Grŵp Ymchwilio i Iechyd a Llesiant Seicolegol
Mae’r gwaith ymchwil yn y maes hwn yn canolbwyntio ar ddeall dimensiynau seicogymdeithasol ac emosiynol yn ogystal â rhagfynegwyr iechyd corfforol a llesiant meddwl, gan gynnwys ymchwil i ansawdd bywyd.
Mae prosiectau ymchwil yn y maes hwn yn cynnwys:
- Oncoleg Seicogymdeithasol (clear here to read more about this research - link to separate tile/button needed here)
- Rôl dysmorphia cyhyrau a hunan-barch mewn defnyddwyr steroid hirdymor (link to full text paper here please)
- Adferiad dynion ifanc a hunan-newid ar ôl anhwylder camddefnyddio sylweddau
- Ystyr ymarfer corff eithriadol mewn menywod sydd ag anorecsia nerfosa (mewn cydweithrediad â Dr Liv Kolnes, Ysgol Gwyddorau Chwaraeon Norwy, Oslo)
- Ymatebion seicolegol i anaf chwaraeon
- Archwilio gwelliant iechyd a arweinir gan fferyllfeydd cymunedol er mwyn hyrwyddo ymddygiadau priodol ar gyfer diogelwch haul (link to free text of paper here)
- Gwerthusiad ansawdd bywyd ar gyfer technolegau a gynorthwyir ar gyfer plant sydd ag anableddau
Aelodau’r Grŵp Ymchwil:
- Dr Ceri Phelps (Arweinydd y Grŵp Ymchwil)
- Dr Lymarie Rodriguez-Morales
- Dr Stuart Jones
Prosiectau Cyfredol y Grŵp Ymchwil:
- Oncoleg Seicogymdeithasol sy’n ymwneud â chanser eilaidd y fron
- Llesiant Staff GIG
- Gwerthuso Pecyn Cymorth Canser Ar-lein
- Therapi seiliedig ar natur
- Adferiad Anaf Chwaraeon
- Straen ac Iechyd Meddwl sy’n gysylltiedig â Covid-19
Allbynnau prosiectau blaenorol:
- Profiadau menywod lle cafwyd bod canser eilaidd y fron arnynt
- Gwelliant iechyd a arweinir gan fferyllfa: Ymgyrch canser y croen
- Ymyriad seiliedig ar ecotherapi ar gyfer menywod sydd wedi cael eu heffeithio gan ganser y fron
- Datblygu ymyriad ar-lein ar gyfer pobl ifanc sydd wedi cael eu heffeithio gan ganser (C:EVOLVE)
- Gwellhad mewn Cymdeithasau Deuddeg Cam
- Gwellhad cynnar mewn Cymdeithasau Deuddeg Cam
- Gwellhad yn dilyn Caethiwed
- Alcoholigion Anhysbys, adferiad a gofalu am eich hun