Mae’r manteision o ran iechyd corfforol a meddyliol o fod yn weithgar mewn amgylcheddau natur/awyr agored wedi'u cydnabod ers blynyddoedd lawer ac mae'n adeiladu ar Ragdybiaeth Bioffilia Wilson sy'n tynnu sylw at hoffter cynhenid pobl o fod yn yr awyr agored mewn amrywiaeth o amgylcheddau gan gynnwys glannau'r môr, coedwigoedd, cefn gwlad agored a bryniau/mynyddoedd.
Mae Theori Lleihau Straen Ullrich, a Theori Adfer Sylw Kaplan a Kaplan yn rhoi cipolwg pellach ar pam rydym am fod y tu allan (hyd yn oed os nad ydym yn ei sylweddoli ein hunain mewn gwirionedd), ond mae Nature Deficit Disorder — The Last Child in the Woods gan Louv yn feirniadaeth ddamniol ar effeithiau technoleg, trefoli a globaleiddio sy'n nodweddu symudiad cymdeithasau gorllewinol i ffwrdd o natur.
Amlygodd effaith pandemig Covid ymwybyddiaeth gynyddol pobl o fannau gwyrdd lleol sy'n hawdd eu cyrraedd o gartref ac sy’n rhad ac am ddim i'w defnyddio.
Mae'r symudiad at fodel iechyd bioseicogymdeithasol (cyfannol) sy'n hyrwyddo gwell canlyniadau iechyd corfforol a meddyliol oherwydd ymarfer corff priodol o ran natur sy’n cyd-fynd â'r cysyniad o lythrennedd corfforol.
Gan weithio o'r syniad bod symud a bod ym myd natur yn cefnogi ein hiechyd a'n lles ac yn defnyddio dros 30 mlynedd o addysgu ac arbenigedd addysg awyr agored yn Y Drindod Dewi Sant, rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid yn datblygu ffocws ar iechyd a lles yn yr awyr agored.
I ddysgu rhagor am y gwaith hwn neu astudio'r MA Addysg Awyr Agored ac ymchwil ôl-raddedig, cysylltwch â Dr Andy Williams yn a.williams@pcydds.ac.uk.