Skip page header and navigation

Ymchwil

Sefydlwyd Prifysgol yn Llambed yn 1822 ac mae iddi draddodiad clodwiw ym maes ymchwil, a hwnnw’n ymchwil byd-eang ei bersbectif ond sydd hefyd yn rhoi sylw i bryderon cyfoes.

Rydym yn ymfalchïo mewn gwybod bod ein hysgoloriaeth yn hygyrch y tu hwnt i’r academi ac yn ymdrechu i sicrhau ei bod yn rhoi sylw i heriau heddiw (cynaliadwyedd, newid hinsawdd a globaleiddio). Mae ymchwil yn Llanbedr Pont Steffan yn gwneud yn union hynny. Darllen mwy

Mae ein hymchwil yn mabwysiadu safbwynt rhyngddisgyblaethol cadarn. Mae’r fframwaith hwn yn creu amgylchedd bywiog sy’n ehangu’r traddodiadol i’r cyfoes ac yn tynnu’r gorffennol i’r presennol trwy ymgysylltu â diwylliannau hynafol a chymunedau modern yn benodol.

Picture of outside Lampeter Campus, grey brick building with grey flagstone walkway with a water fountain in the centre and two green bushes in grey square plant pots on a sunny day

Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Beiblaidd

O’r dechrau yn 1822, roedd Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Beiblaidd wrth wraidd Llanbedr Pont Steffan, wedi’u hategu’n ddiweddarach gan Hanes yr Eglwys a hanes crefyddol, Astudio Crefyddau, Astudiaethau Islamaidd, Athroniaeth, Moeseg, y Clasuron, ac Archaeoleg ac Anthropoleg. Yn fwy diweddar, datblygwyd Astudiaethau Tsieineaidd, Llenyddiaeth Saesneg ac Astudiaethau Rhyng-ffydd. Mae ein gwaith yn dod â’r gorffennol yn fyw ac yn archwilio’r presennol er mwyn ysbrydoli dyfodol gwell, gwybodus. Cyflawnir hyn, trwy nifer o ymchwil sy’n cydblethu, gan dynnu ar brosiectau yng Nghymru, y DU, Môr y Canoldir, yr Aifft a’r Dwyrain Canol, Affrica, Tsieina ac America sydd gyda’i gilydd yn cydgysylltu i bersbectif byd-eang o ddynoliaeth.

Mae’r themâu amrywiol, ond rhyng-gysylltiedig hyn, yn caniatáu inni bontio’r gorffennol a’r presennol a bwydo i mewn i’n haddysgu o safon fyd-eang sy’n cael ei harwain gan ymchwil.