Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Ôl-raddedig - Tystysgrif Ôl-radd mewn Polisi a Chynllunio Iaith
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Polisi a Chynllunio Iaith
Mae’r dystysgrif ôl-raddedig hon yn cyfuno astudiaethau academaidd a phrofiad cymhwysol yn y maes. Gosod yr ymdrechion i greu Cymru ddwyieithog yn eu cyd–destun hanesyddol, gwleidyddol, cymdeithasol a rhyngwladol yw nod y dystysgrif arloesol hon.
Gallwch wneud cais yn uniongyrchol i’r Brifysgol gan ddefnyddio’r botwm Ymgeisio Nawr ar frig y dudalen.
Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth SUT I WNEUD CAIS
Manteisia’r Dystysgrif Ôl-radd mewn Cynllunio Iaith ar y profiad ieithyddol cyfoethog a gynigir gan y cyd-destun dwyieithog yng Nghymru yn ogystal ag arbenigedd cydnabyddedig Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Er ei pherthnasedd i’r cyd-destun Cymraeg a Chymreig, mae i’r dystysgrif hon ffocws rhyngwladol y gellir elwa arno er budd y sefyllfa yn genedlaethol. Mae’n darparu myfyrwyr ar gyfer galwedigaethau amrywiol sy’n ymwneud â dwyieithrwydd/ amlieithrwydd a’u galluogi i gymhwyso egwyddorion sylfaenol, ynghyd â gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau pwnc-seiliedig, at eu hanghenion galwedigaethol beunyddiol.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd y dystysgrif hon yn apelio at unigolion graddedig sy’n gweithio yn y maes cynllunio iaith o fewn sefydliadau cyhoeddus Cymru neu mewn mudiadau trydydd sector yn y gymuned. Bydd yn rhoi sail gadarn i fyfyrwyr o ran deall prif gysyniadau cynllunio iaith a datblygiad y maes fel gweithgaredd proffesiynol dros y degawdau diweddar. Bydd y cwrs hefyd yn cynnig cyfle i unigolion gymhwyso’u dysgu i’w profiad a’u gwaith eu hunain.
Mae’r dysgu yn digwydd ar-lein trwy gyfuniad o seminarau a thiwtorialau, gwaith darllen, aseiniadau a chyflwyniadau ar sail gwaith maes.
Dau fodwl sydd i’r dystysgrif: Hanfodion Cynllunio Iaith (30 credyd; gorfodol) a Hyrwyddo’r Gymraeg (30 credyd; gorfodol).
Mae’r modwl Hanfodion Cynllunio Iaith (30 credyd; gorfodol) yn cyflwyno myfyrwyr i wreiddiau’r ddisgyblaeth, cysyniadau allweddol a dulliau gweithredu ynghyd â datblygiad polisi cyhoeddus yng nghyswllt y Gymraeg dros y degawdau. Mae’r modwl hefyd yn cyfeirio at sefyllfa ieithoedd cyfansoddiadol, rhanbarthol a gwladwriaethau llai eraill.
Mae’r modwl Hyrwyddo’r Gymraeg (30 credyd; gorfodol) yn edrych yn feirniadol ar yr ymdrechion i adfer y Gymraeg dros y 50 mlynedd diwethaf - datblygiadau mewn polisi a deddfwriaeth, datblygiadau mewn gweinyddiaeth gyhoeddus a gweithgareddau i gryfhau’r defnydd o’r Gymraeg ar lawr gwlad.
Ar gyfer y modwl Hanfodion Cynllunio Iaith disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno un aseiniad ysgrifenedig o 5,400 o eiriau (60%), a chyflwyniad seminar unigol, 30 munud (40%).
Ar gyfer y modwl Hyrwyddo’r Gymraeg rhaid cyflwyno un portffolio 5,400 o eiriau (60%) a chyflwyniad seminar unigol, 30 munud (40%).
Er mwyn sicrhau perthnasedd proffesiynol, rhoddir cyfle digonol i fyfyrwyr gymhwyso at eu dibenion eu hunain y deunydd a gyflwynir iddynt, ac i gyfeirio at eu meysydd gwaith unigol yng nghorff yr aseiniadau.
Gwybodaeth allweddol
- Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones
- Catrin Llwyd
- Dr Aneirin Karadog
Goruchwylir trefniadau mynediad yr Ysgol gan y Tiwtor Mynediad.
Fel arfer, disgwylir bod myfyrwyr ôl-radd wedi ennill gradd gyntaf a ddyfarnwyd gan brifysgol neu gorff dyfarnu cydnabyddedig.
Sut bynnag, caniatâ Polisi Mynediad yr Ysgol hefyd geisiadau oddi wrth fyfyrwyr nad ydynt efallai yn cydymffurfio â gofynion academaidd y dull mynediad arferol. Gall yr Ysgol, felly, ystyried ceisiadau oddi wrth fyfyrwyr aeddfetach y bydd ganddynt brofiad perthnasol a /neu gymwysterau amgen i’r rheiny a amlinellir uchod.
Mae’r dystysgrif hon yn darparu myfyrwyr ar gyfer galwedigaethau amrywiol sy’n ymwneud â dwyieithrwydd/ amlieithrwydd a’u galluogi i gymhwyso egwyddorion sylfaenol, ynghyd â gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau pwnc-seiliedig, at eu hanghenion galwedigaethol beunyddiol. Bydd o ddiddordeb mawr hefyd i’r rhai sy’n gweithio yn y maes eisoes, megis Swyddogion Iaith, Cynllunwyr Iaith, Swyddogion Y Llywodraeth, Llunwyr Polisi a Gweithwyr Ieuenctid.
Nod y dystysgrif hon ydyw ystyried yn feirniadol brif agweddau damcaniaethol y maes cynllunio iaith, gan gyfeirio at ddamcaniaethau a dadansoddiadau perthnasol ac at enghreifftiau ymarferol a dynnir o Gymru a gwledydd tramor.
Trafodir y prif ddatblygiadau cymdeithasol a gwleidyddol o safbwynt cynllunio iaith yng Nghymru yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf ac edrychir ar y modd y mae sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru yn hyrwyddo’r Gymraeg, beth sy’n eu cymell a pha brosesau ac egwyddorion yr ymwneir â nhw. Edrychir hefyd ar sut y caiff defnydd o’r Gymraeg ei hyrwyddo gan unigolion a chymunedau Cymraeg eu hiaith, gan asiantaethau’r wladwriaeth ac eraill.
Mae'n gwrs delfrydol i unrhyw un sy'n gweithio yn y maes cynllunio iaith ac sydd eisiau cydnabyddiaeth academaidd a phroffesiynol o'u sgiliau a'u gwybodaeth neu i fyfyrwyr sy'n edrych ymlaen at yrfa yn y maes cynyddol bwysig hwn.