Mae ein hymchwil yn drawsddisgyblaethol, ac mae’n cwmpasu maes eang o waith mewn Peirianneg Fodurol, Logisteg a Pheirianneg Gweithgynhyrchu, ynghyd â Chyfrifiadura Cymhwysol.
Canolbwyntia ein dull gweithredu ar ddatrys problemau agos i’r farchnad sy’n ymwneud â diwydiant, sy’n berthnasol i gwmnïau rhanbarthol, ac sydd yn aml yn gofyn am ddatrysiadau dylunio arloesol a tharged o ran system rheoli amgylcheddol.
Mae’r gwaith yn canolbwyntio ar y rhyngweithio rhwng ffotonau ynni isel a meinwe ddynol. Mae llawer o’r gwaith wedi’i wneud trwy brosiectau ymchwil cydweithredol gyda chwmnïau rhyngwladol sydd wedi’u lleoli’n lleol mewn dau faes ymchwil.
- Cymwysiadau aml-ffiseg o safon ddiwydiannol ar gyfer rhagfynegiadau straen a blinder
- Codau modelu ar gyfer efelychu’r rhyngweithio rhwng golau a meinwe.
Rhagor o wybodaeth am Fodelu dyfeisiau meddygol optoelectronig yn gyfrifiadurol
Y brifysgol yw’r prif bartner academaidd yng Nghanolfan Ddilysu NDT yn ECM2 Port Talbot a weithredir gan TWI. Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru a’r EPSRC wedi hwyluso caffael offer a chapasiti o’r radd flaenaf, gan gynnwys:
- Uwchseineg
- Thermograffi isgoch
- Mesur straen ffotoelastig yn gyfrifiadurol
- Fibrometreg sganio laser Doppler
Yn ychwanegol at yr adnoddau hyn, mae gan y brifysgol ddigonedd o offer microscopeg optegol confensiynol a chyfleusterau fideo digidol cyflymder uchel ac mae’n bartner yn rhaglen ASTUTE (Technolegau Cynhyrchu Cynaliadwy Uwch) i Gymru gyfan sy’n darparu manteision uniongyrchol i fusnesau.
Rhagor o wybodaeth am Brofion Anninistriol
Dyma un o brif gryfderau’r Gyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg. Lleolir y gwaith mewn dwy athrofa ymchwil ryngddisgyblaethol, gyda’r ddwy ohonynt â seilwaith rhagorol ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth, sydd wedi cael effaith drawsnewidiol ar y gymuned, gan gynhyrchu dros 168 o atebion dylunio pwrpasol ar gyfer yr anabl.
Rhagor o wybodaeth am ymchwil gweithgynhyrchu
Canolbwyntia’r ymchwil ar bedwar maes penodol, pob un ohonynt â ffocws cryf ar ddeilliannau ymchwil cymhwysol gyda gweithgynhyrchwyr a gweithwyr proffesiynol ar draws rhwydweithiau cyfrifiadurol a systemau gwybodaeth, y diwydiannau meddalwedd a gemau cyfrifiadurol, y sector gofal iechyd a diagnosteg feddygol a thechnolegau addysg.
- Gwasanaethau Masnachol – gwelir INSPIRE
Yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd,
Yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd