Dylunio Cynnyrch a Dodrefn – Sesiwn Ar-lein
Mae llawer o fyfyrwyr sy’n ystyried y brifysgol â diddordeb mewn bod yn arloesol ac â gweledigaeth drwy ddylunio cynnyrch a dodrefn i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau, ond nid ydynt yn siŵr iawn beth mae hynny’n ei olygu. Ai chi yw hwnnw? Ydych chi’n berson ‘syniadau’ gyda digonedd o chwilfrydedd, a hoffai ddysgu am lawer o bethau o ddylunio cysyniadau i argraffu 3D? Os felly, efallai mai ein rhaglen ni yw’r rhaglen i chi. Beth am ddod i’n Sesiwn Flasu Ar-lein i ddysgu rhagor.
Ymunwch â ni am gyflwyniad i ddylunio, lle byddwn yn archwilio ystod o dechnegau modelu empathig er mwyn ystyried heriau dylunio bob dydd. Mae’r sesiwn yn anffurfiol, yn gyfeillgar ac yn hwyl ac mae’n cynnwys gweithdy cyffrous lle cewch gyfle i sylweddoli beth yw anableddau pobl eraill, rhywbeth y gallech ei ennill drwy’r broses heneiddio naturiol!
Dyma’ch cyfle chi i ofyn cwestiynau a dysgu am y pynciau rydym ni’n eu cwmpasu gydol ein cwrs gradd. Byddwn ni’n rhoi cynghorion defnyddiol i chi ynghylch ymgeisio, yn rhannu gwaith myfyrwyr cyfredol ac yn dweud wrthych beth mae’n ei feddwl i weithio yn niwydiant cyfnewidiol dylunio. Byddem ni’n dwlu cwrdd â chi, felly cofiwch gofrestru am unrhyw un o’r dyddiadau isod.
Os ydych chi’n athro/darlithydd sydd eisiau neilltuo lle fel grŵp a hoffech drefnu sesiwn bwrpasol, cysylltwch ag artanddesign@uwtsd.ac.uk