Skip page header and navigation

Georgia McKie BA (Anrh), MA(RCA), SFHEA

Image and intro

Silwét pen ac ysgwyddau dynes.

Uwch Ddarlithydd

Coleg Celf Abertawe

Ffôn: 01792 481285 
E-bost: georgia.mckie@uwtsd.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

  • Rheolwr Rhaglen y portffolio Patrymau Arwyneb a Thecstilau
  • Hyrwyddwr Academaidd Menter

Cefndir

Ar ôl graddio o’r Coleg Celf Brenhinol gydag MA mewn Tecstilau Lluniedig, es ati i gyfuno fy allbynnau creadigol ag angen masnachol ym mhen ucha’r farchnad.  

Tan 2005 bûm yn gweithio’n llawrydd i ddylunwyr, busnesau a thai dylunio ffasiwn, ac ar fy liwt fy hun i asiantau dylunio samplau tecstilau.  Roeddwn hefyd yn marchnata fy nghynnyrch o dan fy enw fy hun yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Rwy wedi bod yn gweithio mewn AU ers graddio o’r Coleg Celf Brenhinol yn 1997 ochr yn ochr â’m harfer creadigol fy hun.  Bûm hefyd yn gweithio mewn addysg bellach am 7 mlynedd ochr yn ochr â’r ymrwymiadau hyn.

Diddordebau Academaidd

Rwy’n Rheolwr Rhaglen y portffolio o gyrsiau Patrymau Arwyneb a Thecstilau, gan weithio’n agos gyda’m tîm o gydweithwyr i gynllunio a gweithredu rhaglen amlddisgyblaethol fywiog a blaengar.  Rwy’n diwtor blwyddyn ar fyfyrwyr Lefel 6, ond yn gweithio ar draws lefelau’r rhaglen, ond yn bennaf gyda’r 2il a’r 3edd flwyddyn.

Rwy wedi fy nynodi’n Hyrwyddwr Academaidd Menter gan Lywodraeth Cymru ac un o feysydd allweddol fy rôl yw hwyluso a thargedu prosiectau byw a chysylltiadau allanol ar gyfer myfyrwyr Patrymau Arwyneb a Thecstilau.  Mae profiadau o allanoldeb yn amrywio o’r lleol i’r byd-eang ac mae’r ymagwedd ddynamig hon bellach yn greiddiol i’r rhaglen.  Golyga’r strategaeth hon bod ein myfyrwyr ac, yn y pen draw, ein graddedigion, yn cael profiad gwahanol i’r arfer.

Rwy’n cyflwyno amrywiaeth eang o weithdai ymarferol ar draws 3 llwybr Israddedig y rhaglen Patrymau Arwyneb a Thecstilau a’n gradd MDes.  

Y sylfaen i’r holl brosiectau stiwdio/ymarferol ar y cwrs Patrymau Arwyneb yw lluniadu, ac o’r mannau cychwyn trwyadl hyn rydym yn ehangu’r broses ddylunio i ba gyfeiriadau priodol bynnag a bennir gan y prosiectau.  Mae hyn yn cynnwys arddangosfeydd a gweithdai sy’n datblygu strategaethau ar gyfer lluniadu a chofnodi syniadau, sgiliau cyfathrebu gweledol, gwneuthuriad a defnyddiau, datblygu cysyniadol, meddylfryd dylunio, dealltwriaeth gyd-destunol a marchnata.  Rwy’n gweithio ar draws yr ehangder hwn.

Meysydd Ymchwil

Am flynyddoedd lawer roedd fy ymchwil yn canolbwyntio’n gyfan gwbl ar faes tecstilau wedi’u gwau a dillad gwau.  Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae hyn wedi newid i ganiatáu archwilio o fewn fframwaith dylunio tecstilau ehangach.  Mae hyn wedi golygu ehangu fy ngorwelion mewn ymateb i dechnoleg, tueddiadau a datblygiadau arloesol sy’n newid, gan gefnogi fy rôl fel Uwch Ddarlithydd ar y rhaglen hynod bellgyrhaeddol Patrymau Arwyneb a Thecstilau.   Mae ymchwil ym maes addysgeg yn gweithio ochr yn ochr â’m hymchwil i’m harfer personol.   

Mae cyswllt cyson â diwydiant drwy brosiectau ymgysylltu byw a chymunedol, a dilyn fy natblygiad proffesiynol fy hun, yn sicrhau bod cynnwys y rhaglenni rwy’n eu defnyddio yn berthnasol ac yn gyfredol i ddarpar lwybrau gyrfa’r myfyrwyr rwy’n eu haddysgu.  Mae hyn yn cynrychioli egwyddor sylfaenol fy niddordebau ymchwil.

Arbenigedd

Fy maes arbenigedd penodol o fewn tecstilau yw tecstilau wedi’u gwau.  Rwyf wedi gweithio mewn swyddi yn ymwneud â dillad gwau a thecstilau wedi’u gwau ac wedi arbenigo at lefel MA Tecstilau Lluniedig – Tecstilau wedi’u Gwau, yn y Coleg Celf Brenhinol.

Rwy’n arbenigo mewn addysgu’r broses ddylunio ar draws ein rhaglen gyfan.  Rwyf wedi bod yn ymwneud â sbarduno gwelliant yn y ffordd y mae myfyrwyr wedi gallu cynllunio ar gyfer, dylunio a dadansoddi patrwm a’i gymhwyso ar y cwrs hwn – o ran gwaith printiedig a lluniedig.

Rwy’n arbenigo mewn cyfoethogi allanoldeb y Rhaglen a’i chysylltiadau â diwydiant drwy brosiectau byw, cysylltiadau allanol a chystadlaethau.  Cefnogir hyn drwy’r prif fodylau a phrosiectau ymarferol yn y stiwdio yn ogystal â thrwy’r fframwaith Priodoleddau Graddedigion.