Skip page header and navigation

Julie Hicks BA (Anrh), TAR, Dip EP, Dip Dathliadaeth Sifil, MEPS

Image and intro

Silwét pen ac ysgwyddau dynes.

Awdur Cynnwys a DarlithyddCyfadran Busnes a Rheolaeth

Cyfadran Busnes a Rheolaeth


E-bost: j.hicks@uwtsd.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Awdur Cynnwys a Darlithydd

Cefndir

Ar hyn o bryd yn Uwch Gynghorydd Argyfyngau Sifil Posibl i Lywodraeth Cymru yn gweithio yn y Tîm Argyfyngau Sifil a Diogelwch Gwladol ac yn bwynt cyswllt cyntaf i Fforymau Lleol Cymru Gydnerth. Yn ymwneud â darparu cyngor a chymorth ar lefel uwch ar gyfer Llywodraeth Cymru ac arweinwyr allanol cynllunio at argyfyngau sifil posibl Categori 1 a 2, yn cynnwys y gwasanaethau brys, awdurdodau lleol, byrddau iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a sefydliadau milwrol ac yn y trydydd sector. Cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar ystod eang o grwpiau Cymru gyfan megis Dysgu a Datblygu, Marwolaethau Torfol, Cadernid Cymunedol a CBRN. Yn rhoi barn Llywodraeth Cymru ynghylch datblygiad Strategaeth Cydnerthedd y DU a’r adolygiad pum mlynedd o’r Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl. Yn cymryd rhan yn Adolygiad Llywodraeth Cymru o Argyfyngau Sifil Posibl yng Nghymru.  Cynrychiolydd arweiniol Llywodraeth Cymru ar grŵp cynllunio cwrs Aur Cymru (Grŵp Cydgysylltu Strategol) ac aelod o Banel Diamond, hefyd wedi hyfforddi fel Hyfforddwr Aur Cymru.

Mae rolau blaenorol yn cynnwys Uwch Swyddog Cynllunio at Argyfyngau Iechyd i Lywodraeth Cymru yn darparu cyngor a chymorth ar gyfer sefydliadau GIG Cymru ac yn aelod allweddol o ystod eang o grwpiau Iechyd penodol megis Marwolaethau Torfol, Clefydau Heintus, Contest Prevent, Gwrthfesurau a Hyfforddi ac Ymarfer.  Rheolwr Cynllunio at Argyfyngau i Lywodraeth Leol am flynyddoedd lawer yn arwain Grwpiau Fforymau Lleol Cymru Gydnerth megis Hyfforddi ac Ymarfer, Cadernid Cymunedol, Parhad Busnes a Risg.

Tiwtor Rhan-amser ar y cwrs Diploma Lefel 4 RSPH mewn Parodrwydd am Argyfyngau Iechyd, Cydnerthedd ac Ymateb ym Mhrifysgol Loughborough, a chwrs MSc Rheoli Peryglon a Thrychinebau ym Mhrifysgol De Cymru.

Aelod cyflawn o Gymdeithas Cynllunio at Argyfyngau y DU, ei Gweithgor Proffesiynol Agweddau Dynol a Chadernid Cymunedol yn y DU ac yn un o ddau gynrychiolydd Hyfforddi ac Ymarfer ar Fwrdd Gweithredol Cangen Cymru.

Diddordebau Academaidd

Mae cymwysterau academaidd yn cynnwys Gradd Baglor yn y Celfyddydau, gydag Anrhydedd, mewn Dylunio Graffig a Thystysgrif Addysg i Raddedigion.  Mae ganddi Ddiploma mewn Cynllunio at Argyfyngau, Tystysgrif Hyfforddi’r Hyfforddwr PREVENT a Diploma mewn Dathliadaeth Sifil.  Mae hi’n aelod o Dîm Digwyddiadau Ymateb i Argyfyngau Meddygol (MERIT) Cymru, yn hwylusydd cyrsiau Egwyddorion Rhyngweithredu y Cyd-wasanaethau Brys (JESIP) ac wedi’i chymhwyso mewn Ôl-drafodaeth Strwythuredig.  

Meysydd Ymchwil

  • Agweddau Dynol ar barodrwydd at argyfyngau ac ymateb
  • Gwersi a Ddynodwyd a’u Gweithredu
  • Proffesiynoldeb cynllunio at argyfyngau

Gwybodaeth Bellach

Mae gan Julie Ddiploma mewn Dathliadaeth Sifil ac mae’n cyflwyno gwasanaethau a seremonïau angladd, coffáu, claddu llwch, priodas, partneriaeth sifil, adnewyddu addunedau ac enwi.