Mae Ysgol Fusnes Caerfyrddin yn cynnig detholiad o gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig blaengar, mewn pynciau cysylltiedig â Busnes a Rheolaeth, sy’n cael eu tanategu gan ymagwedd foesegol, gynaliadwy a phroffidiol at fusnes.
Yn y blynyddoedd diweddar mae geiriau fel moeseg, cynaliadwyedd a chyfrifoldeb wedi trawsnewid o ddadlau damcaniaethol i ystyriaethau ymarferol iawn o fewn busnesau bach a mawr eu maint.
Mae arfer busnes cynaliadwy wedi dod yn flaenoriaeth strategol allweddol ac mae sefydliadau wedi sylweddoli nid yn unig bod angen i arferion a modelau economaidd y dyfodol drawsnewid yn unol â deinameg newid cymdeithasol ac amgylcheddol, ond bod meddwl yn gynaliadwy, mewn gwirionedd, yn gwneud busnes yn fwy cystadleuol.
Mae meddwl cynaliadwy wrth wraidd ein rhaglenni ac maent yn galluogi i ddysgwyr herio patrymau presennol, cwestiynu patrymau newydd a dadlau ynghylch datrysiadau busnes a fydd yn eu paratoi at waith yn yr amgylchedd newidiol sydd ohoni yn yr 21ain ganrif.
Cyrsiau Israddedig
Cyrsiau Uwchraddedig
- Dr Louise Emanuel, Uwch Ddarlithydd a Chyfarwyddwr Rhaglen y BA Busnes a Rheolaeth yng Nghaerfyrddin l.emanuel@uwtsd.ac.uk
- Dr Roisin Mullins Athro Cyswllt, Uwch Ddarlithydd a Chyfarwyddwr Rhaglen y BSc Technoleg Gwybodaeth Busnes yng Nghaerfyrddin, r.mullins@uwtsd.ac.uk
- Dr Alex Bell, Uwch Ddarlithydd a Chyfarwyddwr Rhaglen yr MBA Meistr mewn Gweinyddiaeth Busnes (ar-lein), a.bell@uwtsd.ac.uk
- Mr Anthony Burns, Darlithydd, a.burns@uwtsd.ac.uk
- Dr Antje Cockrill, Uwch Ddarlithydd, a.cockrill@uwtsd.ac.uk
- Mr Glenn Behenna, Darlithydd a Chyfarwyddwr Rhaglen y rhaglenni Sgiliau yn y Gweithle. g.behenna@uwtsd.ac.uk.
Pam astudio yma?
Mae campws y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin yn darparu amgylchedd dysgu ysgogol a chefnogol lle ceir mannau dysgu o’r radd flaenaf ac adnoddau o ansawdd uchel, ar y cyd â lawntiau gwyrdd, ardaloedd wedi’u tirlunio a mannau cymdeithasol hyblyg.
Mae gan yr Ysgol ymagwedd flaengar a thrawsffurfiol at ddysgu sy'n meithrin annibyniaeth a hunanbenderfyniad yn ein dysgwyr.
Caiff myfyrwyr israddedig gyfle i dreulio semester yn astudio dramor, mewn prifysgolion yn UDA a Chanada.
Yng Nghaerfyrddin, rydym yn cynnig ymagwedd heriol mewn amgylchedd dysgu cefnogol a gyflwynir gan staff academaidd tra chymwys sy’n weithgar ym maes ymchwil.