Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Meysydd Pwnc  -  Cyrsiau Twristiaeth, Digwyddiadau a Lletygarwch  -  World Young Chef Young Waiter Wales 2023

World Young Chef Young Waiter Wales 2023

The eight 2022 contestants stand together, some dressed in chef's whites, others in shirts and ties with black aprons.

Amdano World Young Chef Young Waiter Wales

Croeso i Gymru – welcome to Wales! 

Gwlad wedi’i siapio ar dair ochr gan gefnfor dihalog, lle mae’r mynyddoedd, y rhostiroedd, yr afonydd a’r porfeydd wedi’u britho gan dda byw ac yn llawn bywyd, nid oes rhyfedd bod Cymru yn gartref i gynnyrch o safon fyd-eang, yn ogystal â phobl a all goginio a’i baratoi’n fedrus.  

Rydym ninnau’n gwybod hyn, ond mae’n bryd bod gweddill y byd yn ei wybod hefyd.

Dyna pam mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn dod â’r gystadleuaeth World Young Chef Young Waiter i Gymru, er mwyn croesawu’r gorau oll gall y wlad werdd hon gynnig.

Wedi’i sefydlu yn 1979, mae’r gystadleuaeth World Young Chef Young Waiter yn anelu at hyrwyddo gyrfaoedd yn y diwydiant croeso, ac mae’n agored i bob pen-cogydd a gweinydd proffesiynol sydd o dan 28 mlwydd oed ac sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru. 

Gwnaiff yr ymgeiswyr gwrdd â rhai o ffigurau lletygarwch blaenllaw Cymru ar ein panel o feirniaid arbenigol, gwella eu sgiliau allweddol a gwneud cysylltiadau â chystadleuwyr eraill mewn amgylchedd llawn hwyl a heriol sy’n rhoi boddhad. 

Caiff rowndiau terfynol 2023 Cymru eu cynnal yn Abertawe ar Fedi 11eg, a gwnaiff enillwyr y gystadleuaeth hon gystadlu yn rowndiau terfynol y byd.

Mae hanes hir Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant o Addysg Uwch yng Nghymru yn cynnwys Ysgol Twristiaeth a Lletygarwch sydd wedi hen ennill ei phlwyf ac wedi dod â gwell gyfleoedd i bobl Cymru.

Gan wneud cysylltiadau cryfion â busnesau a phartneriaid yn y diwydiant er mwyn creu rhwydweithiau sy’n gwella rhagolygon myfyrwyr a chymunedau, mae’r Brifysgol wrth ei bodd yn croesawu’r gystadleuaeth World Young Chef Young Waiter, gan ehangu’r rhwydwaith hwn i ymgorffori sector Lletygarwch ehangach Cymru.

Cofrestrwch heddiw er mwyn bod yn rhan o’r datblygiad cyffrous hwn ar sîn fwyd gynyddol Cymru.

A few fruits and pieces of sponge arranged at the centre of a large oatmeal-coloured plate.

  

A waiter contestant collects a wooden boards with a few pieces of miscellaneous food carefully arranged on each.
A jug of translucent liquid is poured over a small round seafood dish. White mist pours over the sides as the liquid touches the food.
A chef contestant flambees something in a pan – the flames reach up to the extractor fans.

Pam cymryd rhan yn y gystadleuaeth World Young Chef Young Waiter?

Caiff ein hymgeiswyr 2023 gyfle i gwrdd â phroffesiynolwyr proffil uchel y diwydiant, dysgu sgiliau newydd a gwneud ffrindiau newydd mewn cystadleuaeth heb ei hail.  

Mae bod yn rhan o World Young Chef Young Waiter yn brofiad unwaith mewn oes. Mae’n gyfle i gystadleuwyr brofi eu hyfedredd a symud eu gyrfaoedd ymlaen, ac ar yr un pryd dysgu, magu perthnasau newydd a datblygu eu potensial. Ond yn bennaf, mae Young Chef Young Waiter yn hwyl ffantastig! 

Mae amcan World Young Chef Young Waiter yn un syml: datgelu’r dalent ifanc orau oll sydd yn ein diwydiant a helpu cyfarparu’r unigolion ifanc hyn â’r sgiliau perthnasol, y wybodaeth ddiweddaraf a’r rhwydwaith sydd ei angen arnynt i lwyddo ym myd lletygarwch. Wedi’i dyfeisio gan broffesiynolwyr mawr eu parch, mae gan y gystadleuaeth ymagwedd fodern a ffres sy’n canolbwyntio ar dasgau a meini prawf sy’n heriol, addysgol ac sy’n hwyl.

Mae’r gystadleuaeth World Young Chef Young Waiter yn arddangos pob agwedd ar letygarwch. Mae’n ysbrydoli, yn grymuso ac mae’n gynhwysol, ond yn fwyaf oll, rydym yn dathlu galluoedd ac amrywiaeth ein diwydiant aruthrol.  

Mae llawer o’r enillwyr blaenorol wedi mynd ymlaen a llwyddo’n fawr iawn ym myd lletygarwch, ac mae WYCYW yn falch i gefnogi sêr dyfodol ceginau a bwytai Prydain. Mae’r enillwyr a’r beirniaid blaenorol yn cynnwys rhai o enwau enwocaf y diwydiant — Mark Sargeant, Marcus Wareing, Simon King, John Torode, Annie a Germain Schwab, Jeremy King, Raymond Blanc OBE, Heston Blumenthal OBE,  Yr Iarll Bradford, Yr Arglwydd Forte, Angela Hartnett MBE, Simon Girling a Fred Sirieix. 

Rhagor o wybodaeth yn dod yn fuan am feirniaid a chystadleuwyr 2023 …