Hafan YDDS  -  Y Brifysgol  -  Sefydliadau ac Academïau  -  Cyfadran Dylunio Cymhwysol a Pheirianneg   -  Timau Rasio Y Drindod Dewi Sant

Timau Rasio Y Drindod Dewi Sant

A yellow-and-black UWTSD sportscar racing toward the viewer.

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn un o brifysgolion blaenllaw’r DU ar gyfer addysg Chwaraeon Moduro, ac mae’n priodoli ei llwyddiant i’w chyfuniad unigryw o addysgu damcaniaethol a chymhwysol.

Mae’r Ysgol Beirianneg yn credu’n gryf bod cynnig cwrs peirianneg gymhwysol a gynorthwyir gan brosiectau a gweithgareddau ymarferol yn arwain at raddedigion mwy cyflogadwy. Fel rhan o’r strategaeth hon, mae’r ysgol yn cefnogi timau rasio a arweinir gan fyfyrwyr.

Does dim angen i chi astudio peirianneg i fod yn rhan o’n timau rasio. Rydym yn annog myfyrwyr o raglenni eraill yn PCYDDS i fod yn rhan o’n timau rasio.  Rydym yn chwilio am ffotograffwyr, cynhyrchwyr fideo a chyfryngau, dylunwyr graffig yn ogystal â’r rhai sydd â sgiliau marchnata, logisteg a rhagor i ymuno â’n timau ni.

Os oes diddordeb gyda chi a fyddech cystal ag e-bostio motorsport@uwtsd.ac.uk or motorcycle@uwtsd.ac.uk.