Mourad smiles brightly wearing an open-necked shirt and blazer.

Mourad Ben Tefka – Beirniad y Gweinyddion

Cyfarwyddwr Bwytai — Seren Collection

Yn dod o Cannes heulog, sydd ar y Côte D’Azur, cafodd Mourad ei flas cyntaf o letygarwch pan oedd e’n 12 mlwydd oed, yn helpu mewn bwyty arfordirol yr oedd ei deulu’n ei berchen, lle gwnaeth ef weithio fel pen-cogydd ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau’r ysgol am dros 10 mlynedd.

Wrth astudio am ei radd Meistr mewn Ieithoedd Tramor Cymhwysol ym Mhrifysgol Nice, byddai Mourad yn gweithio mewn rolau Blaen Tŷ i westai moeth Monaco yn ystod yr adegau pan fyddai digwyddiadau megis y ‘Formula 1 Grand Prix’ yn cael eu cynnal. Ei rôl amser llawn gyntaf oedd fel gweinydd iau, yn gweithio i’r grŵp gwestai mawreddog Société des Bains de Mer ym Monaco. Yna, symudodd i’r DU, gan dreulio nifer o flynyddoedd yn Le Manoir aux Quat’Saisons cyn ehangu ei brofiad mewn lleoliadau Prydeinig eiconig eraill, megis l’Ortolan a Hambleton Hall.

Dychwelodd i Le Manoir fel Rheolwr Bwyty, gan dreulio’r 18 mlynedd nesaf yn helpu Raymond Blanc i berffeithio ei weledigaeth ryfeddol ar gyfer y gwesty a’r bwyty, ac yn fwy diweddar yn rhinwedd ei swydd fel Cyfarwyddwr Bwyty. Yn ystod ei gyfnod yn Le Manoir, daeth Mourad yn Feistr o’r  Celfyddydau Coginiol yn 2013.

Ymunodd Mourad â’r Seren Collection fel Cyfarwyddwr Bwytai yn 2020, yn cyfnewid Swydd Rydychen am arfordir prydferth Sir Benfro. Mae Mourad yn benteulu balch, a phan nad yw’n gweithio, mae’n mwynhau garddio, cadw’n iach, coginio i’r teulu a fforio’r rhan brydferth hon o’r byd.