Skip page header and navigation

Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru

Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru

Student performing on stage

Academi unigryw sy'n cynnig rhaglenni arbenigol

Darparu’r myfyrwyr gyda thechneg gadarn ynghyd â dealltwriaeth eang o’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt.

Gan adeiladu ar lwyddiant Academi Llais Ryngwladol Cymru a Chanolfan Berfformio Cymru, mae WAVDA yn bair o greadigrwydd, gan ddatblygu actorion, cantorion a chyfarwyddwyr y dyfodol. Mae moeseg gwaith yr Academi yn seiliedig ar barch a chydweithio, mae ein myfyrwyr yn gweithio gydag arbenigwyr o’r diwydiant i fireinio eu sgiliau yn barod ar gyfer eu gyrfaoedd.

Beth gallaf astudio?

Cyrsiau Israddedig

Mae ein rhaglenni israddedig yn ymroddedig i hyfforddi a datblygu perfformwyr y dyfodol. Wedi’i leoli yng nghanol Caerdydd, mae’r graddau arloesol a heriol hyn yn cynnig hyfforddiant o safon y diwydiant ochr yn ochr â phrofiadau perthnasol i baratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfa yn y celfyddydau.

Cyrsiau Ôl-raddedig

Mae tîm ôl-raddedig Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru wedi ymrwymo i hyfforddi a datblygu artistiaid y dyfodol. Mae WAVDA wedi’i leoli yng Nghaerdydd, prifddinas Cymru, gan gynnig rhaglenni sy’n rhoi i fyfyrwyr y dechneg, y wybodaeth a’r ymwybyddiaeth o’r diwydiant sy’n ofynnol o’r celfyddydau perfformio yng Nghymru a thu hwnt.

Statistics

Video