Crefftau Dylunio – Sesiwn Flasu Ar-lein
Oes gyda chi ddiddordeb mewn ymuno â’n gradd Crefftau Dylunio yng Ngholeg Celf Abertawe PCYDDS? Os felly, cofrestrwch ar un o’n sesiynau blasu isod!
LLE I GREU – gweithdy ar-lein Crefftau Dylunio gyda Cath Brown ac Anna Lewis.
Darganfyddwch Grefftau Dylunio yn ein sesiynau blasu ar-lein, sy’n rhoi golwg i chi ar fyd crefftau dylunio a gwneud……
Mae’r gweithdai ymarferol ar-lein hyn yn rhoi profiadau byw o greu pethau gyda staff a myfyrwyr y rhaglen Crefftau Dylunio. Bydd staff yn trafod technegau a phrosesau creu syniadau yn unol â’u harfer eu hun yn ogystal â rhoi enghreifftiau ac arddangosiadau o sut maent yn gweithio ac yn creu. Dosberthir taflen gam-wrth-gam am y prosiect a’r deunyddiau cyn y sesiwn, y gellir ei chwblhau yn annibynnol gartref neu gyda’ch athrawon eich hun os dymunwch wneud hynny.
(Gellir trafod amseru’r gweithdai i gyd-fynd ag amserlenni. A fyddech cystal ag e-bostio staff i wneud cais am unrhyw newidiadau sydd eu hangen os gwelwch yn dda artanddesign@uwtsd.ac.uk).
Os ydych yn athro/darlithydd gyda bwciad grŵp, a hoffech drefnu sesiwn bwrpasol, a fyddech cystal â chysylltu ag artanddesign@uwtsd.ac.uk
Gweler y dudalen Design Crafts (MDes, BA) am ragor o wybodaeth am y cwrs.