Y Byd yw Ein Darlithfa
Mae’r Drindod Dewi Sant yn cynnig ystod o raglenni cyffrous o fewn twristiaeth, digwyddiadau a lletygarwch a fydd yn rhoi ichi’r sgiliau gwasanaethau gwestai blaengar sydd eu hangen i lwyddo yn y farchnad fyd-eang hon sy’n tyfu’n gyflym.
Mae blas cryf y diwydiant ar bob un o’n rhaglenni ac maent yn cynnwys teithiau astudio rhyngwladol cyffrous, ymweliadau y tu ôl i’r llenni â diwydiant ac interniaethau cyflogedig integredig â phrif sefydliadau a digwyddiadau yn lleol ac yn rhyngwladol. Trwy’r cyfleoedd hyn, mae modd i fyfyrwyr adeiladu rhwydweithiau gyrfa anhygoel ag arweinwyr marchnad ledled y byd.
Mae astudiaeth ran-amser ar gael, edrychwch ar dudalennau'r cyrsiau unigol am fanylion.
- Rheolaeth Twristiaeth MBA (Tourism Management (MBA)
- Rheolaeth Gwestai Rhyngwladol MBA (International Hotel Management (MBA)