Mae pwyslais cynyddol ar gynnal iechyd da er mwyn lleihau'r angen i wella iechyd gwael. Mae'r dull hwn, gan ddefnyddio cysyniad Salutogenesis Antonovsky, yn cydnabod bod angen inni gael adnoddau i gefnogi ein hiechyd a'n lles.
Gan gyfuno addasiad McElroy o Fodel Ecolegol Cymdeithasol Bronbrenfenner a Salutogenesis, mae ein holl ymchwil yn seiliedig ar ddull Saluto-ecolegol (Piper et al., 2022). Gyda'r dull hwn, ystyrir llythrennedd corfforol yn adnodd unigol sy'n cefnogi gweithgarwch corfforol ac yn gysyniad allweddol ar gyfer cefnogi llesiant ehangach.
Mae ein tîm yn cynnal ymchwil mewn amrywiaeth o brosiectau o blentyndod cynnar ac ymgysylltu â rhieni ar draws cwrs bywyd i'r boblogaeth sy'n heneiddio. At hynny, mae ein staff yn cefnogi ystod o astudiaethau ôl-raddedig ar lefel Meistr a PhD.
Mae ein holl ymchwil wedi ei chymhwyso i ymarfer. Gallwch ddarllen isod sut mae ein hymchwil yn effeithio ar ganlyniadau i blant ifanc, rhieni, oedolion hŷn a chleifion, ac yn gwella iechyd a lles yn ein cymunedau.