Mae’r Athrofa Rheolaeth ac Iechyd yn ymrwymedig i ddatblygu graddedigion creadigol, medrus a chyflogadwy.
Mae integreiddio theori ac ymarfer, dod o hyd i atebion i broblemau anodd a gallu deall eu cryfderau personol yn rhoi pasbort sgiliau i bob person graddedig ar gyfer cyflogadwyedd.
Rhoddir sylw mawr i daith bersonol, broffesiynol ac addysgol y myfyriwr; gan ddarparu cyfleoedd hyblyg i astudio ar raglenni a grëwyd gyda diwydiant a'r sector cyhoeddus.
Ein Lleoliadau
Mae’r Athrofa’n darparu rhaglenni ar draws campysau’r Brifysgol yng ngorllewin Cymru, gyda myfyrwyr yn dilyn rhaglenni ar Gampws Busnes Abertawe, Campws Caerfyrddin ac yn ein colegau partner.
Yn ogystal, mae’r Athrofa’n rhannu llawer o’i rhaglenni â’n campws yn Llundain a Chanolfannau Dysgu Rhyngwladol ar draws y byd.
Rydym hefyd yn ymrwymedig i ddysgu yn y gweithle ac mewn lleoliadau allgymorth cymunedol, gan sicrhau bod cynifer o fyfyrwyr ag y bo modd yn gallu cyfuno eu hastudiaethau a’u hymrwymiadau gwaith a theulu.