Kate Williams

Hafan YDDS  -  Sefydliadau ac Academïau  -  Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau  -  Staff - Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau  -  Kate Williams

Kate Williams BSc (Anrh), MSc, PG Cert THE, PhD, FHEA, AFBPsS

Darlithydd

Ffôn: +44 (0) 1792 482017
E-bost: kate.williams@uwtsd.ac.uk



  • Rheolwr Rhaglen:
  • BSc Seicoleg
  • BSc Seicoleg a Chwnsela
  • Darlithydd ac Arweinydd Modwl
  • Tiwtor Cymorth Academaidd
  • Goruchwyliwr Traethodau Hir Israddedig
  • Goruchwyliwr Traethodau Hir Gradd Meistr
  • Goruchwyliwr PhD

Rhwng 2005–2014 bûm yn astudio ar gyfer fy BSc mewn Seicoleg, MSc mewn Dulliau Ymchwil ac Ystadegau mewn Seicoleg, a PhD mewn Seicoleg Wybyddol ym Mhrifysgol Abertawe.

Cyn ymuno â’r adran Seicoleg a Chwnsela yn Y Drindod Dewi Sant (Abertawe) ym mis Medi 2015, bûm yn gweithio yng Ngholeg Meddygaeth Prifysgol Abertawe yn gynorthwyydd cronfa ddata.

  • Cymrawd Cyswllt Cymdeithas Seicolegol Prydain
  • Cymrawd yr Academi Addysg Uwch
  • Aelod llawn Adran Seicoleg Wybyddol Cymdeithas Seicolegol Prydain
  • Aelod llawn cangen Cymru Cymdeithas Seicolegol Prydain

Fy mhrif feysydd addysgu yw seicoleg wybyddol a biolegol, ar lefel arbrofol a chymhwysol. Ar y ddarpariaeth rhwng Lefel Pedwar a Lefel Chwech, mae hyn yn cynnwys addysgu’r ymchwil damcaniaethol ac empirig sy’n gysylltiedig â gweithredu gwybyddol a’r is-haenau biolegol sy’n cefnogi’r wybyddiaeth honno, a sut maen nhw’n berthnasol i ddeall ymddygiad yn y byd go iawn. Ar Lefel Saith ac Wyth, mae fy addysgu’n canolbwyntio ar ddulliau ymchwil, dylunio, a dadansoddi, a byddwn ar gael i dderbyn ymgeiswyr am raddau ymchwil.

Mae fy niddordebau ymchwil ym meysydd adnabod gwrthrychau a chof. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn cynrychioliadau damcaniaethol sy’n sail i gof adnabod gwrthrychau cyfnodol penodol hir-dymor. Mae gen i ddiddordeb hefyd yn effaith Anghofio trwy Adalw (RIF), ac mae’r rhan fwyaf o’m gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar fersiwn addasedig o’r paradeim sy’n ymwneud ag adnabyddiaeth er mwyn archwilio a ellir ei ddefnyddio i ymchwilio i’r priodweddau sy’n seiliedig ar nodweddion a’n hysbysu o ficro-strwythur cynrychioliadau cof gwrthrychau.

Mae fy niddordebau ymchwil eraill yn canolbwyntio ar wybyddiaeth gymhwysol, yn benodol mewn perthynas â dysgu mewn cyd-destunau addysgu a gweithredu gwybyddol wrth yrru.

Mae fy maes arbenigedd proffesiynol yn canolbwyntio ar seicoleg wybyddol arbrofol, yn benodol, cof cyfnodol hir-dymor. Rwy’n siaradwr Cymraeg rhugl hefyd ac yn gweithio ar brosiect ar hyn o bryd i ddatblygu cwrs dysgu Cymraeg yn gysylltiedig â seicoleg, cwnsela, ac iechyd meddwl.

  • Williams, K. E., Phelps, C., & Hutchings, P. B. (2021). Beyond learning in higher education: An evaluation of the ‘Life Design’ initiative to improve student employability. Studies in Higher Education, 1-15.
  • Reppa, I., Williams, K. E., Greville, W. J., & Saunders, J. (2020). The relative contribution of shape and colour to object memory. Memory & Cognition, 48(8), 1-18.
  • Reppa, I., Williams, K. E., Worth, E. R., Greville, W. J., & Saunders, J. (2017). Memorable objects are more susceptible to forgetting: Evidence for the inhibitory account of retrieval-induced forgetting. Acta Psychologica, 181, 51-61.
  • Balbuena, L. D., Middleton, R.M., Tuite-Dalton, K., Pouliou, T., Williams, K. E., & Noble, G. J. (2016). Sunshine, Sea, and Season of Birth: MS Incidence in Wales. PLoS ONE 11(5): e0155181. doi:10.1371/journal.pone.0155181.

Sgyrsiau a Chyflwyniadau mewn Cynadleddau:

Williams, K. E., & Reppa, I. (2014). The role of colour in object memory: Evidence from a recognition-induced forgetting paradigm. Poster mewn gweithdy, Colour in concepts: Representation and processing of colour in language and cognition. Düsseldorf, yr Almaen, 3/6/2014.

Williams, K. E., & Reppa, I. (2013). The role of colour in object memory: Evidence from a recognition-induced forgetting paradigm. Poster yng nghyfarfod blynyddol y gymdeithas Seiconomig. Toronto, Canada, 14/11/2013.

Williams, K. E., & Reppa, I. (2012). The role of colour in object memory: Evidence from a retrieval-induced forgetting paradigm. Cyflwyniad yng nghynhadledd adran Wybyddol BPS. Glasgow, DU, 31/8/2012.

Reppa, I., & Williams, K. E. (2011). Retrieval competition in long-term memory for object shape and colour. Cyflwyniad yng Nghynhadledd ryngwladol y cof. Efrog, DU, 3/8/2011.

Williams, K. E., & Reppa, I. (2010). Competition in memory between shape and surface object properties. Poster yng nghynhadledd flynyddol BPS. Stratford-upon-Avon, DU, 14/4/2010. 

Grantiau Ymchwil:

2022 – Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS): Cynllun Cynorthwywyr Ymchwil Israddedig (URAS). £2,160.

Pwyllgorau:

2021 – Presennol: Achosion Arbennig y Brifysgol, PCYDDS

2019 – Presennol: Arweinydd Gweithgor Swyddogion Asesu’r Gyfadran AAD, PCYDDS

2015 – Presennol: Moeseg Ymchwil Seicoleg, PCYDDS

2016 – 2022: Swyddog Asesu Seicoleg, PCYDDS

2019 – 2022: Gwella Ansawdd y Gyfadran AAD, PCYDDS

2016 – 2018: Moeseg Ymchwil y Gyfadran AAD, PCYDDS