Canolfan Iechyd a Heneiddio

Wrth i ni fynd drwy fywyd, mae angen i'n gweithgarwch corfforol newid. Mae'r Ganolfan Iechyd a Heneiddio (CHA) yn adeiladu ar ymchwil o fri rhyngwladol gan Dr Peter Herbert, gan ddatblygu rhaglenni ymarfer corff ac iechyd sy'n cydnabod ein hanghenion newidiol wrth i ni heneiddio.

Mae CHA yn rhoi cyfle i bob aelod o'r gymuned sydd dros 50 oed fanteisio raglenni ymarfer corff personol a chyngor arbenigol fesul un ar agweddau ar iechyd, maeth ffitrwydd a ffordd o fyw.

Rydym yn cynnal dosbarthiadau drwy gydol y flwyddyn ac mae gennym fideos ar-lein i gefnogi ymarfer corff gartref. Rydym yn darparu ar gyfer cyfranogwyr o bob gallu. Rydym yn cefnogi pobl nad ydynt wedi ymarfer oherwydd cyflyrau sy'n gysylltiedig ag iechyd, diffyg cymhelliant neu gyfle, yn ogystal â'r rhai sydd eisoes yn athletwyr gweithgar neu feistrolgar i gynnal a gwella lefelau ffitrwydd a chryfder.

Mae ein rhaglenni'n cefnogi ac yn gwella ansawdd bywyd drwy fynd i'r afael â'r anghenion unigryw sy'n gysylltiedig â gweithgarwch corfforol yng nghanol ac yn ddiweddarach mewn bywyd, gan sicrhau y gall  pob un ohonom fwynhau bywydau iach egnïol gydol oes.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Dr Peter Herbert yn p.herbert@pcydds.ac.uk neu Kirsty Thomas yn kirsty.edwards@pcydds.ac.uk.

Cofrestrwch Nawr


Asesiadau Ffitrwydd ac Iechyd (a Phresgripsiwn Ymarfer Corff)

Rydym yn cynnig asesiadau ffitrwydd ac iechyd yn ogystal â phresgripsiwn ymarfer corff wedi'i deilwra i ostwng dechreuad cyflyrau meddygol sy'n gysylltiedig ag oedran yn ogystal â chefnogi unigolion gweithredol gan gynnwys athletwyr. Cliciwch ar y ddolen isod i ddarllen am ein hopsiynau.

Opsiynau Asesu Ffitrwydd ac Iechyd


Ymarfer Corff a Heneiddio

Older man concentrating while lifting a weight with one hand.

Iechyd a Ffitrwydd

Mae bod yn gorfforol egnïol  yn rheolaidd yn gam cadarnhaol tuag at sicrhau gwell iechyd a ffitrwydd. Mae astudiaethau wedi dangos bod ymarfer corff yn cynnig nifer o fanteision iechyd ac y gall oedolion hŷn wella ansawdd eu bywydau drwy barhau i fod yn gorfforol egnïol. Gall hyd yn oed ymarfer corff cymedrol a gweithgarwch corfforol wella iechyd a ffitrwydd.

 Gall diffyg gweithgarwch corfforol arwain at ragor o ymweliadau â'r meddyg, rhagor o bobl yn treulio cyfnod mewn ysbytai, a rhagor o ddefnydd o feddyginiaethau ar gyfer amrywiaeth o afiechydon. Gall aros yn gorfforol egnïol a gwneud ymarfer corff yn rheolaidd helpu i atal neu ohirio llawer o glefydau ac anableddau. Mewn rhai achosion, mae ymarfer corff yn driniaeth effeithiol ar gyfer llawer o gyflyrau cronig. Dengys astudiaethau y bydd pobl sydd ag arthritis, clefyd y galon, neu ddiabetes yn elwa o ymarfer corff rheolaidd. Mae ymarfer corff hefyd yn helpu pobl sydd dros eu pwysau, ac sydd â phwysedd gwaed uchel, problemau cydbwysedd, neu anhawster cerdded.

Gall  gweithgarwch corfforol rheolaidd a chymedrol helpu i reoli straen a gwella eich hwyliau. A gall bod yn egnïol a hynny’n rheolaidd helpu i leihau teimladau o iselder. Mae astudiaethau hefyd  yn awgrymu y gall ymarfer corff wella neu gynnal rhai agweddau ar swyddogaeth feddyliol.

Older seated man smiling while a young trainer with a clipboard talks to him.

Ffitrwydd

Gall bod yn gorfforol egnïol eich helpu i aros yn gryf ac yn ddigon heini i barhau i wneud y pethau rydych chi'n eu mwynhau. Mae'n eich galluogi i elwa o ymarfer corff megis loncian, beicio a nofio a llawer o weithgareddau hamdden megis cerdded bryniau, tenis a golff. Gall rhai oedolion hŷn fod yn amharod i wneud ymarfer corff ac yn pryderu y bydd ymarfer corff yn rhy galed neu y bydd yn eu niweidio. Yn wir, mae llawer o wyddonwyr yn ystyried mai anweithgarwch yw achos mwyaf afiechyd  yn ddiweddarach mewn bywyd.

Ymarfer Corff neu Weithgarwch Corfforol?

Mae gweithgarwch corfforol yn disgrifio gweithgareddau sy'n gwneud i’ch corff symud megis garddio, cerdded y ci, mynd i'r siopau a defnyddio’r grisiau yn lle'r lifft. Mae ymarfer corff yn fath o  weithgarwch corfforol sydd wedi'i gynllunio'n benodol, wedi'i strwythuro, ac yn ailadroddus megis hyfforddiant pwysau ac aerobeg. Bydd cynnwys gweithgarwch corfforol ac ymarfer corff yn eich bywyd yn rhoi manteision iechyd i chi a all wneud i chi deimlo'n well a mwynhau eich bywyd yn llawer mwy wrth i chi heneiddio.


Pwy all elwa?

View from the back of a man wearing a white t-shirt with the words 'personal trainer' written on it in black capitals.

Eisteddog nad ydynt yn ymarfer ar hyn o bryd

Nid yw byth yn rhy hwyr i elwa o gynyddu lefelau gweithgarwch. Os nad ydych wedi ymarfer ers blynyddoedd lawer byddwch yn cael rhaglen bersonol a fydd yn eich cyflwyno'n raddol i ymarfer corff a fydd o fudd ac yn bleserus.

A young female personal trainer talks to another woman who has been using weightlifting equipment.

Eisteddol sydd â chyflyrau meddygol

Caiff staff  priodol eu neilltuo i oruchwylio eich cynnydd yn ddiogel. Bydd ganddynt gymwysterau  proffesiynol wrth weithio gyda chleientiaid sydd â phroblemau meddygol.

Two older men grinning while using exercise bikes.

Pobl iach a heini y mae arnynt angen cyngor lefel uwch gan arbenigwyr

Rydych wedi cyflawni safonau iechyd a ffitrwydd da ac mae angen cymhelliant ychwanegol arnoch i gyflawni rhagor. Efallai eich bod yn rhoi cynnig ar ras hwyl neu daith feicio elusen lleol neu efallai eich bod am edrych y gorau y gallwch.

A young man runs with ease through a grassy landscape.

Pobl iach a heini sy'n dymuno bod yn hynod ffit, eisoes yn cystadlu o bosibl ac sy'n dymuno derbyn y  cyfundrefnau gwybodaeth a hyfforddiant diweddaraf gan hyfforddwyr rhyngwladol

Byddwch yn cael nodau tymor byr a thymor hir gan ddefnyddio'r canfyddiadau ymchwil gorau a diweddaraf mewn gwyddor ymarfer corff a pherfformiad chwaraeon. Gellir monitro cynnydd yn ein Labordy Perfformiad gan ddefnyddio'r offer diweddaraf o'r radd flaenaf. Bydd staff sydd â  hyfforddiant a phrofiad personol ar lefel genedlaethol a rhyngwladol ar gael i'ch cynghori.