West-Street-Channel-southern-edge

Mae ein hymchwil yn cynnwys ymchwil sydd ar flaen y gad ac yn rhagorol yn rhyngwladol o ystod eang o ddisgyblaethau yn y Gwyddorau Cymdeithasol a’r Dyniaethau, gan gynnwys Gwyddorau Amgylcheddol a Morol, Archaeoleg, Daearyddiaeth, Hanes ac Anthropoleg.

Mae ymchwil yn y maes hwn yn amrywio o foelu cofnodion newid yn yr hinsawdd hanesyddol i ddyddio coed coedwigoedd hynafol a pholisi byd-eang ar newid yn yr hinsawdd a rheoli arfordir, i arferion a diwylliannau treftadaeth a defnydd o fwyd, i astudio testunau canoloesol a’u ffynonellau. Wedi’i nodi am ei effaith uchel o ran ymchwil, mae ymchwil yn y maes hwn wedi cyfrannu at ddatblygiadau cymhwysol sylweddol yn rhyngwladol.

Cymunedau, y Gorffennol a’r Presennol

Caiff cymuned ei ddehongli mewn gwahanol ffyrdd; cymunedau gwledig, archaeoleg cymunedol, cymunedau cysylltiedig, a chymunedau testunol. Ym mhob un o’r achosion hyn, mae ymchwil wedi ceisio ymgysylltu cynulleidfaoedd cyfoes â’u treftadaeth trwy gynrychiolaeth, gan hefyd archwilio i’r ffyrdd y caiff materion cynaliadwyedd eu cysylltu â’r berthynas rhwng y gorffennol, y presennol a’r dyfodol. Ymhlith y meysydd ymchwil a’r prosiectau allweddol, mae:

Amgylcheddau, Morluniau a Pharthau Arfordirol

Fel holl ymchwil y clwstwr, mae’r themâu morluniau a pharthau arfordirol yn ffocysu ar brosesau ffisegol ac ymchwil arfordirol ar wydnwch ac addasu i effeithiau d yn newid yn yr hinsawdd yn ogystal â darganfod a rhagfynegi safleoedd archeolegol newydd. Yma, caiff y gwaith ei drefnu trwy’r themâu a ganlyn, y mae gan llawer ohono ffocws cymhwysol a pholisi gyda lefel uchel o gynrychiolaeth ryngwladol mewn fforymau byd-eang.  Ymchwilir i’r thema mewn amrywiaeth o ffyrdd trwy’r prosiectau a meysydd gweithgarwch ymchwil a ganlyn:

Tirluniau

Mae ymchwil yn y maes hwn wedi cael effaith fawr ar nifer o wahanol fuddiolwyr anacademaidd, y diweddaraf o’r rhain gyda phrosiect Ystrad Fflur sydd wedi bod yn gatalydd ar gyfer codi proffil Ystrad Fflur yn un a adnabyddir yn safle o arwyddocâd cenedlaethol a rhyngwladol. Mae gwaith yn Qatar a’r Alban wedi bod yn sail i gofnodion hanesyddol perthnasol trwy weithio’n agos ag asiantaethau treftadaeth cenedlaethol, tra bo ymagweddau newydd at astudio seryddiaeth a ‘awyrluniau’ yn llunio agendâu ymchwil. Caiff y thema eang hwn ei archwilio mewn amrywiaeth o ffyrdd trwy’r prosiectau a ganlyn:

Bydoedd Materol

Daw’r gainc hon ag ymchwil ar dechnolegau a chadwyni cynhyrchu diwylliant materol at ei gilydd, yn ogystal â phryder ehangach gyda chysyniadau cysylltiedig â defnyddio diwylliant materol yn y byd hynafol a modern. Y nodau allweddol mewn perthynas ag archaeoleg ac astudiaethau seiliedig ar destun yw sicrhau bod ein hymchwil yn cyfrannu at ddatblygiad a dealltwriaeth o’r ffordd y caiff casgliadau amgueddfeydd eu defnyddio gan gymuned o guraduron, ymchwilwyr, myfyrwyr ac ymwelwyr eraill; yn achos treftadaeth bwyd, deuir ag ymagweddau gwleidyddol, economaidd ac anthropolegol meddygol at ei gilydd i archwilio i ystyron ac arferion defnydd bwyd. Mae’r prosiectau allweddol yn cynnwys:

Operation CLIC Europe

Mae Operation CLIC Europe yn gymhwysiad ymchwil ac arloesi i’r rhaglen waith,
'Gwydnwch yn erbyn trychineb a newid yn yr hinsawdd'

Cyhoeddiadau
Canolfan BRIDGES UNESCO

Yn un o 5 canolfan yn fyd-eang, bydd y ganolfan yn y Drindod Dewi Sant yn hyrwyddo ymchwil, addysgu a mentrau sy’n defnyddio Gwyddor Cynaliadwyedd i chwilio am atebion cyfiawn a pharhaol i broblemau cyfredol.