Image and intro
Darlithydd: Y Gymraeg (Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu)
Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau
Ffôn: 01267225143
E-bost: n.evans@pcydds.ac.uk
Rôl yn y Brifysgol
Darlithydd: Y Gymraeg (Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu)
- Darlithio ar y cyrsiau BA Addysg a TAR Cynradd gan roi sylw penodol i ddatblygu sgiliau llythrennedd a chyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg
- Tiwtor Cymraeg ar gyfer myfyrwyr ail-iaith - cyrisau BA Addysg (llwybr y Gymraeg) a TAR (Cymraeg i Bawb)
- Tiwtor Cymraeg ail-iaith ar gyrsiau a ddarperir gan Ragoriaith sef Canolfan Gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol.
- Tiwtor personol ar y rhaglen BA Addysg cynradd
Cefndir
Wedi dilyn gradd yn y Gymraeg o Brifysgol Cymru Caerdydd penderfynodd Nia ddilyn cwrs TAR Cynradd yng Ngholeg y Drindod am flwyddyn. Bu’n gweithio mewn ysgol gynradd yng Ngheredigion cyn derbyn swydd fel Athrawes Fro gyda’r sir. Bu’n ymweld ag ysgolion amrywiol o fewn y sir gan gynnig cefnogaeth gyda’r Gymraeg. Yn ddiweddarach derbyniodd rôl fel Athrawes Cefnogi’r Gymraeg. Bryd hynny bu’n cefnogi’r ysgolion wrth ddatblygu’r Gymraeg yn ogystal â hyfforddi athrawon am agweddau’n ymwneud â datblygu sgiliau iaith a llythrennedd.
Derbyniodd swydd fel darlithydd yn y Brifysgol yn Ionawr 2020. Mae’n darlithio ar y cyrsiau BA Cynradd a TAR Cynradd gan ganolbwyntio ar ddatblygu gwybodaeth a sgiliau am Faes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. Mae hi hefyd yn diwtor Cymraeg ar gyrsiau Cymraeg ail-iaith.
Diddordebau Academaidd
Darlitho ar fodylau:
- ECAD4008 – Arwain y Dysgu (CS)
- ECAD5008 – Arwain y Dysgu (CA2)
- ECAD6008 – Arwain y Dysgu (dyfnhau gwybodaeth)
- ECAD6008 (TAR) – Arwain y Dysgu (CS a CA2)
Tiwtor Cymraeg:
- Llwybr y Gymraeg (BA Addysg)
- Cymraeg i Bawb (TAR)
Meysydd Ymchwil
Mae ei diddordeb pennaf ar ddatblygu sgiliau a safon y Gymraeg ar lawr dosbarth. Mae’n bwysig datblygu sgiliau llafar wrth datblygu cywirdeb iaith a hynny ar lafar ac yn ysgrifenedig. Yn ogystal, mae ganddi ddidordeb mawr mewn llenyddiaeth plant a sut gall dewis sbardun addas danio dychymyg disgyblion o bob oed. Yn naturiol, yn ganolog i hyn i gyd mae ei chariad at Gymru a’i thraddodiadau cyfoethog.
Arbenigedd
Ym maes addysgu a dysgu mae ei harbenigedd drwy rannu gwybodaeth a chynnig syniadau ar sut i feithirn a datblygu sgiliau iaith a llythrennedd disgyblion yn y sector gynradd