Hafan YDDS  -  Y Brifysgol  -  Sefydliadau ac Academïau  -  Academi Cymru Ar Gyfer Iechyd A Llythrennedd Corfforol

ACADEMI CYMRU AR GYFER IECHYD A LLYTHRENNEDD CORFFOROL



CEFNOGI SYMUDIAD O ANSAWDD AR GYFER BYWYD EGNÏOL

Rydym yn gweithio gyda phobl o bob oed a gallu i gynyddu cyfranogiad a chefnogi gweithgarwch corfforol ar bob ffurf. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar ymchwil gymhwysol mewn ymarfer sy'n effeithio ar  ganlyniadau i bobl a chymunedau. Mae ein holl waith yn seiliedig ar ddull o ymdrin ag iechyd sy'n seiliedig ar gryfderau, gan gefnogi pobl i gynnal iechyd a lles drwy gydol oes. 

Credwn y gall pob un ohonom chwarae rhan yn y gwaith o gefnogi llythrennedd corfforol drosom ein hunain ac eraill.  P'un ai a ydych yn rhiant, yn dad-cu neu’n fam-gu, yn athrawes, yn gweithio gyda phlant ifanc mewn cyn-ysgol neu'n oedolion hyfforddi mewn cymuned. Mae ein tîm amlddisgyblaethol o ymchwilwyr, academyddion a hyfforddwyr yn cynllunio ac yn cyflwyno prosiectau cydweithredol sy'n archwilio iechyd a llythrennedd corfforol mewn amrywiaeth o amgylcheddau.


Cwrdd â'r Tîm