Ein pobl sydd wrth wraidd popeth a wnawn
Ein pobl sydd wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym yn ymfalchïo yn ein gweithwyr ymroddedig a dawnus ac rydym yn gweithio gyda’n gilydd fel tîm i wneud gwahaniaeth ym mywydau ein myfyrwyr a’r cymunedau a wasanaethwn. ‘Trawsnewid addysg, trawsnewid bywydau’ yw ein cenhadaeth. Os hoffech ymuno â ni ar y daith hon a gwneud gwahaniaeth hefyd, hoffem glywed gennych chi.
Swyddi GwagBuddion
Mae ein gweithwyr yn cael mynediad i becyn cyflog a buddion gwych mewn cydnabyddiaeth o’u cyfraniad gwerthfawr gan gynnwys y canlynol:
- Cyflog ac amodau da fel cyflogwr cyflog byw achrededig rydym yn cynnig cyflog cystadleuol
- Lwfans gwyliau blynyddol hael gan gynnwys cau dros y Nadolig/Blwyddyn Newydd
- Aelodaeth o gynllun pensiwn gan USS i ddarparu buddion ar eich cyfer chi a’ch teulu
- Polisïau sy’n gefnogol i deuluoedd sy’n darparu gweithio hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl
- Cyfleoedd gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cefnogaeth i ennill cymwysterau pellach
- Cefnogaeth i iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys gwasanaethau cymorth iechyd galwedigaethol a chwnsela
- Disgowntiau i staff ar ystod o gynnyrch a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio gan gynnwys y cynllun beicio i’r gwaith.
Ynglŷn â’r Drindod Dewi Sant
Rydym yn croesawu eich diddordeb mewn gweithio gyda ni ac yn gobeithio y bydd y wybodaeth isod yn rhoi trosolwg i chi o fywyd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Iaith Gymraeg
Mae gennym draddodiad balch fel sefydliad dwyieithog sy’n ymroddedig i’r Gymraeg ac mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn y Gymraeg neu’r Saesneg a chaiff bob cais a gyflwynir ei drin yn gyfartal. Os byddwch yn gweithio gyda ni, byddwn hefyd yn eich cefnogi i ddysgu a gwella’ch sgiliau yn yr Iaith Gymraeg.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Creu diwylliant cynhwysol lle gall pawb ffynnu yw’r hyn rydym yn ymdrechu i’w wneud yn y Drindod Dewi Sant. Rydym yn darparu amgylchedd gweithio a dysgu croesawgar a chynhwysol ac rydym yn gwerthfawrogi ac yn parchu gwahaniaethau pob unigolyn. Rydym yn croesawu ac yn annog ymgeiswyr o bob rhan o’r gymuned beth bynnag bo’u cefndir, oed, anabledd, rhyw/rhywedd, hunaniaeth rywedd, ethnigrwydd, crefydd/cred neu gyfeiriadedd rhywiol. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i gymuned y Drindod Dewi Sant.
Gweithio hyblyg – rydym yn hyrwyddo gweithlu hyblyg a bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy’n ceisio trefniadau gweithio amser llawn, rhan-amser, rhannu swydd, neu yn ystod y tymor yn unig a bydd hyn yn berthnasol i’r holl swyddi a hysbysebwn.
Cyflogwr hyderus o ran anabledd ymroddedig – mae’r Brifysgol yn ymroddedig i sicrhau bod ein proses recriwtio’n gynhwysol ac yn hygyrch, gan gyfleu a hyrwyddo pob swydd wag a chynnig cyfweliad i ymgeiswyr ag anabledd sy’n bodloni meini prawf hanfodol y swydd. I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun Hyderus o ran Anabledd, ewch i'w gwefan.
Hawl i Weithio yn y DU
Ar gyfer swyddi academaidd, ymchwil neu arbenigol iawn, mae’n bosibl y bydd y Brifysgol yn gallu cael nawdd Gweithiwr Crefftus. Ar gyfer pob swydd arall, byddwn yn gallu ystyried eich cais dim ond os ydych yn gymwys i weithio yn y DU. Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â swyddi@pcydds.ac.uk.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Gwefan Llywodraeth y DU.
Eich Data
Mae’r Drindod Dewi Sant, fel rhan o unrhyw broses recriwtio, yn casglu ac yn prosesu data personol sy’n ymwneud ag ymgeiswyr am swyddi. Darllenwch yr Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeiswyr am Swyddi, i gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn rheoli ac yn diogelu eich data.
Cysylltwch â ni
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am ein swyddi gwag, danfonwch e-bost i swyddi@pcydds.ac.uk a bydd aelod o'r tîm AD mewn cysylltiad.