Beth yw Llythrennedd Corfforol?



Mae sawl ffordd o ddisgrifio Llythrennedd Corfforol. Y diffiniad mwyaf cyffredin yw:

"... y cymhelliant, hyder, cymhwysedd corfforol, gwybodaeth a dealltwriaeth i werthfawrogi a chymryd cyfrifoldeb am gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol am oes."

                                                                                     (Whitehead, 2016)

Hwn yw diffiniad Comisiwn Chwaraeon Awstralia o Lythrennedd Corfforol:

“...lifelong holistic learning acquired and applied in movement and physical activity contexts. It reflects ongoing changes integrating physical, psychological, cognitive and social capabilities. It is vital in helping us lead healthy and fulfilling lives through movement and physical activity.”

Mae Llythrennedd Corfforol yn daith y mae pob un ohonom arni gydol ein bywyd. Mae'r daith yn dechrau pan fyddwn ni'n ifanc iawn ac yn dechrau dysgu am ein cyrff a sut rydyn ni'n symud. Po fwyaf y byddwn ni’n chwarae ac yn archwilio'r byd o'n cwmpas, mwyaf i gyd y byddwn ni’n dysgu am symud. Mae ar blant ifanc angen llawer o brofiadau a llawer o gyfleoedd i symud mewn llawer o  amgylcheddau gwahanol.

Mae'n bwysig cydnabod nad yw Llythrennedd Corfforol wedi'i gyfyngu i'n blynyddoedd cynnar, ac mae'n fwy na chwaraeon yn unig. Mae Llythrennedd Corfforol yn weithgarwch corfforol ar ffurfiau eang ac amrywiol ac mae'n berthnasol gydol oes. Mae hefyd yn  bwysig tynnu sylw at y ffaith ei fod yn fwy na datblygu sgiliau corfforol (fel y'u disgrifir mewn rhai mannau).

Gallwch ddarllen rhagor am Lythrennedd Corfforol ar wefan y Gymdeithas Llythrennedd Corfforol Ryngwladol.

I ddysgu rhagor am lythrennedd corfforol ac astudio iechyd ar ein MA Addysg Gorfforol, Chwaraeon a Llythrennedd Corfforol, cysylltwch â Dr Nalda Wainwright yn n.wainwright@pcydds.ac.uk.  Ar gyfer ein BA Addysg Gorfforol, cysylltwch â Dr Kate Piper yn k.piper1@pcydds.ac.uk.