Ysgolion Haf Rhyngwladol
Mae WAHPL yn cynnal ysgolion haf cyffrous i fyfyrwyr Rhyngwladol yma yn ne-orllewin Cymru. Mae'r ysgolion haf yn rhoi cyfle i fyfyrwyr brofi tirwedd amrywiol a hardd Cymru, gan ymweld â thraethau a mynyddoedd anghysbell gwyllt, henebion a chestyll hanesyddol.
Gall myfyrwyr brofi antur ar eu lefel eu hunain drwy ein hathroniaeth o her drwy ddewis a dysgu sgiliau newydd mewn amgylchedd newydd a chyffrous. Mae ein hysgol haf yn rhedeg bob blwyddyn ac fel arfer yn para rhwng 2 a 3 wythnos, ac ar ôl hynny mae myfyrwyr yn cael yr opsiwn i naill ai ddychwelyd adref neu barhau i deithio. Mae ysgolion yr haf yn cyfuno gweithgareddau antur awyr agored, profiadau diwylliannol, chwaraeon a gweithgareddau a chyfleoedd i weld. Gellir eu teilwra i ddiwallu anghenion sefydliadau unigol yn dibynnu ar anghenion y myfyrwyr.
Yn rhan o'r ysgol haf, mae myfyrwyr hefyd yn gallu ennill credydau i'w defnyddio yn ôl yn eu prifysgol eu hunain.
Un enghraifft o raglen ysgol haf rydym yn ei chynnal ar hyn o bryd ym mis Mehefin ar gyfer myfyrwyr o UDA yw Addysg Awyr Agored: Materion Damcaniaethol mewn Gweithgareddau Awyr Agored. Mae hwn yn gwrs tair wythnos sydd â chredydau. Mae'n cyfuno theori academaidd a gweithgareddau awyr agored ymarferol, gan gynnwys heicio, gwersylla, ogofa, canŵio, caiacio, nofio, archwilio mwyngloddiau, dringo creigiau a beicio mynydd. Er bod y gweithgareddau'n bleserus, maent yn y bôn yn fodd i archwilio ystod o themâu academaidd megis cynaliadwyedd, datblygiad personol a chymdeithasol a'r ddeuoliaeth risg yn erbyn antur.
Themâu a Ffocws y Cwrs:
- Archwilio ystod o faterion gan gynnwys cynaliadwyedd, cadwraeth, tirweddau sy'n newid, datblygiad personol a chymdeithasol a risg o’i gymharu ag antur
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau megis dringo creigiau, ogofa, caiacio, syrffio, heicio, nofio, arfordira a beicio mynydd
- Dysgu sgiliau caled a meddal wrth fyfyrio ar sut mae "profiad" yn cysylltu â dysgu
- Gwerthfawrogi diwylliant Cymru drwy gymryd rhan weithredol yn y gweithgareddau hynny y credir eu bod yn rhai hollol Gymreig.
Defnyddir sesiynau theori i baratoi ar gyfer y gweithgareddau ymarferol, i adolygu profiadau ac i ddarparu'r wybodaeth gefndir angenrheidiol sy'n hanfodol ar gyfer yr asesiadau amrywiol.
Mae’r ysgolion haf yn cyfuno gweithgareddau antur awyr agored, profiadau diwylliannol, chwaraeon a gweithgareddau a chyfleoedd i weld. Gellir eu teilwra i ddiwallu anghenion sefydliadau unigol yn dibynnu ar anghenion y myfyrwyr.
Yn rhan o'r ysgol haf, mae myfyrwyr hefyd yn gallu ennill credydau i'w defnyddio yn ôl yn eu prifysgol eu hunain.