Llun a Chyflwyniad
Rôl yn y Brifysgol
- Rheolwr Rhaglen: BA Addysg Gorfforol
- Darlithydd ar draws nifer o raddau BA a BSc, yn ogystal â’r MA Llythrennedd Corfforol, Chwaraeon ac Addysg Gorfforol
Cefndir
Cyn ymgymryd â gwaith darlithio, roed Kate yn athrawes Addysg Gorfforol mewn ysgol uwchradd yn Abertawe. Roedd Kate yn gyfrifol am ddosbarthiadau Addysg Gorfforol (blynyddoedd 7-11), cyrsiau TGAU a Safon Uwch ynghyd â bod yn athrawes allweddol mewn uned cymorth ymddygiad yn yr ysgol.
Ymgymerodd Kate â secondiad gyda’r Rhaglen Llythrennedd Corfforol i Ysgolion (PLPS) tra roedd yn cwblhau ei gradd Meistr, lle’r oedd yn gyfrifol am gynorthwyo athrawon mewn ysgolion cynradd clwstwr i wella eu darpariaeth addysg gorfforol. Yna ymgymerodd Kate â swydd darlithydd gwadd yn y Drindod Dewi Sant a oedd yn canolbwyntio ar iechyd a llesiant mewn addysg a chynhwysiant. Datblygodd y swydd hon tra’r oedd Kate yn addysgu. Aeth yn ei blaen i gwblhau ei PhD a darlithio’n rhan amser, tan iddi gychwyn ar ei swydd bresennol fel darlithydd amser llawn a Rheolwr Rhaglen y radd BA Addysg Gorfforol.
Diddordebau Academaidd
- Addysg Greadigol trwy Symud
- Nodau Addysg Gorfforol
- Iechyd a Lles mewn Addysg
- Athroniaeth Addysg Gorfforol
- Newid Cwricwlwm
- Dulliau Ymchwil
- Sgiliau Astudio
Meysydd Ymchwil
- Traethawd Meistr: Cyfalaf proffesiynol a newid cwricwlwm mewn ysgolion uwchradd
- Traethawd PhD: Persbectif Saluto-ecolegol ar ddigwyddiadau chwaraeon â chyfranogiad torfol yn Sir Benfro.
- Prif ddiddordebau ymchwil: Salutogenesis a gweithgarwch corfforol; arferion iechyd; llythrennedd corfforol ac iechyd; llythrennedd corfforol mewn oedolion; addysg; iechyd a llesiant plant.