Mae PCYDDS yn Bartner Addysgiadol ABTA sy’n gweithio’n agos gyda rhai o brif sefydliadau’r byd.
Rydym yn cynnig cyfres cyffrous o brofiadau dysgu i roi gwybodaeth a sgiliau academaidd a phroffesiynol i’n myfyrwyr i ddiogelu gyrfa ar reng flaen y diwydiant twristiaeth.
Mae’r portffolio eang o raglenni mewn Teithio Rhyngwladol, Twristiaeth, Hamdden a Rheolaeth Lletygarwch wedi’u dylunio trwy ymgynghoriad agos gyda’r diwydiant i ddatblygu’r graddedigion y mae ar y diwydiant eu heisiau.
Rydym yn defnyddio lleoliadau rhyngwladol, interniaethau, teithiau astudio addysgol a chyflwyniadau gan arweinwyr y diwydiant gyda chymorth astudiaethau achos bywyd go iawn ac asesiadau arloesol a ddyluniwyd i ddod â’r hyn y mae ein myfyrwyr yn ei ddysgu yn fyw.
Yn ogystal ag arwain academaidd, mae myfyrwyr sy’n astudio Graddau Sylfaen, HNDs, Graddau a Meistri i gyd yn ffocysu ar ddatblygu gwasanaeth gwesteion o’r radd flaenaf a sgiliau a gwybodaeth diwydiant proffesiynol sydd eu hangen ar brif ddarparwyr twristiaeth y byd. Rydym yn rhoi cyfle i fyfyrwyr deithio’n helaeth yn y DU a thramor, cael profiad proffesiynol o’r diwydiant, cymryd rhan mewn prosiectau ymchwil a gweld pethau y tu ôl i’r llen mewn ystod o leoliadau a digwyddiadau, gan wneud y Byd yn Ddarlithfa.