Grŵp Ymchwilio i Wybyddiaeth Gymhwysol

Psychosocial Oncology

Mae ymchwil yn y maes hwn yn canolbwyntio ar ddeall y cysylltiadau rhwng ffactorau cymdeithasol, emosiynol a gwybyddol a phrofiad canser, gan gynnwys geneteg canser, gydag arbenigedd penodol wrth ddatblygu a gwerthuso ymyriadau seicolegol ar gyfer amrywiaeth o boblogaethau canser.

Mae prosiectau ymchwil yn y maes hwn yn cynnwys:

  • Ysgoloriaeth PhD KESS II: Y Pecyn Gwerthuso Seicogymdeithasol ar gyfer Canser: Datblygu protocol gwerthuso wedi ei deilwra a chronfa ddata canlyniadau ymchwil ar gyfer gwerthuso cymorth canser a mentrau atal.  Cydweithredu â Gofal Canser Tenovus a’r Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol, Y Drindod Dewi Sant.
  • Y prosiect C:EVOLVE: Datblygu a gwerthuso ymyriad cwnsela ar-lein i bobl ifainc y mae canser wedi effeithio arnynt (wedi ei ariannu gan Gynllun Grantiau Arloesi 2012 Elusen Gofal Canser Tenovus)
  • Angenrheidiol ond yn annigonol? Cynnwys pobl ifanc yn natblygiad ymyriad ar-lein sy’n seiliedig ar avatar er mwyn darparu cymorth seicogymdeithasol i bobl ifanc y mae eu diagnosis eu hunain o ganser neu ddiagnosis aelod o’r teulu wedi effeithio arnynt VIMO Link
  • Archwilio effaith ymyriad ecotherapi ar gyfer menywod sy’n dioddef oherwydd canser o’r fron (ariannwyd gan Gynllun Grantiau Arloesi Gofal Canser Tenovus, 2010).
  • Hau’r had neu fethu â blodeuo? Astudiaeth dichonolrwydd o ymyriad syml seiliedig ar ecotherapi mewn menywod y mae canser o’r fron wedi effeithio arnynt
  • Mae Dr Phelps yn trafod erthygl ar astudiaeth dichonolrwydd a oedd yn cynnwys cleifion canser o’r fron yn tendio “bowls gardd”.  
  • Deall profiadau menywod sydd â chanser eilaidd o’r fron
  • Cynhadledd arloesol sy’n rhannu cyngor am fywyd ar ôl diagnosis canser eilaidd

Staff sy’n gweithio yn y maes hwn:

  • Dr Ceri Phelps
  • Dr Paul B. Hutchings
  • Zoe Cooke (myfyriwr PhD)