
Hafan YDDS - Sefydliadau ac Academïau - Cyfadran Busnes a Rheolaeth - Staff Busnes a Rheolaeth - Paul Ranson
Paul Ranson MBA, PGCert
Arweinydd Modwl a Darlithydd
E-bost: p.ranson@uwtsd.ac.uk
Mae Paul yn entrepreneur “go iawn” ac yn hyrwyddwr entrepreneuraidd hefyd sy’n gweithio o’r Athrofa Ryngwladol er Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol (IICED) drwy ei ystafell wely gefn yn Warwick.
Mae’n disgrifio ei hun fel Bod Dynol, Entrepreneur ac Academydd, ac iddo ef, mae’r drefn yn bwysig! Ei rôl yn y brifysgol yw Hyrwyddwr Dysgu Entrepreneuraidd. Mae hefyd yn arwain y rhaglen Tystysgrif Ôl-radd mewn Sgiliau Menter, cwrs a ddatblygodd ar y cyd â chydweithwyr yn IICED.
Fel mentor gyda’r AAU mae’n mentora cydweithwyr i ennill cydnabyddiaeth debyg.
Mae Paul hefyd yn cael ei adnabod fel yr arbenigwr i droi ato yng nghyswllt pob peth sy’n ymwneud â thechnoleg addysgol. Yn seiliedig ar nifer o flynyddoedd o greu cynnwys digidol, cenhadaeth bersonol Paul yw creu deunydd clyfar a diddorol sy’n cynorthwyo dysgwyr y Drindod Dewi Sant. I’r perwyl hwn mae Paul wedi creu buddion cynnwys o’i yrfa mewn gemau fideo a gall ymfalchïo mewn apiau gwe rhyngweithiol, gwaith celf digidol, fideo a sgwrsfotiau. Mae’n awyddus i egluro ei fod wedi cyflawni hyn oll o fewn “cyfyngiadau hyfryd” yr offer a’r dechnoleg sydd ar gael i’r brifysgol.
Ac yntau’n heiciwr brwd sy’n caru mynyddoedd a dyffrynnoedd Cymru, mae Paul, ymhlith nifer o uchelgeisiau eraill, yn bwriadu cerdded gyda’i gi “Max” o amgylch perimedr Cymru. Mae wedi cerdded ar hyd Clawdd Offa, llwybr arfordirol sir Benfro, a llwybr y mileniwm o amgylch penrhyn Gŵyr a Sir Gaerfyrddin i gyd.
Mae Paul yn cadw ieir yn ei ardd gefn yn Warwick y mae’n ei rhannu gyda’i bartner Lynnie. Gyda’u Jackapoo "Max", mae’r pâr yn enwog am eu partïon eclectig a’u gwyliau gyrru mawr yn Ne Ewrop. Er eu bod fel arfer yn teithio mewn car codi to Mini Cooper, gwnaethon nhw fwynhau’r daith ddiweddaraf o amgylch ardal y Camargue mewn moethusrwydd, yn eu Jaguar "The Lady Susan”. A bod yn onest, meddai, mae’n fwy cyfforddus.
Datblygwyd ei sgiliau entrepreneuraidd drwy wneud gemau fideo o’r radd flaenaf. Mae ef a’i gydweithwyr wedi gwneud dros 300 o deitlau manwerthu ar gyfer consolau Nintendo, PlayStation ac Xbox. Mae wedi creu a gwerthu tri busnes: gwerthwyd dau ar Gyfnewidfa Stoc Llundain a “Pink Sheets” yn yr UD. Aeth trydydd busnes i’r wal yn anfoddus, “Sgil-effaith bod yn entrepreneuraidd”, eglura. “Mae pob entrepreneur yn mynd i’r wal o leiaf unwaith” meddai.
Mae’n fwy na dyn digidol yn unig. Mae gweithgareddau busnes Paul yn cynnwys mewnforio a gwerthu ceir o Japan, tai gwydr o Tsieina, a theclynnau uwchsonig i ddychryn cathod. Mae ei gampau diweddaraf yn cynnwys rhedeg tri Airbnb.
Yn academaidd mae Paul yn gynnyrch Prifysgol Warwick (Ysgol Fusnes Warwick) lle cafodd ragoriaeth am ei draethawd hir MBA. Enillodd gymhwyster Tystysgrif Ôl-raddedig (gyda Rhagoriaeth) o'r Drindod Dewi Sant ar ôl cyfnod yn gweithio ar gampws Birmingham. Mae hefyd yn gymrawd o’r AAU.
Mae gan Paul ddiddordeb angerddol mewn addysg fenter ac yn enwedig y dull EntreComp o ddysgu ac mae’n hyfforddwr ardystiedig gydag EntreComp gan weithio ar ran y Drindod Dewi Sant.
Mae’n credu’n gryf fod Cymwyseddau Entrepreneuraidd yn asedau gwerthfawr i fyfyrwyr nid yn unig yn y sector Busnes, ond pob agwedd ar y Celfyddydau, y byd academaidd, ac Eiriolaeth ym mhynciau’r Dyniaethau o Archaeoleg i Swoleg.
Mae gan Paul gymhwyster PRINCE2 a DSDM mewn Rheoli Prosiectau Ystwyth.
Mae’n rhan o dîm o fentoriaid sy’n mentora busnesau creadigol yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr drwy raglen a ariennir gan yr Awdurdod Cyfun o’r enw Scale-Up.
Mae hefyd yn cynghori busnesau newydd yn anffurfiol ym mhob math o sectorau creadigol o’r theatr i gynhyrchu fideo.
Ar ôl darllen Effectuation gan Saras Sarasvathy sylwodd Paul ei fod yn cyd-fynd â’i ymagwedd ef ei hun at fenter. Daeth llyfr Saras yn sylfaen ar gyfer y Dystysgrif Ôl-raddedig ac yn llawlyfr geirfa fel y gall Paul ddefnyddio’r derminoleg broffesiynol i wneud i’w brofiadau ef hyd yn hyn swnio’n hynod broffesiynol.
Mae’n gefnogwr brwd o dechneg Feynman. Dadleua’r ymagwedd hon, er mwyn i rywun gael ei ystyried yn arbenigwr, ei bod yn rhaid i’r unigolyn hwnnw allu cyfleu syniadau mewn ffordd y byddai plentyn 12 oed yn eu deall. I’r perwyl hwn, mae ei wersi’n cynnwys cyfeiriadau cyfoes gyda’r bwriad o syntheseiddio cymhlethdod yn ddarnau llai y bydd myfyrwyr yn eu deall a’u cofio.
Yn sgil ei waith yn Ysgol Fusnes Warwick bu’n ymchwilio i’r niwrowyddoniaeth y tu ôl i wneud penderfyniadau a gwaith Cass Sunstein, Nudge. Mae ei draethawd hir wedi’i gyhoeddi ac roedd yn canolbwyntio ar arbrofion gan ddefnyddio ei Airbnbs.
Sbardunodd cydweithiwr yn y gwasanaeth tân chwilfrydedd gydol oes mewn Damcaniaeth Systemau. Mae wedi’i gyfareddu gan y tebygrwydd rhwng gyrfa ym maes cynhyrchu gemau fideo a phrofiadau ymladd tân ei gyfaill. Ychwanegwyd at hyn gan ddamcaniaethau systemau Cynefin gan Dave Snowden. Fel y cyfryw mae diddordeb academaidd Paul yn dangos arlliw o gymhlethdod.
O ddiddordeb arbennig i Paul yw’r cysyniad o anghyseinedd gwybyddol. Mae’r syniad y gall dau syniad gwrthwynebol fod yn gywir ar yr un pryd yn rhywbeth y mae’n teimlo sy’n atyniadol iawn i unrhyw un sy’n ceisio dod yn ddysgwr gydol oes. Yn fwy na hynny, meddai, mae’n egluro cymaint am lwyddiant a methiant yn ein mentrau: am bob casét VHS llwyddiannus, mae tîm sy’n dadlau y dylai eu methiant hwy gyda Betamax fod wedi bod yn gystadleuydd!
Mae diddordebau Paul yn troi o gylch addysgu a dysgu yn seiliedig ar ei brofiadau o greu gemau fideo a’r niwrowyddoniaeth y tu ôl i wneud penderfyniadau. Mae’r cyfuniad rhyfedd hwn i’w weld yn y deunyddiau mae wedi’u creu ar gyfer y brifysgol.
Ar adeg ysgrifennu’r darn hwn, mae Paul yn treulio egni yn datblygu sgwrsfot sy’n defnyddio technoleg o’r enw GPT3.
Eglura fod y dechneg hon yn newid sylweddol wrth greu’r hyn sy’n ymddangos i fod yn endidau ymdeimladol. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar y syniad o hyfforddi sgwrsfot i ddod yn gynorthwyydd addysgu sydd wrth law i gynorthwyo myfyrwyr y Dystysgrif Ôl-raddedig bob awr o’r dydd a’r nos.
Mae Paul yn ystyried ei hun yn ddysgwr gydol oes. Pan rydych yn gweithio ym maes technoleg, eglura, gallwch fod yn arbenigwr am hyn a hyn o amser yn unig, mae’n esblygu’n barhaus: mae’r hyn sydd yn y papurau newydd heddiw yn bapur lapio eich sglodion yfory.
Creda fod arbenigedd i raddau helaeth yn anwadal. Wedi dweud hynny, mae’n ystyried bod ei sgiliau Airbnb, i raddau helaeth, yn ddiogel rhag newid. Er enghraifft, mae’n gallu newid gorchudd duvet yn gynt nag unrhyw un y mae wedi’u cwrdd, ac mae’n hapus i unrhyw un i’w herio.
Mae Paul yn rhedeg ymgynghoriaeth fach sy'n darparu atebion clyfar yn seiliedig ar dechnoleg gemau a thechnegau gêmeiddio. Comisiynwyd prosiectau ar gyfer y Brifysgol Diwydiant, Ymddiriedolaeth GIG Partneriaeth Coventry a Swydd Warwig, a Threnau Arriva i enwi ychydig.
Mae Paul eisiau gwneud darllenwyr yn ymwybodol ei fod hefyd yn rhedeg tri Airbnb yn Leamington Spa, Swydd Warwig.
Cyhoeddwyd traethawd hir Meistr Paul yn yr International Journal of Culture Tourism and Hospitality Research cyn ei argraffu.
- "Please tidy up before leaving": nudging Airbnb guests toward altruistic behavior
DOI: 10.1108/IJCTHR-06-2019-0101
Hefyd:
- Kirby, D.A, Healey-Benson, F. & Ranson, P. (2021). ‘Harmonious Entrepreneurship for resilient communities’. Nexus + Conference, PCYDDS, Cymru, 2 Gorffennaf 2021.
- Healey-Benson, F. & Ranson, P. (2020). ‘Striving to Thrive: learning and innovating through entrepreneurial education’. Nexus + Conference, PCYDDS, Cymru, 14 Gorffennaf 2020.
- Ranson, P. (2021).‘Creativity with Paul Ranson’. EntreCompEdu Café Webinar Series, 20 Ionawr 2021. Creative Comms Attribution. https://www.youtube.com/watch?v=YdlgRdIdBm
- Ranson, P. (2021). ‘Entrepreneurial Learning and Sustainable Development with Paul Ranson
- .EntreCompEdu Café Webinar Series, 9 Mehefin 2021. Creative Comms Attribution. https://www.youtube.com/watch?v=JI_lyvbpZGI
Cyn dod yn addysgwr, roedd Paul yn rhedeg busnesau gemau fideo llwyddiannus, a gwerthodd ddau ohonynt fel Cynnig Cyhoeddus Cychwynnol ar farchnadoedd Cyfnewidfa Stoc Llundain a Pink Sheet.
Gofynnir yn aml i Paul pa rai oedd ei gemau enwocaf. Am ei fod yn hen ddyn, gwnaed llawer o’r teitlau gwreiddiol cyn i’r myfyrwyr iau gael eu geni.
Ymhlith ei deitlau cynnar y gallai rhai pobl hŷn eu cofio mae Dizzy gyda’r “efeilliaid Oliver”. Bydd pawb wedi clywed am Who Wants to be a Millionaire. Yr un mae pawb wrth ei bodd ag ef yw Micro Machines for Codemasters. Yr un a wnaeth y mwyaf o arian oedd Andre Agassi Tennis Generation ond nid yw'n hoffi siarad am hynny😊.