cawcs-building-570

Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol.

Ymchwil yn y Ganolfan

Mae ein gwaith cyfredol yn canolbwyntio ar y meysydd arbenigol canlynol:

  • Astudiaethau Enwau Cymru
  • Geiriaduraeth Gymraeg
  • Ieithoedd Celtaidd cynnar
  • Llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol
  • Yr Oleuedigaeth a Rhamantiaeth yng Nghymru ac Ewrop
  • Sosioieithyddiaeth y Gymraeg a ieithoedd Lleiafrifedig
  • Cyfieithu Llenyddol

Mae rhai o’n staff hefyd yn gweithio ar Gelf Weledol, Archaeoleg, Hagiograffeg, Llên Merched, Llên Llydaw a Llên Teithio. Rydym yn croesawu ymholiadau am ymchwil ôl-raddedig ac ysgolheigion ar ymweliad o bedwar ban byd.

Gwybod mwy am ein gwaith neu cysylltwch ag Angharad Elias (a.elias@cymru.ac.uk) am ragor o wybodaeth.


Cymrodoriaeth Alan R. King mewn partneriaeth â Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg

Yn dilyn creu partneriaeth rhwng Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Sefydliad Etxepare yng Ngwlad y Basg, mae Cymrodoriaeth Alan R. King yn cael ei chynnig yn flynyddol ers 2022 i ysgolhaig neu ymarferydd sydd yn arbenigo mewn sosioieithyddiaeth neu agweddau ar bolisi a chynllunio iaith yng Ngwlad y Basg. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno gyda'r Ganolfan am breswyliad. Deilydd cyntaf y Gadair oedd y Dr Imanol Larrea. Bellach mae'r alwad ar gyfer Athro Gwadd 2023 wedi ei hagor a'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 3 Chwefror 2023. Hysbysiad: Dethol Athro Gwadd ac Ymchwilydd.

Cliciwch am ragor o fanylion yn Gymraeg/Basgeg neu yn Saesneg/Sbaeneg a’r ffurflen gais.

Galwad i fyfyrwyr ac ymchwilwyr gyrfa gynnar i ymgeisio am fwrsariaeth ar brosiect archifau Cymru-Llydaw

Mae Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, ar y cyd gyda’r Centre de recherche bretonne et celtique, Prifysgol Brest, wedi derbyn cyllid i ymchwilio i archifau Llydewig Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac archifau Cymraeg a gedwir yn Llydaw. Dros gyfnod o ddwy flynedd bwriedir cyd-destunoli, dadansoddi a digido detholiad o’r testunau. Bydd hyn yn ehangu mynediad i’r dogfennau ac yn rhoi inni ddarlun llawnach o’r berthynas rhwng Cymru a Llydaw dros y ddwy ganrif ddiwethaf. 

Rydym yn gwahodd myfyrwyr ymchwil, myfyrwyr sydd ar eu blwyddyn olaf o radd BA, ac ymchwilwyr gyrfa gynnar, i ymgeisio am fwrsariaeth er mwyn cymryd rhan yn y prosiect yn ystod 2023. Rhaid eich bod yn medru darllen a siarad Cymraeg, Ffrangeg a/neu Lydaweg yn gwbl rhugl. Rhaid bod gennych ddiddordeb yn y cysylltiadau hanesyddol rhwng Cymru a Llydaw.

Cliciwch am ragor o fanylion am y prosiect. Cliciwch am fanylion y bwrsariaeth a sut i ymgeisio. Dyddiad cau 28 Chwefror 2023.

Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig: 

Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil.

Gallwch weld manylion am waith myfyrwyr ymchwil presennol a blaenorol yma.

Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk.

Staff y Ganolfan

Staff Geiriadur Prifysgol Cymru