Roedd Tîm MCR yn dîm rasio a arweiniwyd gan fyfyrwyr ac a ddechreuodd yn 2013. Roedd y tîm yn rhedeg dau sbortscar Prototeip (MCR Sports 2000 Durate).
Cystadlai’r tîm yn y bencampwriaeth SRCC Sports 2000 a oedd yn cynnig awyrgylch lefel clwb gwych gydag ystod o gystadleuwyr/timau amatur a lled-broffesiynol fel ei gilydd.
Roedd myfyrwyr ar y tîm yn gyfrifol am bob agwedd ar redeg y ceir rasio yn y bencampwriaeth, o baratoi ar gyfer y rasys a datblygu cydrannau, i efelychu a dadansoddi data. Byddai’r myfyrwyr hyd yn oed yn edrych ar ôl cyllid, nawdd, rheoli’r tîm a chyfrifoldebau AD.
Roedd y gweithgareddau hyn yn cynnig cyfle gwych i’r myfyrwyr gyfoethogi eu hastudiaethau, gyda phrofiad ymarferol a oedd yn cynorthwyo cyflogadwyedd.