Yn Niwrnod Agored Y Drindod Dewi Sant, gallwch:
- Gwrdd â'r darlithwyr a fydd yn helpu i lunio eich dyfodol.
- Ymweld â Chaerdydd a blasu diwylliant yr ardal.
- Ystyried y llety sydd ar gael.
- Darganfod y mannau lle gallwch astudio a chymdeithasu.
- Eich dychmygu eich hun yn byw ac yn astudio yng Nghaerdydd.
Diwrnod Agored Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru (WAVDA)
11 Mehefin 2022
Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer y cyrsiau canlynol:
Dawns Fasnachol (BA) | BA Theatr Gerdd | BA Perfformio (Cyfrwng Cymraeg) |BMus Perfformio Lleisiol | MA Theatr - Perfformio (Cyfrwng Cymraeg) | MA Theatr - Cyfarwyddo (Cyfrwng Cymraeg) | MA Theatr (Theatr Gerddorol). | MA Astudiaethau Lleisiol Uwch | MA Perfformio (Repetiteur a Chyfeilio)
Academi unigryw sy'n cynnig rhaglenni arbenigol a fydd yn darparu’r myfyrwyr gyda thechneg gadarn ynghyd â dealltwriaeth eang o'r diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt.
Gan adeiladu ar lwyddiant Academi Llais Ryngwladol Cymru a Chanolfan Berfformio Cymru, mae WAVDA yn bair o greadigrwydd, gan ddatblygu actorion, cantorion a chyfarwyddwyr y dyfodol. Mae moeseg gwaith yr Academi yn seiliedig ar barch a chydweithio, mae ein myfyrwyr yn gweithio gydag arbenigwyr o’r diwydiant i fireinio eu sgiliau yn barod ar gyfer eu gyrfaoedd.