Skip page header and navigation

Dr Matthew Cobb BA, MA, PhD

Image and intro

Silwét pen ac ysgwyddau dyn

Darlithydd yn y Clasuron

Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau

Ffôn: +44 (0) 1570 424806
E-bost: m.cobb@uwtsd.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

  • Rheolwr Rhaglen ar gyfer y BA Hanes yr Hen Fyd, BA Hanes yr Hen Fyd ac Archaeoleg, a BA Gwareiddiadau’r Hen Fyd

Cefndir

Rwy’n ymchwilydd ac yn ddarlithydd sydd â diddordebau mewn cysylltiadau diwylliannol ac economaidd rhwng byd Groegaidd-Rufeinig ardal Môr y Canoldir a byd ehangach Cefnfor India. Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar ystod o themâu cysylltiedig, gan gynnwys cyfnewid traws-ddiwylliannol, diaspora, cysyniadau Groegaidd-Rufeinig o’r Dwyrain, a defnydd o nwyddau Cefnfor India yn y gymdeithas Rufeinig. Rwyf hefyd wedi cymryd rhan mewn trafodaethau ar fudd damcaniaethol cysyniadau sy’n gysylltiedig â globaleiddio a ‘glocaleiddio’ a’u cymhwyso i’r astudiaeth o’r hen fyd.

Enillais fy ngradd PhD o Brifysgol Abertawe ac ers hynny rwy wedi cyhoeddi llawer o lyfrau, penodau wedi’u golygu ac erthyglau. Mae fy ngweithiau nodedig yn cynnwys y monograff Rome and the Indian Ocean Trade: From Augustus to the Early Third Century CE (2018) a’r llyfrau a olygwyd: The Indian Ocean Trade in Antiquity: Political, Cultural and Economic Impacts (2019); a Globalization and Transculturality from Antiquity to the Pre-Modern World (2022).

Diddordebau Academaidd

Yn ychwanegol at oruchwylio ymchwil (MRes, MPhil a PhD), rwy wedi darlithio ar ystod eang o fodylau a addysgir ar gampws a thrwy ddysgu o bell ar lefel israddedig ac ôl-raddedig. Er mai hanesydd Rhufeinig ydwyf yn bennaf, rwy wedi addysgu ar amrywiaeth o themâu hanesyddol, llenyddol, archaeolegol a chymdeithasol yn canolbwyntio ar yr Hen Fyd. Mae’r modylau rwy wedi addysgu arnynt yn cynnwys y canlynol:

Modylau Israddedig (modylau a addysgir ar hyn o bryd, neu mewn blynyddoedd blaenorol):

  • O Bentref i Ymerodraeth (cwrs arolwg blwyddyn gyntaf ar hanes gwleidyddol a milwrol Rhufain, yn cynnwys y cyfnodau Gweriniaethol, Ymerodrol a’r Cyfnod Hynafol Diweddar.
  • Bywyd bob dydd yn Athen a Rhufain (modwl blwyddyn gyntaf – hanes cymdeithasol Rhufain ac Athen)
  • Llenyddiaeth a Diwylliant yn ystod Teyrnasiad Nero (modwl ail/trydedd flwyddyn – hanes llenyddol, diwylliannol a bywgraffiadol teyrnasiad Nero).
  • Bywyd ac Amserau Cesar a Cicero (modwl ail/trydedd flwyddyn – themâu hanesyddol, bywgraffiadol a diwylliannol yn gysylltiedig â’r Weriniaeth Hwyr).
  • Macedon a’r Macedoniaid (modwl ail/trydedd flwyddyn – yn canolbwyntio ar y byd Helenistaidd)
  • Prosiect y Clasuron (ail flwyddyn – prosiect astudio/rhag-draethawd hir annibynnol, ond gyda chefnogaeth)
  • Archaeoleg a Hanes Rhanbarthol – modwl taith maes (modwl ail/trydedd flwyddyn – trefnwyd a chynhaliwyd taith maes i Sisili – gwanwyn 2017; ac i Profens – gwanwyn 2019).
  • Dinas Rhufain (modwl trydedd flwyddyn – hanes, hanes celf a diwylliant materol hanesyddol a chymdeithasol).
  • Y Gorllewin a’r Dwyrain yn Cwrdd: Ar Ffiniau’r Oikoumene a Thu hwnt (modwl ail/trydedd flwyddyn – hanes cymdeithasol, crefyddol, gwleidyddol, milwrol ac economaidd a diwylliant materol – y rhyngweithio rhwng y byd Groegaidd-Rufeinig ac India, Canol Asia, Dwyrain Affrica, De Arabia a’r Dwyrain Pell).

Modylau ÔI-raddedig (modylau a addysgir ar hyn o bryd, neu mewn blynyddoedd blaenorol):

  • Iwl Cesar a’i Gyfnod (hanes Gweriniaethol hwyr gyda ffocws bywgraffiadol ar Cesar)
  • Ysgrifennu Hanes yn yr Hen Fyd: Rhwng Naratif a Dehongliad (Hanesyddiaeth Groegaidd a Rhufeinig)
  • Bywyd yn Anialwch Dwyreiniol yr Aifft (hanes gwleidyddol, crefyddol, cymdeithasol, milwrol ac economaidd a diwylliant materol)
  • Rhufain a Chefnfor India: Y Byd Clasurol mewn Cyd-destun Byd-eang (hanes gwleidyddol, crefyddol, cymdeithasol, milwrol ac economaidd a diwylliant materol)
  • Theori a Methodoleg ar gyfer Astudio’r Clasuron
  • Agweddau ar Grefydd a Chwlt Groegaidd a Rhufeinig

Modylau iaith:

  • Groeg Uwch (testunau’n cynnwys Histories gan Herodotus, Anabasis gan Xenophon, a detholiadau o areithiau o gorpws Lysias)
  • Groeg Canolradd (gramadeg uwch a chyfieithu testunau Groeg heb eu haddasu – e.e. True History gan Lysias a Lucian)

Meysydd Ymchwil

Mae fy ymchwil  yn archwilio’r rhyngweithio diwylliannol ac economaidd rhwng ardaloedd Môr y Canoldir ac India. Yn benodol, mae gen i ddiddordeb yng Nghefnfor India fel sianel ar gyfer masnach a chyfnewid rhwng y Gorllewin a’r Dwyrain, gan ganolbwyntio ar y cyfnod Awgwstaidd hyd at y drydedd ganrif AD.

Mae’r ymchwil hwn yn cwmpasu nifer o feysydd gan gynnwys materion economaidd yn gysylltiedig â chost, dull cynnal a gweithrediadau’r fasnach; materion diwylliannol a chymdeithasol yn ymwneud â hunaniaeth a statws y masnachwyr a chreu diaspora a chymunedau masnachwyr dros tro mewn tiroedd tramor; yn ogystal ag archwilio effaith gymdeithasol ac economaidd y fasnach hon ar yr elît yn Rhufain, yn enwedig y defnydd o nwyddau dwyreiniol.

Gweithgaredda Menter, Masnachol ac Ymgynghori

Ymysg fy ngweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd, bûm yn gyfrannwr gwadd i bennod o raglen Making History BBC Radio 4. Pennod ar Fwyd oedd hon a ddarlledwyd yn wreiddiol am 15:30 ddydd Mawrth 7 Ionawr, 2020. Yn 2017, ymddangosais fel cyfrannwr arbenigol ym mhennod 6 o ail dymor Finding Jesus: Fact, Faith, Forgery. Teitl y bennod yw ‘Doubting Thomas’. Darlledwyd hwn ar CNN yn America yng ngwanwyn 2017. Ymgynghorwyd â mi oherwydd fy ngwybodaeth am fasnach Cefnfor India yn y ganrif gyntaf OC.

Rwy wedi bod yn rhan o fentrau allgymorth a luniwyd i hwyluso mynediad i’r clasuron a hanes yr hen fyd yn y gymuned ehangach. Mae’r gweithgareddau hyn yn cynnwys cymryd rhan yn rhaglenni Partneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach De-orllewin Cymru a luniwyd i ennyn diddordeb plant ysgol lleol mewn AU, yn ogystal â phrosiect ‘Lladin yn y Parc’ Prifysgol Abertawe / Cymdeithas Glasurol De-orllewin Cymru / Prosiect Iris.