Pam Academi Llais Ryngwladol Cymru?
Y tenor byd-enwog, Dennis O’Neill, a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn dod at ei gilydd i roi hyfforddiant o’r radd flaenaf i fyfyrwyr.
Wedi’i sefydlu gan y tenor byd-enwog Dennis O’Neill, a bellach yn rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yma, bydd myfyrwyr yn elwa o arbenigedd Meistr yn ei faes a sefydliad addysg o’r radd flaenaf i’w paratoi at Ddiwydiant Perfformio Operatig sy’n newid yn gyson.
Mae’r Academi yn darparu amgylchedd arbenigol iawn ac unigryw ar gyfer nifer fach o gantorion a chyfansoddwyr eithriadol sydd ar gychwyn eu gyrfa broffesiynol ac mae’n recriwtio’r rhain o bob cwr o’r byd. Bydd myfyrwyr yn gweithio gyda’r technegwyr llais, hyfforddwyr ac arweinwyr gwadd gorau yn ogystal â sêr rhyngwladol o’r byd opera er mwyn datblygu eu talent i’r safonau proffesiynol uchaf un.
Mae’n Ganolfan Addysgol Perfformiad Lleisiol gyffrous, sy’n falch o’i chymysgedd o staff a hyfforddwyr rhyngwladol, academaidd a diwydiannol. Mae moeseg gwaith y Ganolfan wedi’i seilio ar barch a chydweithio. Wedi meithrin perthnasoedd gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant a pharhau perthnasoedd gyda myfyrwyr sydd nawr yn gweithio yn y diwydiant, sy’n dychwelyd fel hyfforddwyr, teimlwn y gallwn gynnig hyfforddiant ac addysg gyfredol i’r myfyrwyr sy’n dod i ymuno â ni.
Nodau WIAV:
- datblygu artistiaid sy’n barod am y diwydiant
- datblygu hyfforddiant pwrpasol, wedi’i deilwra at anghenion yr unigolyn
- darparu cymorth bugeiliol i fyfyrwyr ar lefel bersonol.
- eu tywys drwy eu datblygiad proffesiynol.