Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Ôl-raddedig  -  TAR Cynradd gyda SAC

TAR Cynradd gyda SAC

Gwnewch Gais Nawr

Bydd graddedigion y cwrs TAR Cynradd yn meddu ar yr wybodaeth, sgiliau, gwerthoedd ac anianawd i gyflawni statws athro cymwysedig (SAC) a bod yn athro cymwys, yn barod i weithio yng Nghymru a thu hwnt.

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

TAR Cynradd gyda SAC
Cod UCAS: 3CPN
Ymgeisio drwy UCAS


Diwrnod Agored TAR Gofyn Am Fwy o Wybodaeth Sut i Wneud Cais Cymorth ariannol Prawf Cyfwerthedd TGAU
E-bost Cyswllt: TeacherEd@uwtsd.ac.uk

Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: £9,000
Dramor: £13,500

Pam dewis y cwrs hwn?

  • Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 1af yng Nghymru am Addysg (Guardian League Table 2022)
  • Mae graddedigion yn gyflogadwy iawn fel athrawon cymwysedig
  • Llwybrau Cymraeg a Saesneg ar gael
  • Astudio yng nghampws o’r radd flaenaf SA1 yn Abertawe.

 

Map Addysg Cymru

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r cynnwys craidd yn cynnwys:

  • Lleoliad amgen – cyfle i brofi addysg yn ei hystyr ehangach;
  • Pontio – y broses lle bo gwybodaeth ymarferol a damcaniaethol yn cwrdd; a chaiff y dull trawsffurfiol ei gyflawni;
  • Modylau gorfodol – cynnwys sy’n cael ei gyd-adeiladu a’i gyd-ddarparu (pedagogaidd a chysylltiedig â phwnc) y rhaglen;
  • Dewisol – profiad yn yr ysgol ac a gefnogir gan y Brifysgol lle gall graddedigion ddewis dilyn trywydd ymholi mwy arbenigol er mwyn dyfnhau eu gwybodaeth o’r cwricwlwm.
  • Cynhadledd partneriaeth – y cyfle i rannu arfer gorau mewn digwyddiad cynhadledd er mwyn gallu trawsnewid y bartneriaeth;
  • Statws Athro Cymwysedig – llwybr proffesiynol gorfodol sy’n arwain at ddyfarniad statws athro cymwysedig;
  • Datblygu Sgiliau’r Gymraeg– llwybr proffesiynol gorfodol i ddatblygu hyder a gallu graddedigion wrth siarad Cymraeg.
Pynciau Modylau

Mae’r rhaglen yn llawn amser dros 36 wythnos.

Yn gyffredinol, mae’r rhaglen yn cynnwys darpariaeth 12-weeks wythnos yn y brifysgol a 24 wythnos mewn ysgol.

Modylau Lefel 6

Cylch 3 Astudiaethau Craidd: Y Dysgwr: pwy ydw i’n ei addysgu? (30 credyd; gorfodol)

Mae’r modiwl hwn yn gosod y plentyn/disgybl yng nghanol y rhaglen. Mae deall sut mae disgybl yn dysgu, wedi’i seilio ar ddamcaniaethau dysgu, tystiolaeth seiliedig ar arfer a lle iechyd a llesiant, yn hanfodol i addysgu a dysgu effeithiol. Mae’r modiwl hwn yn herio tybiaethau a chredoau sy’n gysylltiedig ag amrywiaeth diwylliannol a disgwyliadau model normadol o ddatblygiad plant.

Hefyd, mae’r modiwl hwn yn gosod yr athro fel gweithiwr proffesiynol trwy ystyried diogelu, amddiffyn plant, cytundebol, bugeiliol a chyfrifoldebau cyfreithiol.

Elfen asesu’r modiwl hwn yw aseiniad ysgrifenedig (100%; cyfwerth â 5000 o eiriau).

Cylch 3 Astudiaethau Proffesiynol ac Addysgegol: Arwain y Dysgu: beth, sut a pham ydw i’n addysgu? (30 credyd; gorfodol)

Yn y modwl hwn datblygir yn glir wybodaeth am y pwnc sy’n briodol i gyfnod a gwybodaeth am gynnwys addysgegol sydd eu hangen i addysgu cynnwys cwricwlaidd pob maes dysgu a phrofiad yn effeithiol.

Mae’r modiwl hefyd yn archwilio i natur gymhleth yr amgylchedd dysgu a’r sgiliau sydd eu hangen i reoli dysgwyr, adnoddau ac oedolion eraill. Bydd egwyddorion cynllunio, addysgu ac asesu ar gyfer dysgu wedi’u diogelu, a’r cymhwyso ymarferol wedi’i werthuso. Yn y modiwl hwn y daw dwy agwedd dysgu ddeallusol a thrwy brofiadau at ei gilydd yn y dosbarth a chefnogir myfyrwyr yn eu profiad addysgu proffesiynol gan athrawon wrth eu gwaith, cymheiriaid a thiwtoriaid prifysgol.

Elfen asesu’r modiwl hwn yw portffolio (100%; cyfwerth â 5000 o eiriau).

Modylau Lefel 7

Astudiaethau Craidd: Dysgwyr, Ysgolion a Chymunedau: ble’r ydw i’n addysgu? (30 credyd; gorfodol)

Yn y modwl hwn, mae graddedigion yn astudio pwysigrwydd lle a chyd-destun; lleol a chenedlaethol. Mae’r athro trawsnewidiol yn edrych tu hwnt i’r ystafell ddosbarth i’r gymuned lle mae dysgwyr yn byw eu bywydau ac yn ceisio dylanwadu datblygiad yn y ddau. Golyga hyn deall natur amrywiol cymuned; effaith tlodi ac amddifadedd cymdeithasol a sut i ddefnyddio data i ddeall y materion hyn ymhellach.

Elfennau asesu’r modiwl hwn yw fideo unigol (50%; 10 munud) ac adroddiad ysgrifenedig (50%; 2,500 gair)

Astudiaethau Proffesiynol ac Addysgegol: Ymchwilio i’r Dysgu: beth, sut a pham ydw i’n addysgu? (30 credyd; gorfodol)

Yn y modiwl hwn, caiff pedair nodwedd yr athro parod at ymchwil eu harchwilio’n fanwl: bod yn sgeptigol; bod yn foesol; bod yn ymchwilydd medrus, a bod yn rhan o broffesiwn sy’n ymholi.  Mae darpar athrawon yn ymuno ag athrawon wrth eu gwaith i lunio cymunedau sy’n ymholi lle caiff problemau bywyd go iawn eu hadnabod yn y dosbarth a’u hymchwilio trwy ymagwedd agos-at-arfer. Archwilir gwahanol fethodoleg yn cynnwys astudiaeth gwers, astudiaeth achos ac ymchwil gweithredol ar raddfa fach.

Elfen asesu ‘r modiwl hwn yw prosiect ymchwil (100%; 5000 o eiriau gyda’r hyn sy’n gyfwerth â 1000 o eiriau wedi’i neilltuo i’r Ffurflen Foeseg).

Asesiad

Mae cynllun y rhaglen yn darparu’r cyfle i asesiadau gael eu cysylltu’n agos ag arfer ystafell ddosbarth a thynnu ar brofiad a geir o brofiad personol. Mae’r dull hwn yn sefydlu’r cysylltiadau rhwng dysgu deallusol a dysgu trwy brofiadau ymhellach.

Er enghraifft, bydd rhaid i fyfyrwyr gynllunio, cynnal, gwerthuso a rhannu prosiect ymchwil agos i arfer a fydd yn effeithio’n uniongyrchol ar ddysgwyr. Lle bynnag y bo’n bosibl, caiff aseiniadau eu cyflwyno a’u marcio’n electronig i hwyluso adborth amserol ac effeithiol.

Mae elfennau asesu’n cynnwys aseiniadau ysgrifenedig, portffolio, fideo unigol a phrosiect ymchwil.

Dolenni Diddorol

Athrofa Partneriaeth Dysgu Proffesiynol

Gwybodaeth allweddol

Meini Prawf Mynediad

Gradd Israddedig

Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd dda (o leiaf 2:2) mewn maes sy’n gysylltiedig â’r dewis bwnc uwchradd.

Cymwysterau TGAU

  • Gradd C neu uwch mewn TGAU Iaith Saesneg neu Lenyddiaeth Saesneg, neu Iaith Gymraeg neu Lenyddiaeth Gymraeg.
  • Gradd C neu uwch mewn Gwyddoniaeth.
  • Gradd C neu uwch mewn TGAU Mathemateg neu TGAU Rhifedd.

Cymwysterau Lefel A/Galwedigaethol Lefel 3

Os nad oes gan ymgeiswyr radd israddedig mewn pwnc cwricwlwm, rhaid iddynt brofi eu bod wedi astudio’n llwyddiannus ar lefelau uwch.

Profiad Gwaith

Dylech fod yn ymwybodol o realiti bod yn athro ac o fywyd yn yr ystafell ddosbarth ac felly rydym yn gofyn am brofiad diweddar a pherthnasol o leoliad addysg uwchradd. Gall hyn fod trwy swydd neu drwy wirfoddoli mewn ysgol a ddylai fod am gyfnod o ddwy wythnos ar y lleiaf.

Bydd magu hyder mewn ystafell ddosbarth ysgol yn helpu i gryfhau eich cais ac yn sail feirniadol well ar gyfer eich datganiad personol. Hefyd, fe fydd yn eich paratoi at ein proses dethol ac yn rhoi peth profiad i chi y gallwch ei ddefnyddio yn eich cyfweliad.

Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Os cewch eich derbyn ar ein rhaglen, bydd rhaid ichi gael gwiriad clirio uwch DBS (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd - CRB, Swyddfa Cofnodion Troseddol gynt) cyn gynted â phosibl. Mae ffi ynghlwm wrth y gwasanaeth a dylech sicrhau eu bod yn dewis y gwasanaeth ‘diweddaru’.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa weinyddol y TAR Uwchradd: yn dbs@uwtsd.ac.uk 

Am beth ydym ni’n chwilio?

  • Safbwynt positif o addysg fel ffordd i drawsnewid bywydau
  • Cymhelliant i fod yn athro rhagorol
  • Awydd empathig i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc
  • Agweddau positif at gyfiawnder, cynhwysiant ac ecwiti cymdeithasol
  • Gallu i weithio’n unigol ac fel rhan o dîm
  • Egni, brwdfrydedd a hyblygrwydd
  • Gwydnwch a dibynadwyedd
  • Agweddau ac ymddygiad proffesiynol
  • Parodrwydd i ddysgu gydol eich oes

Sut ydym ni’n dewis ein darpar athrawon?

  • Ansawdd y datganiad personol
  • Tystiolaeth o arbenigedd pwnc
  • Profiad diweddar a pherthnasol mewn lleoliad addysgol
  • Ansawdd y cyfweliad unigol
  • Perfformiad mewn profion dethol – e.e. llythrennedd, rhifedd a chymeriad

Fel rhan o'i hymrwymiad i ehangu mynediad, mae YDDS yn talu sylw arbennig i recriwtio darpar-athrawon o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ac mae gan y brifysgol strategaeth farchnata ragweithiol ar gyfer ymgysylltu ag ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf, grwpiau ag anableddau, cymunedau lleiafrifoedd ethnig a dysgwyr cyfrwng Cymru.

Mae gan lawer o ysgolion ac adrannau colegau, yn lleol ac yn genedlaethol, gyn-athrawon dan hyfforddiant fel rhan o'u staff gyda llawer yn mynd ymlaen i greu gyrfaoedd addysgu

Cyfleoedd Gyrfa

Mae graddedigion yn gyflogadwy iawn fel athrawon cymwysedig yng Nghymru a thu hwnt.

Bydd graddedigion wedi’u paratoi gan set cryf o sgiliau meddwl beirniadol, dadansoddol a datrys problemau sy’n adlewyrchu sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr y neu hystyried yn ddymunol iawn.

Bydd graddedigion yn gweithio mewn rolau sy’n galw am sgiliau cydymffurfiaeth ddigidol, rhifedd a llythrennedd cadarn ynghyd â sgiliau cydweithio, rheoli amser a gweithio mewn amgylchedd cymhleth. Bydd natur y cynnwys ar draws y rhaglen arfaethedig - o ran darpariaeth ac asesiad - yn darparu graddedigion gyda phrofiad o gyflwyno gwaith trwy amrywiaeth o gyfryngau. Mae’r rhain yn sgiliau trosglwyddadwy iawn a ddefnyddir mewn amrywiaeth o opsiynau cyflogaeth.

Costau Ychwanegol

Costau Ychwanegol

Gall ein myfyrwyr gyrchu ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr yn wynebu rhai costau ychwanegol na ellir eu hosgoi yn ogystal â chost eu hyfforddiant yn y brifysgol. Mae’r rhain fel a ganlyn:

Costau gorfodol:

  • Teithio i ysgolion lleoliad ac i’r Brifysgol.
  • Teithio i ddarpariaeth arbenigol oddi ar y safle (gan gynnwys ysgolion a darparwyr hyfforddiant eraill).
  • Teithio i ysgolion ar gyfer ‘Diwrnodau Pontio’ a mentrau eraill ar gyfer y garfan gyfan, yn unol â’r calendr.
  • Y defnydd o liniadur (mae MS Office yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr).

Costau Angenrheidiol: 

  • Teithio i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi pwnc a drefnir gan y Tiwtor Pwnc
  • Adnoddau addysgu, er enghraifft, gwerslyfrau Safon Uwch/TGAU
  • Teithio i leoliadau ‘Meysydd Dewisol’

Dewisol:

  • Costau argraffu
  • Teithiau astudio dewisol
Cyrsiau Cysylltiedig
Dyfyniadau Myfyrwyr

"Mae gweithio gydag athrawon dan hyfforddiant eraill wedi fy ngalluogi i gydnabod, rhannu a datblygu arfer ragorol wedi'i dargedu'n benodol i wella addysgu a dysgu yn y Cyfnod Sylfaen."

"Mae syniadau, cyfleoedd dysgu awyr agored, theori a chynllunio sesiynau gweithgareddau wedi rhoi’r cyfle i mi rannu a chael syniadau y gallaf eu defnyddio yn fy nosbarth fy hun ym mis Medi."

"Roeddwn yn caru gallu rhannu syniadau gyda myfyrwyr eraill ac yna gweld pa mor dda y maent yn gweithio gyda phlant go iawn. Rwy’n meddwl po fwyaf rydym yn rhannu syniadau ac arfer da, y gorau y byddwn ni!"

Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau

Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i helpu i gefnogi'ch astudiaeth. I ddarganfod mwy am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael ewch i:

Bwrsariaethau Hyfforddi Athrawon TAR

Gwybodaeth Pellach

Mae ein rhaglenni TAR Cynradd yn hynod boblogaidd ac maent yn denu nifer fawr o geisiadau. Am y rheswm hwn, rydym yn eich cynghori i wneud cais mor gynnar â phosibl er mwyn sicrhau ein bod yn gallu ystyried eich cais (cyn y Nadolig yn ddelfrydol). Oherwydd y galw am y rhaglen hon a'r nifer gyfyngedig o leoedd sydd gennym i'w cynnig, fel rheol mae'n rhaid i ni roi'r gorau i dderbyn ceisiadau yn y gwanwyn pob blwyddyn, weithiau mor gynnar â mis Ionawr.

Cod UCAS TAR Cynradd (cwrs cyfrwng Cymraeg): 3CPN

Cod UCAS PGCE Primary (cwrs cyfrwng Saesneg): 3CPM