Addysg Athrawon – Sesiynau Blasu Ar-lein
Dyddiadau Newydd
- Dydd Mercher 29 Tachwedd am 7pm
- Dydd Mawrth 12 Rhagfyr am 7pm
- Dydd Mercher 10 Ionawr am 7pm
- Dydd Mercher 31 Ionawr am 7pm
- Dydd Mercher 28 Chwefror am 7pm
Mae Addysg Athrawon ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi parhau gydol y pandemig, ac rydym yn ymfalchïo ein bod wedi cefnogi cannoedd o ddarpar athrawon i raddio i mewn i’r proffesiwn addysgu er gwaethaf yr heriau niferus mae hyn wedi’u cyflwyno.
Fel pob blwyddyn, rydym yn cynllunio ymlaen ar gyfer cyflwyno ein rhaglenni TAR Cynradd, TAR Uwchradd a BA Addysg Gynradd o fis Medi nesaf a hoffem ichi allu manteisio ar y cyfle i ddysgu rhagor am beth sydd gan y Drindod Dewi Sant i’w gynnig ...
Felly, cymerwch sedd, mewngofnodwch ar eich dyfais a dewch i gwrdd â’n Haddysgwyr Athrawon cyfeillgar a chydweithwyr o ysgolion partner. Er bod ein darpariaeth yn y brifysgol yn cael ei chyflwyno’n bennaf yn Abertawe a Chaerfyrddin, byddwch yn treulio’r rhan fwyaf o’ch amser allan mewn ysgolion partner sydd wedi’u lleoli ar draws de Cymru, o Sir Benfro yn y gorllewin i Sir Fynwy yn y dwyrain.
Gyda chynifer o ddatblygiadau newydd, does dim amser gwell wedi bod i ymuno â’r proffesiwn addysgu – a dyma’r amser i gymryd y cam hwnnw at yrfa newydd, gyffrous a boddhaol yn y byd addysg – ac i wneud gwahaniaeth... Addysgwch!
Mae’r Sesiynau Blasu Ar-lein wedi’u llunio benodol ar gyfer y rheini sydd â diddordeb mewn dysgu rhagor am yrfa’n addysgu – cewch glywed gan ein Haddysgwyr Athrawon, cwrdd â’n partneriaid ysgol a chael ateb i’ch holl gwestiynau am y rhaglenni a restrir isod: