Ffôn: +44 (0)1570 424894
E-bost: g.bunt@uwtsd.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

  • Prif Ymchwilydd, Prosiect Islam Brydeinig Ddigidol yr ESRC (2022-)
  • Cyd-ymchwilydd, Prosiect Islam Ddigidol ar draws Ewrop CHANSE (2022-)

Cefndir

Fel academydd â ffocws yn benodol ar awdurdod crefyddol ac Islam gyfoes, mae’i waith wedi canolbwyntio ar gyflwyno ystod o fodylau ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig, ochr yn ochr â goruchwylio. Yn y gorffennol, roedd hefyd yn ymwneud am gyfnod hir â’r Academi Addysg Uwch a’r Rhwydwaith Astudiaethau Islamaidd fel Cydlynydd Academaidd, ochr yn ochr â rolau gweithredol o fewn Cymdeithas Prydain ar gyfer Astudiaethau’r Dwyrain Canol. Yn nhermau ymchwil, mae wedi rhoi sylw penodol i agweddau amrywiol ar Islam, ac i rwydweithio a mynegiant Mwslimaidd a hwylusir drwy gyfryngau ar-lein. Mae hyn wedi arwain at ystod o gyhoeddiadau a phapurau cynhadledd, ynghyd â chyfraniadau i ddau brosiect ymchwil parhaus ar Islam ddigidol.

Diddordebau Academaidd

Goruchwylio Ôl-raddedigion

  • Portreadu yn y cyfryngau;
  • Islam ar-lein;
  • Maqasid;
  • J. Arberry;
  • Moeseg Feddygol Islamaidd;
  • Crefydd a’r Rhyngrwyd: rhwydweithio cymdeithasol;
  • Y Cyfryngau Cymdeithasol mewn cyd-destunau Mwslimaidd;
  • Cyfreitheg Islamaidd;
  • Fframio’r Amgen: Effaith Bydolwg, Rhethreg ac Anghyseinedd yn y Cyfryngau ar Ganfyddiadau Mwslimaidd o’r UDA ar ôl 9/11;
  • Drama Ddioddefaint Ta’ziyah yn niwylliant poblogaidd Iran;
  • Islam ym Malaysia;
  • Islam a Pherthnasoedd Cristnogol-Mwslimaidd yn Korea;
  • Islam a’r Amgylchedd.

Modylau Ôl-raddedig

Datblygodd yr Athro Bunt y radd MA Astudiaethau Islamaidd (2003–), ac ysgrifennodd a chydlynodd y modylau canlynol:

  • Islam Heddiw,
  • Sgiliau Astudio ar gyfer Astudiaethau Islamaidd,
  • Rhwydweithiau Mwslimaidd,
  • Gwleidyddiaeth Fwslimaidd,
  • Modwl Prosiect.

Mae hefyd yn goruchwylio llawer o’r traethodau hir ar gyfer y radd MA.

Modylau israddedig

  • Archwilio i Gymdeithasau Mwslimaidd yn y Byd Modern, Islam yn y Gorllewin;
  • Amrywiaeth Mynegiant Mwslimaidd;
  • Islam mewn Cymdeithasau Cyfoes;
  • Crefydd, y Cyfryngau a Chymdeithas;
  • Dulliau ar gyfer Astudio Diwinyddiaeth a Chrefydd (cydlynydd/datblygwr).
  • Rhyw a Thrais: Crefydd yn y Byd Modern;
  • Dychmygu’r Amgen;
  • Islam yn y Byd Cyfoes (cyfrannwr)

Meysydd Ymchwil

Mae Gary R. Bunt wedi bod yn cynnal ymchwil ar Islam, Mwslimiaid a’r rhyngrwyd er 1997. Mae hyn wedi canolbwyntio ar Islam, Mwslimiaid a’r rhyngrwyd cyfoes.  Mae’r gwaith hwn wedi ymestyn tu hwnt i gynulleidfa academaidd amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol, tuag at ymgysylltu â sectorau’r llywodraeth, llunwyr polisi, y cyfryngau a chymunedau Mwslimaidd yn y DU a thramor.  Mae’r gwaith wedi ennill cynulleidfa gyffredinol drwy gael ei gyflwyno mewn darlithoedd cyhoeddus, a thrwy’r rhyngrwyd, a’r cyfryngau darlledu a phrint yn y DU a thramor.

Prif gyfraniad yr ymchwil fu datblygu methodolegau newydd a gwybodaeth am y ffenomena’n gysylltiedig ag Islam a Mwslimiaid yn y seiberofod.  Mae hyn wedi gofyn am ddatblygu ystyriaethau methodolegol penodol yn gysylltiedig ag Astudiaethau Crefyddol/Astudiaethau Islamaidd amlddisgyblaethol, gan integreiddio ystyriaethau seiber-ddiwylliannol â ffactorau hanesyddol a damcaniaethau ynghylch agweddau gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol ar Islam gyfoes.

Mae’r ymchwil hwn wedi cynnwys astudiaethau o ddialogau ar ffurfiau o jihad o fewn amryw o leoliadau rhanbarthol, ac ysgrifennu am we 2.0, rhwydweithio cymdeithasol, amlgyfrwng a blogio.  Mae llawer o’r gwaith hwn wedi sefydlu sylfeini ar gyfer astudiaethau disgyblaethol a rhyngddisgyblaethol ar Islam a’r rhyngrwyd a chrefyddau ar y rhyngrwyd.  Mae’n cael effaith gymdeithasol benodol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol yn nhermau dadansoddi’r sector hollbwysig hwn o ddisgwrs ar y rhyngrwyd.

Arbenigedd

N/A